Offerynnau Statudol Cymru
Addysg, Cymru
Gwnaed
7 Gorffennaf 2015
Yn dod i rym
31Gorffennaf 2015
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud gan Weinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 5(3), 5(9) a 55(2) o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015(1).
Yn unol ag adran 55(3) o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg Uwch (Symiau) (Cymru) 2015 a deuant i rym ar 31 Gorffennaf 2015.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2. Yn y Rheoliadau hyn—
mae i “cwrs rhyngosod” (“sandwich course”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2015(2);
ystyr “Deddf 2015” (“the 2015 Act”) yw Deddf Addysg Uwch (Cymru) 2015;
ystyr “hyfforddiant cychwynnol athrawon” (“initial training of teachers”) yw hyfforddiant neu addysg â’r nod o wneud personau, nad ydynt yn athrawon, yn addas i fod yn athrawon;
ystyr “sefydliad tramor” (“overseas institution”) yw sefydliad heblaw un yng Nghymru, Lloegr, Yr Alban, Gogledd Iwerddon, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw.
3. Yn ddarostyngedig i reoliadau 4, 5 a 6, yr uchafswm rhagnodedig at ddibenion adran 5(3) o Ddeddf 2015 yw £9,000.
4. At ddibenion adran 5(3) o Ddeddf 2015, rhagnodir mai’r uchafswm yw £4,500 mewn cysylltiad â:
(a)blwyddyn academaidd derfynol cwrs pan fo’n ofynnol i’r flwyddyn academaidd honno fel rheol gael ei chwblhau ar ôl llai na 15 wythnos o bresenoldeb;
(b)cwrs hyfforddiant cychwynnol athrawon (gan gynnwys cwrs o’r fath sy’n arwain at radd gyntaf), blwyddyn academaidd pryd y mae cyfanswm unrhyw gyfnodau o astudio llawnamser yn llai na 10 wythnos.
5. At ddibenion adran 5(3) o Ddeddf 2015, rhagnodir mai’r uchafswm yw £1,800 mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd cwrs rhyngosod:
(a)pryd y mae cyfanswm unrhyw gyfnodau o astudio llawnamser yn llai na 10 wythnos; neu
(b)os yw cyfanswm unrhyw un neu ragor o gyfnodau o bresenoldeb nad ydynt yn gyfnodau o astudio llawnamser yn y sefydliad (gan ddiystyru gwyliau yn y cyfamser), mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd honno ac unrhyw flynyddoedd academaidd blaenorol ar y cwrs, yn fwy na 30 wythnos.
6. At ddibenion adran 5(3) o Ddeddf 2015, rhagnodir mai’r uchafswm yw £1,350 mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd cwrs a ddarperir ar y cyd â sefydliad tramor:
(a)pryd y mae cyfanswm unrhyw gyfnodau o astudio llawnamser yn y sefydliad yn y Deyrnas Unedig yn llai na 10 wythnos; neu
(b)os yw cyfanswm unrhyw un neu ragor o gyfnodau o bresenoldeb nad ydynt yn gyfnodau o astudio llawnamser yn y sefydliad yn y Deyrnas Unedig (gan ddiystyru gwyliau yn y cyfamser), mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd honno ac unrhyw flynyddoedd academaidd blaenorol ar y cwrs, yn fwy na 30 wythnos.
7. At ddibenion adran 5(9) o Ddeddf 2015, mae ffioedd i’w trin fel pe baent yn cael eu talu i sefydliad rheoleiddiedig o dan adran 5(2)(a) o Ddeddf 2015 yn yr amgylchiadau a ganlyn, sef pan fo’r ffioedd yn daladwy i berson mewn cysylltiad â chwrs cymhwysol a ddarperir ar ran sefydliad rheoleiddiedig gan y person hwnnw.
Huw Lewis
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
7 Gorffennaf 2015
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn rhagnodi’r uchafswm y bydd sefydliad sydd â chynllun ffioedd a mynediad a gymeradwywyd mewn grym yn gallu ei godi drwy ffioedd dysgu ar gyfer cyrsiau gradd llawnamser.
Mae rheoliad 3 yn rhagnodi’r uchafswm a fydd yn gymwys. Mae rheoliadau 4, 5 a 6 yn rhagnodi uchafsymiau is mewn cysylltiad â rhai cyrsiau.
Mae rheoliad 7 yn darparu, pan fo cwrs yn gwrs breiniol, fod ffioedd i’w trin fel pe baent yn daladwy i’r sefydliad y darperir y cwrs ar ei ran, a bod rhaid i gyfanswm y ffioedd y mae myfyriwr yn eu talu beidio â bod yn fwy na’r swm a ragnodir gan y Rheoliadau hyn.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Addysg Uwch, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.