RHAN 3Y gofyniad i fod yn gofrestredig: athrawon ysgol

Y gofyniad i fod yn gymwysedig15

Ni chaniateir i neb gyflawni gwaith a bennir yn rheoliad 17 mewn ysgol oni bai ei fod—

a

yn athro neu’n athrawes gymwysedig; neu

b

yn bodloni’r gofynion a bennir mewn o leiaf un o’r paragraffau yn Atodlen 3.

Estyn y cyfnod penodedig16

Pan ganiateir i unrhyw berson gyflawni’r gwaith a bennir yn rheoliad 17 am gyfnod penodedig yn rhinwedd unrhyw un o ddarpariaethau Atodlen 3, bydd y cyfnod hwnnw yn cael ei estyn drwy ychwanegu ato gyfnod sy’n hafal i agregiad o unrhyw gyfnod neu gyfnodau pan fydd y person dan sylw’n absennol o’r gwaith—

a

wrth i’r person hwnnw arfer—

i

ei hawl i absenoldeb mamolaeth a roddir gan adran 71 neu 73 o Ddeddf 199619 neu gontract cyflogaeth a phan fydd gan y person hwnnw yr hawl i ddychwelyd i’r gwaith yn rhinwedd y naill neu’r llall o’r adrannau hyn neu gontract cyflogaeth;

ii

ei hawl i absenoldeb rhiant a roddir gan adran 76 o Ddeddf 1996;

iii

ei hawl i absenoldeb tadolaeth a roddir gan adran 80A neu 80B o Ddeddf 199620; neu

iv

ei hawl i absenoldeb mabwysiadu a roddir gan adran 75A neu 75B o Ddeddf 199621; neu

b

oherwydd beichiogrwydd.

Gwaith penodedig17

1

Mae pob un o’r gweithgareddau a ganlyn yn waith penodedig at ddibenion y Rheoliadau hyn—

a

cynllunio a pharatoi gwersi a chyrsiau ar gyfer disgyblion;

b

cyflwyno gwersi i ddisgyblion;

c

asesu datblygiad, cynnydd a chyrhaeddiad disgyblion; a

d

adrodd ar ddatblygiad, cynnydd a chyrhaeddiad disgyblion.

2

Ym mharagraff (1)(b) mae “cyflwyno” yn cynnwys cyflwyno drwy ddulliau dysgu o bell neu ddulliau dysgu â chymorth cyfrifiadur.

Y gofyniad i fod yn gofrestredig: athrawon ysgol18

Dim ond os ydynt wedi eu cofrestru o dan adran 9 o Ddeddf 2014 (cofrestr a gynhelir gan y Cyngor) y caiff athrawon cymwysedig gyflawni gwaith a bennwyd yn rheoliad 17 mewn ysgol.