1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adeiladu (Diwygio) (Cymru) 2015.
(2) Mae’r Rheoliadau’n gymwys o ran Cymru ond nid ydynt yn gymwys o ran adeiladau ynni a eithrir yng Nghymru.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar y dyddiadau canlynol—
(a)y rheoliad hwn, rheoliadau 2, 3, 4(a) a’r Atodlen ar 31 Gorffennaf 2015; a
(b)rheoliad 4(b) ar 31 Rhagfyr 2015.
(4) Yn y rheoliad hwn, mae i “adeilad ynni a eithrir” yr ystyr a roddir i “excepted energy building” gan yr Atodlen i Orchymyn Gweinidogion Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) (Rhif 2) 2009(1).
2. Mae Rheoliadau Adeiladu 2010(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
3. Yn lle’r Tabl yn Atodlen 3 (cynlluniau hunanardystio ac esemptiadau o’r gofyniad i roi hysbysiad adeiladu neu i adneuo cynlluniau llawn) rhodder y Tabl fel y’i nodir yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn.
4. Yn rheoliad 43(4) (profi pwysedd)—
(a)ar ôl “the British Institute of Non-Destructive Testing” mewnosoder “, the Independent Airtightness Testing Scheme Limited(3)”; a
(b)hepgorer “the British Institute of Non-Destructive Testing,”.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru
7 Gorffennaf 2015