xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
46.—(1) Rhaid i asiant hysbysu’r Cyngor am ffeithiau achos a darparu’r holl wybodaeth a restrir yn Rhan 2 o Atodlen 5 sydd ar gael i’r asiant mewn perthynas â pherson cofrestredig—
(a)pan fo’r asiant hwnnw wedi terfynu’r trefniadau ar sail—
(i)camymddwyn;
(ii)anghymhwysedd proffesiynol; neu
(iii)collfarn am drosedd berthnasol o fewn ystyr adran 27 o Ddeddf 2014;
(b)pan allai’r asiant hwnnw fod wedi terfynu trefniadau ar sail o’r fath oni bai bod y person cofrestredig wedi eu terfynu; neu
(c)pan allai’r asiant fod wedi ymatal rhag gwneud trefniadau newydd ar gyfer person cofrestredig ar sail o’r fath oni bai bod y person cofrestredig wedi peidio â bod ar gael i weithio.
(2) Rhaid i’r Cyngor drefnu bod yr holl wybodaeth a ddarperir iddo o dan y rheoliad hwn ar gael i—
(a)Pwyllgor Ymchwilio; a
(b)Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer pan fo’n ystyried bod gwybodaeth yn berthnasol i’r achos a atgyfeiriwyd ato gan y cyflogwr yn unol â pharagraff (1).