Enwi, cychwyn a chymhwyso1
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adeiladu (Diwygio) (Cymru) 2015.
2
Mae’r Rheoliadau’n gymwys o ran Cymru ond nid ydynt yn gymwys o ran adeiladau ynni a eithrir yng Nghymru.
3
Mae’r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar y dyddiadau canlynol—
a
y rheoliad hwn, rheoliadau 2, 3, 4(a) a’r Atodlen ar 31 Gorffennaf 2015; a
b
rheoliad 4(b) ar 31 Rhagfyr 2015.
4
Yn y rheoliad hwn, mae i “adeilad ynni a eithrir” yr ystyr a roddir i “excepted energy building” gan yr Atodlen i Orchymyn Gweinidogion Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) (Rhif 2) 20093.
Diwygio Rheoliadau Adeiladu 2010
2
Mae Rheoliadau Adeiladu 20104 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
3
Yn lle’r Tabl yn Atodlen 3 (cynlluniau hunanardystio ac esemptiadau o’r gofyniad i roi hysbysiad adeiladu neu i adneuo cynlluniau llawn) rhodder y Tabl fel y’i nodir yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn.
4
Yn rheoliad 43(4) (profi pwysedd)—
a
ar ôl “the British Institute of Non-Destructive Testing” mewnosoder “, the Independent Airtightness Testing Scheme Limited5”; a
b
hepgorer “the British Institute of Non-Destructive Testing,”.