- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
35.—(1) Rhaid i orchymyn disgyblu gofnodi penderfyniad y Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer, y dyddiad y gwneir y gorchymyn, a’r dyddiad y mae’r gorchymyn yn cael effaith.
(2) Daw gorchymyn disgyblu i rym ar y dyddiad y caiff hysbysiad ohono ei gyflwyno i’r person y caiff y gorchymyn disgyblu ei wneud mewn perthynas ag ef ac eithrio pan fo Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer yn penderfynu fel arall.
(3) Rhaid i Bwyllgor Addasrwydd i Ymarfer gyflwyno i’r person y gwneir y gorchymyn disgyblu mewn perthynas ag ef hysbysiad o’r gorchymyn disgyblu sy’n cynnwys yr wybodaeth a ganlyn—
(a)testun y gorchymyn;
(b)disgrifiad o effaith y gorchymyn;
(c)rhesymau’r Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer dros wneud y gorchymyn;
(d)hysbysiad o hawl y person cofrestredig i apelio i’r Uchel Lys yn erbyn y gorchymyn a’r cyfnod amser ar gyfer gwneud apêl o’r fath;
(e)pan fo’r gorchymyn yn orchymyn cofrestru amodol, eglurhad—
(i)o’r camau y mae gan Bwyllgor Addasrwydd i Ymarfer yr awdurdod i’w cymryd pe byddai’r person cofrestredig yn methu â chydymffurfio ag amod a nodir ynddo, a
(ii)o hawl y person i wneud cais i amrywio neu ddirymu amod a bennir yn y gorchymyn a’r dull o wneud cais o’r fath;
(f)pan fo’r gorchymyn yn orchymyn atal dros dro sy’n pennu amodau, eglurhad o hawl y person cofrestredig i wneud cais i amrywio neu ddirymu amod a bennir yn y gorchymyn hwnnw a’r dull o wneud cais o’r fath; ac
(g)pan fo’r gorchymyn yn orchymyn gwahardd, eglurhad o hawl y person cofrestredig i wneud cais am benderfyniad ei fod yn gymwys i gael ei gofrestru a’r dull o wneud cais o’r fath.
(4) Rhaid i Bwyllgor Addasrwydd i Ymarfer gyflwyno hysbysiad o’r gorchymyn i’r personau cofrestredig sy’n bresennol neu i’r cyflogwr diwethaf a, phan fo’n berthnasol, i’r asiant.
(5) Pan fydd Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer, ar ôl penderfynu ar achos, yn penderfynu peidio â gwneud gorchymyn disgyblu mewn perthynas â pherson cofrestredig, rhaid i’r pwyllgor hysbysu’r person cofrestredig dan sylw a’i gyflogwr—
(a)am ei benderfyniad a’r rhesymau drosto; a
(b)a benderfynodd nad oedd yr achos yn ei erbyn wedi ei brofi.
(6) Pan nad yw’n canfod bod yr achos yn erbyn person cofrestredig wedi ei brofi, rhaid i Bwyllgor Addasrwydd i Ymarfer gyhoeddi datganiad i’r perwyl hwnnw ar gais y person cofrestredig.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: