NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer dynodi darparwyr addysg uwch penodol yn sefydliadau at ddiben Deddf Addysg Uwch (Cymru) 2015 (“Deddf 2015”). Mae’r Rheoliadau hefyd yn gwneud darpariaeth ar gyfer tynnu dynodiad yn ôl ac effaith tynnu dynodiad yn ôl.

Mae adran 3 o Ddeddf 2015 yn galluogi Gweinidogion Cymru i ddynodi darparwyr addysg uwch penodol yn sefydliadau o dan amgylchiadau pan na fyddai’r darparwr (oni bai am y dynodiad) yn cael ei ystyried yn sefydliad. Mae darparwr addysg uwch at ddibenion adran 3(2)(a) o Ddeddf 2015 yn un sy’n darparu addysg uwch yng Nghymru ac sy’n elusen.

Mae rheoliad 2 yn darparu i gais am ddynodiad fod yn ysgrifenedig. Mae’r rheoliad hefyd yn nodi’r hyn y mae rhaid i gais ei gynnwys.

Rhaid i gais am ddynodiad gynnwys gwybodaeth sy’n ymwneud â statws elusennol yr ymgeisydd. Pan fo’r ymgeisydd yn elusen gofrestredig, rhaid i’r cais gynnwys rhif cofrestru elusen yr ymgeisydd a manylion y rheoleiddiwr elusennau y mae’r ymgeisydd wedi cofrestru ag ef. Pan na fo ymgeisydd yn elusen gofrestredig, er enghraifft oherwydd ei fod yn elusen esempt neu eithriedig, rhaid i’r cais esbonio pam nad yw cofrestriad o’r fath yn ofynnol.

Rhaid i gais hefyd gynnwys gwybodaeth sy’n ymwneud â darparu addysg uwch yng Nghymru. Mae rheoliad 2(3) yn pennu’r materion hynny sy’n ymwneud â darparu addysg uwch yng Nghymru y mae rhaid eu cynnwys.

Mae rheoliad 3 yn ei gwneud yn ofynnol i gais gynnwys gydag ef gopi o unrhyw brosbectws a gyhoeddir gan yr ymgeisydd ac sy’n ymwneud â’r ddarpariaeth o addysg uwch yng Nghymru gan yr ymgeisydd hwnnw.

Mae rheoliad 4 yn ei gwneud yn ofynnol i ymgeisydd nad yw wedi ei gofrestru â rheoleiddiwr elusennau ddarparu copi o’i ddogfen lywodraethu gyda’i gais.

Mae rheoliad 5 yn gwneud darpariaeth ynghylch tynnu dynodiad yn ôl. Caniateir i ddynodiad gael ei dynnu’n ôl drwy hysbysiad ysgrifenedig a roddir gan Weinidogion Cymru i’r darparwr o dan sylw. Rhaid i’r hysbysiad bennu’r rhesymau dros dynnu’r dynodiad yn ôl a’r dyddiad y tynnir y dynodiad yn ôl.

Wrth benderfynu pa un ai i dynnu dynodiad yn ôl, rhaid i Weinidogion Cymru ystyried a yw’r darparwr bellach yn peidio â dod o fewn adran 3(2) o Ddeddf 2015.

Mae rheoliad 6 yn darparu, pan fo dynodiad wedi ei dynnu’n ôl, fod y darpariaethau hynny yn Neddf 2015 a bennir yn y rheoliad (sy’n ymwneud â therfynau ffioedd, cydymffurfio â gofynion cyffredinol cynlluniau ffioedd a mynediad ac ansawdd yr addysg) i barhau er gwaethaf bod darparwr wedi peidio â chael ei drin fel pe bai’n sefydliad.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Addysg Uwch, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.