Offerynnau Statudol Cymru

2015 Rhif 1486 (Cy. 165)

Adeiladu Ac Adeiladau, Cymru

Rheoliadau Adeiladu (Diwygio) (Cymru) 2015

Gwnaed

7 Gorffennaf 2015

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

9 Gorffennaf 2015

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(3)

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 1 a 34 o Ddeddf Adeiladu 1984(1) a pharagraffau 1, 2, 4, 4A, 7, 8 a 10 o Atodlen 1 i’r Ddeddf honno, sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy(2), ac wedi ymgynghori, yn unol ag adran 14(7) o’r Ddeddf honno, â Phwyllgor Cynghori Cymru ar Reoliadau Adeiladu a’r cyrff hynny yr ymddengys iddynt hwy eu bod yn cynrychioli’r buddiannau dan sylw, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

(1)

1984 p. 55; diwygiwyd adran 1 gan adran 1 o Ddeddf Adeiladau Cynaliadwy a Diogel 2004 (p. 22); mewnosodwyd paragraff 4A o Atodlen 1 gan adran 8 o’r Ddeddf honno; diwygiwyd paragraff 7 o Atodlen 1 gan adran 3 o’r Ddeddf honno a chan adran 11 o Ddeddf Newid yn yr Hinsawdd ac Ynni Cynaliadwy 2006 (p. 19) a diwygiwyd paragraff 8 o Atodlen 1 gan adran 3 o Ddeddf Adeiladau Cynaliadwy a Diogel 2004 ac adran 40 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (p. 29).

(2)

Trosglwyddwyd y swyddogaethau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 1 a 34 o Ddeddf Adeiladu 1984 a pharagraffau 1, 2, 4, 4A, 7, 8 a 10 o Atodlen 1 i’r Ddeddf honno, i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Weinidogion Cymru gan Orchymyn Gweinidogion Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) (Rhif 2) 2009 (O.S. 2009/3019).