Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 10) 2015
Enwi a dehongli1.
(1)
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 10) 2015.
(2)
Yn y Gorchymyn hwn ystyr “Mesur” (“Measure”) yw Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.
Darpariaethau a gychwynnir ar 6 Gorffennaf 2015 ar gyfer yr Alban a Gogledd Iwerddon2.
Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Mesur i rym ar 6 Gorffennaf 2015 i’r graddau y maent yn rhychwantu’r Alban a Gogledd Iwerddon—
(a)
adran 144(3)(a) (Diddymu swyddogaethau cyffredinol y Bwrdd a disodli cynlluniau gan safonau) o Ran 9 i’r graddau nad yw eisoes mewn grym; a
(b)
adran 145(2) (Disodli cynlluniau iaith Gymraeg gan safonau) o Ran 9 i’r graddau nad yw eisoes mewn grym.
Darpariaethau a gychwynnir ar 7 Gorffennaf 20153.
Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Mesur i rym ar 7 Gorffennaf 2015—
(a)
Rhan 2 (Comisiynydd y Gymraeg) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(b)
Rhan 4 (Safonau) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(c)
Rhan 5 (Gorfodi safonau);
(d)
Rhan 8 (Cyffredinol) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(e)
adran 144(1), (2) a (3)(a) o Ran 9 (Diddymu swyddogaethau cyffredinol y Bwrdd a disodli cynlluniau gan safonau) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(f)
Atodlen 2 (Ymholiadau gan y Comisiynydd) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(g)
Atodlen 3 (Diwygiadau ynglŷn â gweithio ar y cyd a gweithio’n gyfochrog); a
(h)
Atodlen 10 (Ymchwiliad y Comisiynydd i fethiant i gydymffurfio â safonau etc).
Mae’r Gorchymyn hwn wedi ei wneud o dan adran 156(2) o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (“y Mesur”). Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym y darpariaethau a ganlyn o’r Mesur o 6 Gorffennaf 2015 i’r graddau y maent yn rhychwantu’r Alban a Gogledd Iwerddon—
adran 144(3)(a) (Diddymu swyddogaethau cyffredinol y Bwrdd a disodli cynlluniau gan safonau) o Ran 9 i’r graddau nad yw eisoes mewn grym; a
adran 145(2) (Disodli cynlluniau iaith Gymraeg gan safonau) o Ran 9 i’r graddau nad yw eisoes mewn grym.
Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym y darpariaethau a ganlyn o’r Mesur o 7 Gorffennaf 2015—
Rhan 2 (Comisiynydd y Gymraeg) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
Rhan 4 (Safonau) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
Rhan 5 (Gorfodi safonau);
Rhan 8 (Cyffredinol) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
adran 144(1), (2) a (3)(a) o Ran 9 (Diddymu swyddogaethau cyffredinol y Bwrdd a disodli cynlluniau gan safonau) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
Atodlen 2 (Ymholiadau gan y Comisiynydd) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
Atodlen 3 (Diwygiadau ynglŷn â gweithio ar y cyd a gweithio’n gyfochrog); a
Atodlen 10 (Ymchwiliad y Comisiynydd i fethiant i gydymffurfio â safonau etc).
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.
Mae’r darpariaethau a ganlyn o’r Mesur wedi eu dwyn i rym drwy orchmynion cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:
Y Ddarpariaeth | Y Dyddiad Cychwyn | Rhif O.S. |
---|---|---|
adran 2(2) (yn rhannol) | 28 Mehefin 2011 | |
adran 2(3) (yn rhannol) | 28 Mehefin 2011 | |
adran 2 (yn llawn) | 1 Ebrill 2012 | |
adran 3 | 1 Ebrill 2012 | |
adran 4 | 1 Mehefin 2012 | |
adrannau 5 a 6 | 1 Ebrill 2012 | |
adran 7 (yn rhannol) | 1 Ebrill 2012 | |
adrannau 8 i 10 | 1 Ebrill 2012 | |
adran 11 | 1 Mehefin 2012 | |
adrannau 12 i 15 | 1 Ebrill 2012 | |
adran 16(yn rhannol) | 1 Ebrill 2012 | |
adrannau 17 i 19 | 1 Ebrill 2012 | |
adran 22 (yn rhannol) | 17 Ebrill 2012 | |
adran 23(1) (yn rhannol) | 10 Ionawr 2012 | |
adran 23(4) | 10 Ionawr 2012 | |
adran 23 (yn llawn) | 1 Ebrill 2012 | |
adran 24 | 17 Ebrill 2012 | |
adrannau 26 i 43 | 1 Ebrill 2012 | |
adran 44 | 17 Ebrill 2012 | |
adrannau 61 i 66 | 1 Ebrill 2012 | |
adrannau 67 ac 68 | 1 Ebrill 2012 | |
adran 108 | 25 Mawrth 2015 | |
adran 70 | 1 Ebrill 2012 | |
adrannau 111 i 119 | 1 Ebrill 2012 | |
adran 120(1) | 30 Ebrill 2015 | |
adran 120(2) a (3) | 7 Ionawr 2014 | |
adran 120(4) (yn rhannol) | 1 Ebrill 2012 | |
adran 120(4) (yn llawn) | 7 Ionawr 2014 | |
adrannau 123 i 125 | 7 Ionawr 2014 | |
adran 126 | 30 Ebrill 2015 | |
adrannau 127 a 128 | 7 Ionawr 2014 | |
adrannau 129 a 130 | 30 Ebrill 2015 | |
adran 131 | 7 Ionawr 2014 | |
adran 132 | 30 Ebrill 2015 | |
adran 133 | 7 Ionawr 2014 | |
adrannau 134 i 137 | 1 Ebrill 2012 | |
adrannau 138 a 139 (yn rhannol) | 28 Mehefin 2011 | |
adrannau 138 a 139 (yn llawn) | 1 Ebrill 2012 | |
adran 140 (yn rhannol) | 1 Ebrill 2012 | |
adran 141 (yn rhannol) | 1 Ebrill 2012 | |
adrannau 142 a 143 | 1 Ebrill 2012 | |
adran 144 (yn rhannol) | 1 Ebrill 2012 | |
adran 144 (yn rhannol) | 1 Mehefin 2012 | |
adran 146 (yn rhannol) | 28 Mehefin 2011 | |
adran 146 (yn llawn) | 1 Ebrill 2012 | |
adran 147 | 1 Ebrill 2012 | |
adrannau 148 a 149 | 5 Chwefror 2012 | |
Atodlen 1, paragraffau 3, 7, 8, 13 ac 21 | 28 Mehefin 2011 | |
Atodlen 1 (yn llawn) | 1 Ebrill 2012 | |
Atodlen 2 (yn rhannol) | 1 Ebrill 2012 | |
Atodlen 4, paragraffau 1, 5, 10 ac 11 | 10 Ionawr 2012 | |
Atodlen 4 (yn llawn) | 1 Ebrill 2012 | |
Atodlenni 5 i 9 | 1 Ebrill 2012 | |
Atodlen 11 (yn rhannol) | 1 Ebrill 2012 | |
Atodlen 11 (yn llawn) | 7 Ionawr 2014 | |
Atodlen 12, paragraffau 1, 2 a 6 | 28 Mehefin 2011 | |
Atodlen 12 (yn llawn) | 1 Ebrill 2012 |