- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
Offerynnau Statudol Cymru
Gofal Cymdeithasol, Cymru
Gwnaed
4 Mehefin 2015
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
9 Mehefin 2015
Yn dod i rym
1 Hydref 2015
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 133(1) a (2) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol (Cymru) 2015.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Hydref 2015.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “aelod o’r Bwrdd” (“Board member”) yw aelod o’r Bwrdd Cenedlaethol;
ystyr “Bwrdd Cenedlaethol” (“National Board”) yw’r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol;
ystyr “Bwrdd Diogelu” (“Safeguarding Board”) yw bwrdd diogelu a sefydlir o dan adran 134 o’r Ddeddf;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
3.—(1) Mae’r Bwrdd Cenedlaethol i’w ffurfio o hyd at 6 aelod a benodir gan Weinidogion Cymru.
(2) Rhaid i Weinidogion Cymru benodi un o aelodau’r Bwrdd yn gadeirydd y Bwrdd Cenedlaethol.
(3) Rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu’r telerau y penodir aelodau’r Bwrdd odanynt.
(4) Caiff Gweinidogion Cymru ddarparu staff ac adnoddau eraill i gynorthwyo’r Bwrdd Cenedlaethol i gyflawni ei swyddogaethau.
4.—(1) Rhaid i’r Bwrdd Cenedlaethol ethol un o’i aelodau yn is-gadeirydd.
(2) Mae’r cadeirydd neu’r is-gadeirydd i lywyddu yng nghyfarfodydd y Bwrdd Cenedlaethol.
(3) Mae’r Bwrdd Cenedlaethol i wneud penderfyniadau drwy bleidlais mwyafrif syml o aelodau’r Bwrdd sy’n bresennol; mae’r person sy’n llywyddu yn y cyfarfod i gael ail bleidlais neu bleidlais fwrw os bydd y bleidlais yn gyfartal.
(4) 3 aelod o’r Bwrdd, gan gynnwys y person sy’n llywyddu, yw’r cworwm ar gyfer cyfarfodydd y Bwrdd Cenedlaethol.
(5) Rhaid i’r Bwrdd Cenedlaethol gadw cofnodion o’i gyfarfodydd a chofrestr o fuddiannau aelodau’r Bwrdd.
5.—(1) Caiff y Bwrdd Cenedlaethol sefydlu grwpiau atodol i ystyried—
(a)materion penodol,
(b)materion sy’n ymwneud â diogelu plant yn unig, neu
(c)materion sy’n ymwneud â diogelu oedolion yn unig,
ac adrodd yn ôl i’r Bwrdd Cenedlaethol.
(2) Caniateir i grŵp o’r fath gael ei ffurfio o’r canlynol—
(a)aelodau’r Bwrdd yn unig,
(b)personau nad ydynt yn aelodau ac un neu fwy o aelodau’r Bwrdd, neu
(c)dim ond personau nad ydynt yn aelodau.
6. Rhaid i un neu fwy o aelodau’r Bwrdd wahodd cadeiryddion y Byrddau Diogelu, a gwneud trefniadau i gyfarfod â hwy o leiaf ddwywaith y flwyddyn.
7. Rhaid i’r Bwrdd Cenedlaethol drefnu i gyfarfod, o leiaf unwaith y flwyddyn, â grŵp o bersonau sy’n cynrychioli’r rhai y gall trefniadau i ddiogelu plant ac oedolion yng Nghymru effeithio arnynt.
8.—(1) Rhaid i’r Bwrdd Cenedlaethol gyflwyno ei adroddiad blynyddol i Weinidogion Cymru heb fod yn hwyrach na 31 Hydref bob blwyddyn, mewn cysylltiad â’r flwyddyn sy’n dod i ben ar y 31 Mawrth blaenorol.
(2) Rhaid i’r adroddiad blynyddol gynnwys gwybodaeth am y canlynol—
(a)unrhyw gymorth a chyngor a roddwyd gan y Bwrdd Cenedlaethol i’r Byrddau Diogelu;
(b)unrhyw waith arall a wnaed gan y Bwrdd Cenedlaethol, neu gan grwpiau atodol a sefydlwyd gan y Bwrdd Cenedlaethol, a’r canlyniadau a sicrhawyd;
(c)digonolrwydd ac effeithiolrwydd y trefniadau a wnaed gan y Byrddau Diogelu i ddiogelu plant ac oedolion yng Nghymru, gan gynnwys —
(i)y gwersi a ddysgwyd oddi wrth adolygiadau ymarfer plant ac adolygiadau ymarfer oedolion a gynhaliwyd gan Fyrddau Diogelu ac oddi wrth adolygiadau ac ymchwiliadau eraill;
(ii)enghreifftiau o adegau pan gafodd dysgu, gwybodaeth ac adnoddau eu rhannu rhwng Byrddau Diogelu o fewn ardal Bwrdd Diogelu neu rhwng Byrddau Diogelu ledled Cymru;
(iii)enghreifftiau o fesurau effeithiol y mae Byrddau Diogelu wedi eu cymryd i roi i blant ac oedolion yr effeithiwyd arnynt gyfle i gymryd rhan mewn gwaith Bwrdd Diogelu.
(d)unrhyw argymhellion y mae’r Bwrdd Cenedlaethol yn dymuno eu cyflwyno i Weinidogion Cymru.
(3) Rhaid i’r Bwrdd Cenedlaethol roi’r adroddiad blynyddol ar gael i’r cyhoedd heb fod yn hwyrach na 31 Rhagfyr yn y flwyddyn y cafodd ei gyflwyno.
(4) Yn y rheoliad hwn—
(a)ystyr “adolygiad ymarfer plant” (“child practice review”) yw adolygiad a gynhelir gan Fwrdd Diogelu yn unol â rheoliad 4 o Reoliadau Byrddau Diogelu (Swyddogaethau a Gweithdrefnau) (Cymru) 2015(2) sy’n ymwneud â phlentyn; a
(b)ystyr “adolygiad ymarfer oedolion” (“adult practice review”) yw adolygiad a gynhelir gan Fwrdd Diogelu yn unol â rheoliad 4 o Reoliadau Byrddau Diogelu (Swyddogaethau a Gweithdrefnau) (Cymru) 2015 sy’n ymwneud ag oedolyn.
Mark Drakeford
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
4 Mehefin 2015
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn ymwneud â’r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol a sefydlir o dan adran 132 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Mae rheoliad 3 yn darparu bod y Bwrdd Cenedlaethol i’w ffurfio o hyd at 6 aelod a benodir gan Weinidogion Cymru.
Mae rheoliad 4 yn darparu ar gyfer trafodion yng nghyfarfodydd y Bwrdd Cenedlaethol.
Mae rheoliad 5 yn darparu i’r Bwrdd Cenedlaethol sefydlu grwpiau atodol i ystyried materion penodol.
Mae rheoliad 6 yn ei gwneud yn ofynnol i’r Bwrdd Cenedlaethol drefnu i gyfarfod â chadeiryddion y Byrddau Diogelu o leiaf ddwywaith y flwyddyn.
Mae rheoliad 7 yn ei gwneud yn ofynnol i’r Bwrdd Cenedlaethol gynnal cyfarfodydd ymgynghori blynyddol.
Mae rheoliad 8 yn darparu bod yr wybodaeth i’w chynnwys yn adroddiad blynyddol y Bwrdd Cenedlaethol ac yn darparu ynglŷn â’r amseroedd ar gyfer llunio’r adroddiad a’i gyhoeddi.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi drwy gysylltu â’r Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: