Hysbysiad dal a storio carbon4
1
At ddibenion adran 58 o’r Ddeddf, rhaid i CANC beidio ag ystyried bod system dal a storio carbon gyflawn yn barod i’w ddefnyddio oni bai ei fod wedi derbyn hysbysiad gan y gweithredwr (“hysbysiad dal a storio carbon”) mewn cysylltiad â’r system.
2
Rhaid i hysbysiad dal a storio carbon nodi—
a
pob uned gynhyrchu o fewn y gwaith tanwydd ffosil perthnasol y mae’r system dal a storio carbon gyflawn yn ymwneud â hi;
b
capasiti cynhyrchu gosodedig pob un o’r unedau cynhyrchu a nodir o dan is-baragraff (a); ac
c
y dyddiad y mae’r gweithredwr yn dymuno i’r system dal a storio carbon gyflawn gael ei hystyried yn barod i’w defnyddio.
3
Rhaid i hysbysiad dal a storio carbon gael ei gyflwyno ar unrhyw ffurf ac mewn unrhyw ddull y caiff CANC yn rhesymol ofyn amdano.