17.—(1) Mae pob un o’r gweithgareddau a ganlyn yn waith penodedig at ddibenion y Rheoliadau hyn—
(a)cynllunio a pharatoi gwersi a chyrsiau ar gyfer disgyblion;
(b)cyflwyno gwersi i ddisgyblion;
(c)asesu datblygiad, cynnydd a chyrhaeddiad disgyblion; a
(d)adrodd ar ddatblygiad, cynnydd a chyrhaeddiad disgyblion.
(2) Ym mharagraff (1)(b) mae “cyflwyno” yn cynnwys cyflwyno drwy ddulliau dysgu o bell neu ddulliau dysgu â chymorth cyfrifiadur.