RHAN 3Y gofyniad i fod yn gofrestredig: athrawon ysgol

Gwaith penodedig17

1

Mae pob un o’r gweithgareddau a ganlyn yn waith penodedig at ddibenion y Rheoliadau hyn—

a

cynllunio a pharatoi gwersi a chyrsiau ar gyfer disgyblion;

b

cyflwyno gwersi i ddisgyblion;

c

asesu datblygiad, cynnydd a chyrhaeddiad disgyblion; a

d

adrodd ar ddatblygiad, cynnydd a chyrhaeddiad disgyblion.

2

Ym mharagraff (1)(b) mae “cyflwyno” yn cynnwys cyflwyno drwy ddulliau dysgu o bell neu ddulliau dysgu â chymorth cyfrifiadur.