Diwygiadau i Reoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 20092

1

Mae Rheoliadau Difrod (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

2

Yn rheoliad 2(1) (dehongli), yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosoder—

  • ystyr “dyfroedd morol” (“marine waters”) yw dyfroedd sy’n cael eu dosbarthu’n ddyfroedd morol yn unol â Chyfarwyddeb 2008/56/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n sefydlu fframwaith ar gyfer gweithredu Cymunedol ym maes polisi amgylcheddol morol6;

  • ystyr “gwaelodlin” (“baseline”) yw’r gwaelodlinau y mesurir lled y môr tiriogaethol ohonynt at ddibenion Deddf Moroedd Tiriogaethol 19877;

3

Yn rheoliad 4 (ystyr “difrod amgylcheddol”)—

a

ym mharagraff (1)—

i

yn is-baragraff (b) hepgorer yr ail “neu”;

ii

hepgorer is-baragraff (c) a mewnosoder—

c

dyfroedd morol, neu

d

tir,

b

hepgorer paragraff (5) a mewnosoder—

5

Ystyr difrod amgylcheddol i ddyfroedd morol yw difrod i ddyfroedd morol sy’n effeithio’n sylweddol andwyol ar eu statws amgylcheddol.

6

Ystyr difrod amgylcheddol i dir yw halogi’r tir â sylweddau, paratoadau, organeddau neu ficro-organeddau sy’n arwain at risg sylweddol o effeithiau andwyol ar iechyd dynol.

4

Yn rheoliad 6 (yr ardaloedd lle mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys)—

a

ym mharagraff (1)—

i

ar ôl y cofnod yn y tabl “Difrod i ddŵr” creer rhes newydd ac yn y golofn gyntaf (Y math o ddifrod) mewnosoder “Difrod i ddyfroedd morol”; a

ii

yn y cofnod cyfatebol yn yr ail golofn (Yr ardal lle mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys) mewnosoder—

  • Yr holl ddyfroedd morol o fewn unrhyw un neu ragor o’r disgrifiadau a ganlyn—

    1. a

      dyfroedd morol hyd at un filltir fôr tua’r môr o’r gwaelodlin yng Nghymru i’r graddau nad ydynt wedi cael sylw fel difrod i ddŵr eisoes;

    2. b

      dyfroedd morol o un filltir fôr tua’r môr o’r gwaelodlin yng Nghymru, gan ymestyn i 12 milltir fôr o’r gwaelodlin yng Nghymru

b

hepgorer paragraff (2).

5

Ar ôl rheoliad 8(1) (esemptiadau) mewnosoder—

1A

Mae paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â’r difrod i ddyfroedd morol fel petai “19 Gorffennaf 2015” wedi ei roi yn lle “i’r rheoliadau hyn ddod i rym” yn is-baragraff (a).

6

Yn rheoliad 10 (yr awdurdodau gorfodi o dan Reoliadau Caniatáu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2010)8 hepgorer paragraff (3)(b)(iii) a mewnosoder—

iii

Gweinidogion Cymru, os yw’r difrod i ddyfroedd morol; a

iv

Corff Adnoddau Naturiol Cymru, os yw’r difrod i gynefinoedd naturiol neu rywogaethau a warchodir neu safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig.

7

Yn rheoliad 11(1) (Yr awdurdodau gorfodi mewn achosion eraill) ar ôl y cofnod yn y tabl “Difrod i ddŵr—” creer rhes newydd a mewnosoder—

a

yng ngholofn gyntaf y tabl (Y math o ddifrod amgylcheddol) “Difrod i ddyfroedd morol—”;

b

yn y cofnod cyfatebol yn yr ail golofn (Man y difrod) mewnosoder “Yr holl ddyfroedd morol hyd at 12 milltir fôr o’r gwaelodlin yng Nghymru”; ac

c

yn y cofnod cyfatebol yn y drydedd golofn (Yr awdurdod gorfodi) mewnosoder “Gweinidogion Cymru”.