Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Prif Swyddogaethau) (Cymru) 2015

RHAN 3Y gofyniad i fod yn gofrestredig: athrawon ysgol

Y gofyniad i fod yn gymwysedig

15.  Ni chaniateir i neb gyflawni gwaith a bennir yn rheoliad 17 mewn ysgol oni bai ei fod—

(a)yn athro neu’n athrawes gymwysedig; neu

(b)yn bodloni’r gofynion a bennir mewn o leiaf un o’r paragraffau yn Atodlen 3.

Estyn y cyfnod penodedig

16.  Pan ganiateir i unrhyw berson gyflawni’r gwaith a bennir yn rheoliad 17 am gyfnod penodedig yn rhinwedd unrhyw un o ddarpariaethau Atodlen 3, bydd y cyfnod hwnnw yn cael ei estyn drwy ychwanegu ato gyfnod sy’n hafal i agregiad o unrhyw gyfnod neu gyfnodau pan fydd y person dan sylw’n absennol o’r gwaith—

(a)wrth i’r person hwnnw arfer—

(i)ei hawl i absenoldeb mamolaeth a roddir gan adran 71 neu 73 o Ddeddf 1996(1) neu gontract cyflogaeth a phan fydd gan y person hwnnw yr hawl i ddychwelyd i’r gwaith yn rhinwedd y naill neu’r llall o’r adrannau hyn neu gontract cyflogaeth;

(ii)ei hawl i absenoldeb rhiant a roddir gan adran 76 o Ddeddf 1996;

(iii)ei hawl i absenoldeb tadolaeth a roddir gan adran 80A neu 80B o Ddeddf 1996(2); neu

(iv)ei hawl i absenoldeb mabwysiadu a roddir gan adran 75A neu 75B o Ddeddf 1996(3); neu

(b)oherwydd beichiogrwydd.

Gwaith penodedig

17.—(1Mae pob un o’r gweithgareddau a ganlyn yn waith penodedig at ddibenion y Rheoliadau hyn—

(a)cynllunio a pharatoi gwersi a chyrsiau ar gyfer disgyblion;

(b)cyflwyno gwersi i ddisgyblion;

(c)asesu datblygiad, cynnydd a chyrhaeddiad disgyblion; a

(d)adrodd ar ddatblygiad, cynnydd a chyrhaeddiad disgyblion.

(2Ym mharagraff (1)(b) mae “cyflwyno” yn cynnwys cyflwyno drwy ddulliau dysgu o bell neu ddulliau dysgu â chymorth cyfrifiadur.

Y gofyniad i fod yn gofrestredig: athrawon ysgol

18.  Dim ond os ydynt wedi eu cofrestru o dan adran 9 o Ddeddf 2014 (cofrestr a gynhelir gan y Cyngor) y caiff athrawon cymwysedig gyflawni gwaith a bennwyd yn rheoliad 17 mewn ysgol.

(1)

Diwygiwyd adran 71 gan baragraff 31, ac adran 73 gan baragraff 32, o Atodlen 1 i Ddeddf Gwaith a Theuluoedd 2006 (p. 18) a diwygiwyd y ddwy adran gan adran 17 o Ddeddf Cyflogaeth 2002 (p. 22). Diwygiwyd adran 71 ymhellach gan adran 118(1), (2)(a) a (b) o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 (p. 6). Diwygiwyd adran 73 ymhellach gan adran 118(1), (3)(a), (b) ac (c) o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014.

(2)

Mewnosodwyd adrannau 80A ac 80B gan adran 1 o Ddeddf Cyflogaeth 2002 (p. 22), ac adrannau 80AA ac 80BB gan adrannau 3 a 4 yn y drefn honno o Ddeddf Gwaith a Theuluoedd 2006 (p. 18). Diwygiwyd adran 80A ymhellach gan adran 118(1) a (6) o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014, a pharagraffau 29 a 32 o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno. Diwygiwyd adran 80B ymhellach gan adrannau 118(1) a (7), 121(2)(a) a (b), 122(4) a 128(2)(b) o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 a pharagraffau 29 a 33 o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno.

(3)

Mewnosodwyd adrannau 75A a 75B gan adran 3 o Ddeddf Cyflogaeth 2002 (p. 22). Diwygiwyd adran 75A gan baragraff 33 o Atodlen 1 i Ddeddf Gwaith a Theuluoedd 2006 (p. 18) a gan adrannau 118(1), (4)(b) ac (c) a 122(1) o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014. Diwygiwyd adran 75B ymhellach gan adran 118(1), (5)(b) ac (c) o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014.