Rheoliadau’r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol (Cymru) 2015

Offerynnau Statudol Cymru

2015 Rhif 1358 (Cy. 132)

Gofal Cymdeithasol, Cymru

Rheoliadau’r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol (Cymru) 2015

Gwnaed

4 Mehefin 2015

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

9 Mehefin 2015

Yn dod i rym

1 Hydref 2015

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 133(1) a (2) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol (Cymru) 2015.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Hydref 2015.

(3Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “aelod o’r Bwrdd” (“Board member”) yw aelod o’r Bwrdd Cenedlaethol;

ystyr “Bwrdd Cenedlaethol” (“National Board”) yw’r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol;

ystyr “Bwrdd Diogelu” (“Safeguarding Board”) yw bwrdd diogelu a sefydlir o dan adran 134 o’r Ddeddf;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Cyfansoddiad

3.—(1Mae’r Bwrdd Cenedlaethol i’w ffurfio o hyd at 6 aelod a benodir gan Weinidogion Cymru.

(2Rhaid i Weinidogion Cymru benodi un o aelodau’r Bwrdd yn gadeirydd y Bwrdd Cenedlaethol.

(3Rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu’r telerau y penodir aelodau’r Bwrdd odanynt.

(4Caiff Gweinidogion Cymru ddarparu staff ac adnoddau eraill i gynorthwyo’r Bwrdd Cenedlaethol i gyflawni ei swyddogaethau.

Trafodion mewn cyfarfodydd

4.—(1Rhaid i’r Bwrdd Cenedlaethol ethol un o’i aelodau yn is-gadeirydd.

(2Mae’r cadeirydd neu’r is-gadeirydd i lywyddu yng nghyfarfodydd y Bwrdd Cenedlaethol.

(3Mae’r Bwrdd Cenedlaethol i wneud penderfyniadau drwy bleidlais mwyafrif syml o aelodau’r Bwrdd sy’n bresennol; mae’r person sy’n llywyddu yn y cyfarfod i gael ail bleidlais neu bleidlais fwrw os bydd y bleidlais yn gyfartal.

(43 aelod o’r Bwrdd, gan gynnwys y person sy’n llywyddu, yw’r cworwm ar gyfer cyfarfodydd y Bwrdd Cenedlaethol.

(5Rhaid i’r Bwrdd Cenedlaethol gadw cofnodion o’i gyfarfodydd a chofrestr o fuddiannau aelodau’r Bwrdd.

Grwpiau atodol a sefydlir gan y Bwrdd Cenedlaethol

5.—(1Caiff y Bwrdd Cenedlaethol sefydlu grwpiau atodol i ystyried—

(a)materion penodol,

(b)materion sy’n ymwneud â diogelu plant yn unig, neu

(c)materion sy’n ymwneud â diogelu oedolion yn unig,

ac adrodd yn ôl i’r Bwrdd Cenedlaethol.

(2Caniateir i grŵp o’r fath gael ei ffurfio o’r canlynol—

(a)aelodau’r Bwrdd yn unig,

(b)personau nad ydynt yn aelodau ac un neu fwy o aelodau’r Bwrdd, neu

(c)dim ond personau nad ydynt yn aelodau.

Cyfarfodydd rhwng aelodau’r Bwrdd Cenedlaethol a chadeiryddion Byrddau Diogelu

6.  Rhaid i un neu fwy o aelodau’r Bwrdd wahodd cadeiryddion y Byrddau Diogelu, a gwneud trefniadau i gyfarfod â hwy o leiaf ddwywaith y flwyddyn.

Ymgynghori â phobl yr effeithir arnynt

7.  Rhaid i’r Bwrdd Cenedlaethol drefnu i gyfarfod, o leiaf unwaith y flwyddyn, â grŵp o bersonau sy’n cynrychioli’r rhai y gall trefniadau i ddiogelu plant ac oedolion yng Nghymru effeithio arnynt.

