RHAN 9Darpariaethau amrywiol

Cyflwyno hysbysiadau54

1

Caniateir cyflwyno hysbysiad y mae’n ofynnol ei gyflwyno i berson o dan y Rheoliadau hyn drwy—

a

ei ddanfon i’r person hwnnw yn bersonol;

b

y post i’r cyfeiriad a roddir i’r Cyngor gan y person; neu

c

post electronig, pan fo’r person yn gwneud cais am hynny.

2

Ystyrir bod hysbysiad a gyflwynir yn unol â’r rheoliad hwn wedi ei gyflwyno—

a

yn achos ei gyflwyno o dan baragraff (1)(a) ar y diwrnod y cafodd ei ddanfon;

b

yn achos ei gyflwyno o dan baragraff (1)(b) ar y diwrnod gwaith nesaf; ac

c

yn achos ei gyflwyno o dan baragraff (1)(c) ar y diwrnod y cafodd ei anfon.