xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
26.—(1) Ar Bwyllgor Ymchwilio neu Bwyllgor Addasrwydd i Ymarfer (“Pwyllgor”) rhaid i’r Cyngor gynnwys—
(a)un neu fwy aelod lleyg; a
(b)un neu fwy aelod sy’n berson cofrestredig.
(2) Y cworwm ar gyfer cyfarfod Pwyllgor yw tri aelod, gan gynnwys un aelod lleyg ac un aelod sy’n berson cofrestredig.
(3) Ni chaniateir i berson sy’n aelod o’r Cyngor gael ei benodi’n aelod o Bwyllgor.
(4) Ni chaniateir i berson sy’n aelod o’r Pwyllgor Ymchwilio sy’n ymchwilio i achos gael ei benodi’n aelod o’r Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer sy’n penderfynu ar yr achos hwnnw.
(5) Yn ddarostyngedig i baragraffau (1) i (4) a rheoliadau 37, 39 a 40, caiff y Cyngor wneud darpariaeth fel y gwêl yn addas ar gyfer—
(a)aelodaeth Pwyllgor;
(b)ar ba delerau y mae aelodau Pwyllgor i ddal a gadael swydd; ac
(c)gweithdrefn Pwyllgor.
(6) Yn y rheoliad hwn—
(a)ystyr “aelod lleyg” (“lay member”) yw aelod o’r Pwyllgor nad ydyw—
(i)yn berson cofrestredig;
(ii)yn gyflogedig, nac wedi ei gymryd ymlaen i ddarparu gwasanaethau perthnasol o fewn y cyfnod o 5 mlynedd a fydd yn dod i ben ar ddyddiad penodi’r person hwnnw ar y Pwyllgor;
(iii)wedi ei wahardd rhag cyflawni gweithgaredd a reoleiddir yn ymwneud â phlant (o fewn ystyr adran 3(2) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006(1));
(iv)yn destun gorchymyn disgyblu a wnaed o dan Ddeddf 2014 ac yn rhinwedd y gorchymyn hwnnw bod y person yn anghymwys i gofrestru; neu
(v)wedi ei anghymhwyso rhag gweithio mewn swydd sy’n gyfystyr â chategori cofrestru;
(b)ystyr “aelod sy’n berson cofrestredig” (“registered person member”) yw person—
(i)sy’n berson cofrestredig o’r un categori cofrestru â’r person cofrestredig sy’n destun yr achos disgyblu; a
(ii)sy’n gyflogedig, neu sydd wedi ei gymryd ymlaen ac eithrio o dan gontract cyflogaeth, yn un o’r swyddi a ddisgrifir yn y categorïau cofrestru ar y dyddiad y penodir yr aelod hwnnw sy’n berson cofrestredig i’r Pwyllgor.
(7) Rhaid i aelod sy’n berson cofrestredig ac sy’n peidio â bod yn berson cofrestredig neu sy’n peidio â bod yn gyflogedig neu wedi ei gymryd ymlaen yn un o’r swyddi a ddisgrifir yn y categorïau cofrestru beidio â bod yn aelod sy’n berson cofrestredig.
(8) Mae aelod lleyg sy’n dod yn berson cofrestredig yn peidio â chael ei ystyried yn aelod lleyg.