Adroddiad Blynyddol

8.—(1Rhaid i’r Bwrdd Cenedlaethol gyflwyno ei adroddiad blynyddol i Weinidogion Cymru heb fod yn hwyrach na 31 Hydref bob blwyddyn, mewn cysylltiad â’r flwyddyn sy’n dod i ben ar y 31 Mawrth blaenorol.

(2Rhaid i’r adroddiad blynyddol gynnwys gwybodaeth am y canlynol—

(a)unrhyw gymorth a chyngor a roddwyd gan y Bwrdd Cenedlaethol i’r Byrddau Diogelu;

(b)unrhyw waith arall a wnaed gan y Bwrdd Cenedlaethol, neu gan grwpiau atodol a sefydlwyd gan y Bwrdd Cenedlaethol, a’r canlyniadau a sicrhawyd;

(c)digonolrwydd ac effeithiolrwydd y trefniadau a wnaed gan y Byrddau Diogelu i ddiogelu plant ac oedolion yng Nghymru, gan gynnwys —

(i)y gwersi a ddysgwyd oddi wrth adolygiadau ymarfer plant ac adolygiadau ymarfer oedolion a gynhaliwyd gan Fyrddau Diogelu ac oddi wrth adolygiadau ac ymchwiliadau eraill;

(ii)enghreifftiau o adegau pan gafodd dysgu, gwybodaeth ac adnoddau eu rhannu rhwng Byrddau Diogelu o fewn ardal Bwrdd Diogelu neu rhwng Byrddau Diogelu ledled Cymru;

(iii)enghreifftiau o fesurau effeithiol y mae Byrddau Diogelu wedi eu cymryd i roi i blant ac oedolion yr effeithiwyd arnynt gyfle i gymryd rhan mewn gwaith Bwrdd Diogelu.

(d)unrhyw argymhellion y mae’r Bwrdd Cenedlaethol yn dymuno eu cyflwyno i Weinidogion Cymru.

(3Rhaid i’r Bwrdd Cenedlaethol roi’r adroddiad blynyddol ar gael i’r cyhoedd heb fod yn hwyrach na 31 Rhagfyr yn y flwyddyn y cafodd ei gyflwyno.

(4Yn y rheoliad hwn—

(a)ystyr “adolygiad ymarfer plant” (“child practice review”) yw adolygiad a gynhelir gan Fwrdd Diogelu yn unol â rheoliad 4 o Reoliadau Byrddau Diogelu (Swyddogaethau a Gweithdrefnau) (Cymru) 2015(2) sy’n ymwneud â phlentyn; a

(b)ystyr “adolygiad ymarfer oedolion” (“adult practice review”) yw adolygiad a gynhelir gan Fwrdd Diogelu yn unol â rheoliad 4 o Reoliadau Byrddau Diogelu (Swyddogaethau a Gweithdrefnau) (Cymru) 2015 sy’n ymwneud ag oedolyn.

Mark Drakeford

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

4 Mehefin 2015

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn ymwneud â’r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol a sefydlir o dan adran 132 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Mae rheoliad 3 yn darparu bod y Bwrdd Cenedlaethol i’w ffurfio o hyd at 6 aelod a benodir gan Weinidogion Cymru.

Mae rheoliad 4 yn darparu ar gyfer trafodion yng nghyfarfodydd y Bwrdd Cenedlaethol.

Mae rheoliad 5 yn darparu i’r Bwrdd Cenedlaethol sefydlu grwpiau atodol i ystyried materion penodol.

Mae rheoliad 6 yn ei gwneud yn ofynnol i’r Bwrdd Cenedlaethol drefnu i gyfarfod â chadeiryddion y Byrddau Diogelu o leiaf ddwywaith y flwyddyn.

Mae rheoliad 7 yn ei gwneud yn ofynnol i’r Bwrdd Cenedlaethol gynnal cyfarfodydd ymgynghori blynyddol.

Mae rheoliad 8 yn darparu bod yr wybodaeth i’w chynnwys yn adroddiad blynyddol y Bwrdd Cenedlaethol ac yn darparu ynglŷn â’r amseroedd ar gyfer llunio’r adroddiad a’i gyhoeddi.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi drwy gysylltu â’r Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.