- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
Rheoliad 15
1. Yn yr Atodlen hon—
ystyr “cynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth” (“employment-based teacher training scheme”) yw cynllun a sefydlwyd gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 8 o Reoliadau 2004; ac
ystyr “sefydliad achrededig” (“accredited institution”) yw sefydliad sydd wedi ei achredu gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru o dan reoliad 7 o Reoliadau 2004 neu gan yr Asiantaeth Hyfforddi a Datblygu ar gyfer Ysgolion o dan reoliad 11 o Reoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon Ysgol) (Lloegr) 2003(1).
2.—(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys yn achos—
(a)athrawon cynorthwyol mewn ysgolion meithrin; neu
(b)athrawon dosbarth meithrin,
y caniatawyd iddynt gael eu cyflogi fel athrawon gan baragraff 4 o Atodlen 4 i Reoliadau 1982 ac a gyflogwyd felly yn union cyn 1 Medi 1989.
(2) Caiff personau o’r fath gyflawni gwaith a bennir yn rheoliad 17 mewn ysgol yn yr un swydd ag y cyflogwyd hwy ynddi cyn 1 Medi 1989.
3.—(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys yn achos personau nad ydynt yn athrawon cymwysedig a benodir, neu y bwriedir eu penodi, i gyflawni gwaith a bennir yn rheoliad 17 mewn cysylltiad ag unrhyw gelfyddyd neu sgil neu mewn unrhyw bwnc neu grŵp o bynciau, pan fo angen cymwysterau arbennig neu brofiad arbennig neu’r ddau i wneud hynny.
(2) Caiff personau a grybwyllir yn is-baragraff (1) gyflawni gwaith a bennir yn rheoliad 17 mewn ysgol os, ar adeg eu penodi—
(a)yw’r awdurdod lleol (yn achos ysgol nad oes ganddi gyllideb ddirprwyedig neu yn achos uned cyfeirio disgyblion), y corff llywodraethu sy’n gweithredu â chydsyniad yr awdurdod lleol (yn achos ysgol sydd â chyllideb ddirprwyedig), neu’r corff llywodraethu (yn achos ysgol arbennig nad yw’n cael ei chynnal gan awdurdod lleol), yn ôl y digwydd, yn fodlon ynglŷn â’u cymwysterau neu brofiad neu’r ddau; a
(b)nad oes athro neu athrawes gymwysedig addas nac athro neu athrawes ar gynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth ar gael i’w benodi neu i’w phenodi i’r swydd; neu
(c)mewn cysylltiad â gwaith a ddisgrifir ym mharagraff 6(2) o’r Atodlen hon, nad oes person addas â’r cymwysterau sy’n ofynnol o dan reoliad 3 o Reoliadau 2002 ar gael i’w benodi i swydd o’r fath.
(3) Caiff personau a benodir â chymwysterau neu brofiad arbennig fel y’i disgrifir yn is-baragraff (1) ac sy’n cyflawni gwaith a bennir yn rheoliad 17 fel y’i caniateir gan is-baragraff (2) wneud hynny, yn ddarostyngedig i is-baragraff (4)—
(a)dim ond am y cyfnod hwnnw o amser nad oes athro neu athrawes gymwysedig addas neu athro neu athrawes ar gynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth ar gael i’w benodi neu i’w phenodi i’r swydd; neu
(b)mewn cysylltiad â gwaith a ddisgrifir ym mharagraff 6(2) o’r Atodlen hon, dim ond am y cyfnodau hynny o amser nad oes person addas sydd â’r cymwysterau sy’n ofynnol o dan reoliad 3 o Reoliadau 2002 ar gael i’w benodi i swydd o’r fath.
(4) Nid yw is-baragraff (3) yn gymwys yn achos personau o’r fath a benodwyd cyn 8 Ebrill 1982 pan oedd—
(a)y penodiad yn un am gyfnod penodedig, os a chyn belled nad yw’r cyfnod hwnnw wedi dod i ben; neu
(b)y penodiad yn un am gyfnod amhenodol, os na fynegwyd fel arall ei fod yn benodiad dros dro yn unig.
4.—(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys yn achos personau sydd wedi cwblhau yn llwyddiannus raglen hyfforddiant proffesiynol i athrawon mewn unrhyw wlad y tu allan i’r Deyrnas Unedig, y mae’r awdurdod cymwys yn y wlad honno yn cydnabod ei bod yn rhaglen o’r fath.
