RHAN 8Rhoi gwybodaeth: y Cyngor
Rhoi gwybodaeth i’r Ysgrifennydd Gwladol49
1
Rhaid i’r Cyngor, pan fo’n derbyn cais, roi i’r Ysgrifennydd Gwladol yr wybodaeth a nodir ym mharagraff (2) mewn perthynas ag—
a
person cofrestredig; neu
b
person anghofrestredig y cynhelir cofnodion ynglŷn ag ef yn unol â’r Rheoliadau hyn.
2
Yr wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (1) yw—
a
pan ganfyddir bod person yn anghymwys i gofrestru yn unol ag adran 10(3)(b) o Ddeddf 2014, y ffaith honno a phan fo’r wybodaeth honno yn cael ei darparu i Gyngor Addysgu Cyffredinol yr Alban, An Chomhairle Mhúinteoireachta neu’r Cyngor Addysgu, neu Gyngor Addysgu Cyffredinol Gogledd Iwerddon (ond nid fel arall), manylion am sail y penderfyniad a wnaed i wrthod cais y person i gofrestru;
b
paragraffau 1, 2, 15, 16 a 18 i 25 o Atodlen 2 ym mhob achos; ac
c
paragraffau 26 i 36 o Atodlen 2 (pan fo’r person cofrestredig yn athro neu’n athrawes ysgol).
3
Pan fo gwybodaeth yn cael ei rhoi o dan baragraff (1), rhaid gosod amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r Ysgrifennydd Gwladol beidio â datgelu’r wybodaeth honno i unrhyw bersonau ar wahân i’r personau a nodir ym mharagraff (2)(a) neu (b) y mae’r wybodaeth yn ymwneud â hwy.