xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 4COFNODION A GYNHELIR GAN Y CYNGOR

RHAN 3Gwybodaeth sydd i’w chynnwys yn y cofnodion

9.  Yr wybodaeth a nodir ym mharagraffau 3 i 25 o Ran 1 o Atodlen 2.

10.  Pan fo’r person wedi ei gofrestru’n flaenorol ond wedi ei dynnu oddi ar y Gofrestr ers hynny—

(a)y categori neu gategorïau cofrestru yr oeddent wedi eu cofrestru ynddo/ynddynt yn flaenorol;

(b)dyddiad eu cofrestriad cyntaf; ac

(c)y dyddiad diweddaraf y bu iddynt gael eu tynnu oddi ar y Gofrestr.

11.  Yr wybodaeth a nodir yn Rhan 2 o Atodlen 2.

12.  Pan fo’r person yn anghymwys i gofrestru yn unol ag adran 10 a rheoliadau a wnaed o dan adrannau 12 neu 13 o Ddeddf 2014, manylion y cyfarwyddyd, y gorchymyn disgyblu neu’r gwaharddiad arall y mae’r person yn anghymwys i gofrestru o’i herwydd.

13.  Pan fo person yn anghymwys i gofrestru yn unol ag adran 10 o Ddeddf 2014 am nad yw’r Cyngor yn fodlon bod y person yn addas i gael ei gofrestru, manylion ynghylch y sail dros wneud y penderfyniad i wrthod y cais.

14.  Pan fo enw’r person wedi ei dynnu oddi ar y Gofrestr, manylion ynghylch y sail dros dynnu enw’r person oddi ar y Gofrestr.

15.  Os yw’r person wedi ei wahardd rhag cyflawni gweithgaredd a reoleiddir yn ymwneud â phlant (o fewn ystyr adran 3(2) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006), datganiad o’r ffaith honno.

16.  Os yw’r person wedi ei wahardd rhag cyflawni gweithgaredd a reoleiddir yn ymwneud ag oedolion hyglwyf (o fewn ystyr adran 3(3) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006), datganiad o’r ffaith honno.