(2) Caiff personau a grybwyllir yn is-baragraff (1) gyflawni gwaith a bennir yn rheoliad 17 mewn ysgol (ar wahân i uned cyfeirio disgyblion) am gyfnod o hyd at ddwy flynedd yn cychwyn ar y dyddiad y maent yn cyflawni’r gwaith a bennir yn rheoliad 17 mewn ysgol gyntaf.
5.—(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys yn achos personau sy’n dilyn cwrs hyfforddiant cychwynnol athrawon mewn ysgolion mewn sefydliad achrededig yng Nghymru neu Loegr.
(2) Caiff personau a grybwyllir yn is-baragraff (1) gyflawni gwaith a bennir yn rheoliad 17 mewn ysgol (ar wahân i uned cyfeirio disgyblion) o dan oruchwyliaeth athro neu athrawes gymwysedig yn ystod unrhyw gyfnod y maent yn cael profiad ymarferol o addysgu at ddibenion y cwrs hwnnw.
6.—(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys yn achos personau sydd â chymwysterau sy’n ofynnol o dan reoliad 3 o Reoliadau 2002.
(2) Caiff personau a grybwyllir yn is-baragraff (1) gyflawni gwaith a bennir yn rheoliad 17 mewn ysgol i’r graddau y mae’r gwaith yn golygu cyflwyno cyrsiau astudiaeth galwedigaethol sy’n ffurfio cwricwlwm lleol cyfan neu ran o gwricwlwm o’r fath a ffurfiwyd gan awdurdod lleol yn unol ag adran 116A o Ddeddf 2002(2), neu gan Weinidogion Cymru yn unol ag adran 33A o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000.
7.—(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys yn achos personau sy’n dilyn hyfforddiant at ddibenion cynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth.
(2) Caiff personau o’r fath gyflawni’r gwaith a bennir yn rheoliad 17 mewn ysgol hyd oni fyddant yn cwblhau’r hyfforddiant hwnnw yn llwyddiannus neu yn peidio â’i ddilyn.
8.—(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys yn achos personau nad ydynt yn athrawon cymwysedig ac na chrybwyllir hwy ym mharagraffau 2 i 7 o’r Atodlen hon.
(2) Caiff personau o’r fath gyflawni gwaith a bennir yn rheoliad 17 mewn ysgol, dim ond os bodlonir yr amodau a ganlyn—
(a)maent yn cyflawni gwaith a bennir yn rheoliad 17 er mwyn cynorthwyo neu gefnogi gwaith athrawon cymwysedig neu athrawon enwebedig yn yr ysgol;
(b)maent yn ddarostyngedig i gyfarwyddyd a goruchwyliaeth athrawon cymwysedig neu athrawon enwebedig o’r fath yn unol â threfniadau a wneir gan bennaeth yr ysgol; ac
(c)mae’r pennaeth yn fodlon eu bod yn meddu ar y sgiliau, yr arbenigedd a’r profiad sy’n ofynnol er mwyn cyflawni gwaith a bennir yn rheoliad 17.
(3) Caniateir i brifathrawon, os byddant yn ystyried yr enwebiad yn briodol o dan yr amgylchiadau, enwebu personau a grybwyllir ym mharagraffau 3, 4, 5, 6 neu 7 o’r Atodlen hon fel athrawon enwebedig at ddiben is-baragraff (2).
(4) Wrth benderfynu a oes gan y personau a grybwyllir yn is-baragraff (1) y sgiliau, yr arbenigedd a’r profiad sy’n ofynnol i gyflawni gwaith a bennir yn rheoliad 17 mewn ysgol, caiff penaethiaid roi ystyriaeth i—
(a)y safonau hynny ar gyfer cynorthwywyr addysgu lefel uwch, neu’r canllawiau hynny sy’n ymwneud â staff cymorth ysgolion, y gellir eu cyhoeddi o bryd i’w gilydd gan Weinidogion Cymru; a
(b)y canllawiau hynny ar faterion cytundebol sy’n ymwneud â staff cymorth ysgolion, y gellir eu cyhoeddi o bryd i’w gilydd gan unrhyw awdurdod lleol neu gyflogwr arall.
O.S. 2003/1662 fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Addysg 2005 (p. 18) a chan O.S. 2007/2782, O.S. 2009/3156, O.S. 2010/1172 ac O.S. 2012/431.
Fel y’i mewnosodwyd gan adran 4 o Fesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 (2009 mccc 1).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: