ATODLEN 1RHEOLIADAU A DDIRYMIR

RHAN 2Arbedion a darpariaethau trosiannol cyffredinol

Achos disgyblu3

Er gwaethaf dirymu Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Disgyblu) 200125 (“Rheoliadau 2001”)—

a

mae person sy’n destun achos disgyblu yn union cyn 1 Ebrill 2015 yn unol â Rheoliadau 2001 i gael ei drin fel pe bai yn destun achos disgyblu yn unol â Rhan 5 o’r Rheoliadau hyn; a

b

mae unrhyw orchymyn disgyblu a wnaed yn unol â Rheoliadau 2001 ac sydd mewn grym yn union cyn 1 Ebrill 2015 i barhau i gael effaith fel pe bai wedi ei wneud yn unol â Rhan 5 o’r Rheoliadau hyn.