RHAN 2Cofrestru

Hysbysiad o benderfyniad6

1

Rhaid i’r Cyngor gyflwyno hysbysiad o’i benderfyniad i ganiatáu neu i wrthod y cais i’r—

a

sawl sy’n ymgeisio i gael ei gofrestru; a’r

b

cyflogwr (pan fo’n gymwys).

2

Mewn achos o wrthod cofrestru, rhaid i’r hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (1) nodi—

a

ar ba sail y gwnaed y penderfyniad; a

b

pan wrthodwyd cofrestru ar y sail nad oedd y Cyngor yn fodlon ynglŷn ag addasrwydd yr ymgeisydd i gofrestru, rhaid iddo hysbysu’r ymgeisydd am—

i

ei hawl i apelio i’r Uchel Lys yn erbyn y penderfyniad a wnaed, a

ii

y cyfnod o amser a nodir yn adran 11(2) o Ddeddf 2014 ar gyfer gwneud apêl o’r fath.

3

Caniateir cyflwyno hysbysiad y mae’n ofynnol ei gyflwyno i berson o dan y rheoliad hwn yn unol â rheoliad 54.