2015 Rhif 1498 (Cy. 170)
Rheoliadau Addysg Uwch (Cynlluniau Ffioedd a Mynediad) (Cymru) 2015
Gwnaed
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 2(4), 6(1), 7(3), 8(1) a 9(1) o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 20151, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Yn unol ag adran 55(3) o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.
Enwi, cychwyn a chymhwyso1
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg Uwch (Cynlluniau Ffioedd a Mynediad) (Cymru) 2015.
2
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Gorffennaf 2015 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli2
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “cwrs cymhwysol” (“qualifying course”) yw cwrs a ddarperir yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru ac sydd wedi ei ragnodi at ddibenion adran 5(2)(b) o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015;
ystyr “person cymhwysol” (“qualifying person”) yw person sy’n dod o fewn adran 5(5) o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015.
Ceisiadau am gymeradwyaeth i gynllun ffioedd a mynediad3
Rhaid i gais gan sefydliad am gymeradwyaeth i gynllun ffioedd a mynediad gynnwys gwybodaeth sy’n ymwneud â’r canlynol—
a
hyfywedd ariannol y sefydliad;
b
y trefniadau ar gyfer trefnu a rheoli materion ariannol y sefydliad;
c
ansawdd yr addysg a ddarperir gan, neu ar ran, y sefydliad.
Darpariaethau sydd i’w cynnwys mewn cynlluniau ffioedd a mynediad
4
Mae rheoliadau 5 a 6 yn rhagnodi at ddibenion adran 6(1) o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015 y darpariaethau sy’n ymwneud â hybu cyfle cyfartal a hybu addysg uwch y mae rhaid i gynllun ffioedd a mynediad eu cynnwys.
5
Rhaid i gynllun ffioedd a mynediad—
a
nodi amcanion y sefydliad, a benderfynwyd gan y corff llywodraethu, sy’n ymwneud â hybu cyfle cyfartal a hybu addysg uwch;
b
pennu cyfran y ffioedd sy’n daladwy gan bersonau cymhwysol sy’n ymgymryd â chyrsiau cymhwysol y bydd y corff llywodraethu yn ei gwario ar yr amcanion ym mharagraff (a).
6
Rhaid i gynllun ffioedd a mynediad gynnwys darpariaethau sy’n ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu sefydliad—
a
cymryd camau i ddenu ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr sy’n aelodau o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, neu sicrhau bod y camau hynny’n cael eu cymryd;
b
cymryd camau i gadw myfyrwyr sy’n aelodau o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, neu sicrhau bod y camau hynny’n cael eu cymryd;
c
darparu cymorth ariannol i fyfyrwyr, neu sicrhau bod y cymorth hwnnw’n cael ei ddarparu;
d
rhoi gwybodaeth ar gael i fyfyrwyr neu ddarpar fyfyrwyr ynghylch y cymorth ariannol sydd ar gael i fyfyrwyr o unrhyw ffynhonnell, neu sicrhau bod yr wybodaeth honno’n cael ei rhoi ar gael;
e
hysbysu unrhyw ddarpar fyfyriwr, cyn i’r myfyriwr ymrwymo i ymgymryd â chwrs, am swm agregedig y ffioedd y bydd y sefydliad yn ei godi ar gyfer cwblhau’r cwrs, neu sicrhau bod unrhyw ddarpar fyfyriwr yn cael ei hysbysu o’r swm hwnnw;
f
monitro—
i
cydymffurfedd â darpariaethau’r cynllun; a
ii
y cynnydd sydd wedi ei wneud i gyflawni’r amcanion a nodir yn y cynllun.
Materion sydd i’w hystyried gan CCAUC7
Wrth wneud unrhyw benderfyniad mewn cysylltiad â chymeradwyo neu wrthod cynllun ffioedd a mynediad rhaid i CCAUC ystyried—
a
yr angen i ddiogelu mynediad teg at addysg uwch;
b
y darpariaethau sydd wedi eu cynnwys yn y cynllun ffioedd a mynediad sy’n ymwneud â hybu cyfle cyfartal a hybu addysg uwch;
c
y ffioedd sy’n daladwy gan bersonau cymhwysol sy’n ymgymryd â chyrsiau cymhwysol;
d
cyfran y ffioedd sy’n daladwy gan bersonau cymhwysol sy’n ymgymryd â chyrsiau cymhwysol y bydd y corff llywodraethu yn ei gwario ar hybu cyfle cyfartal a hybu addysg uwch;
e
hyfywedd ariannol y sefydliad;
f
y trefniadau ar gyfer trefnu a rheoli materion ariannol y sefydliad;
g
ansawdd yr addysg a ddarperir gan, neu ar ran, y sefydliad.
Cyhoeddi cynllun ffioedd a mynediad a gymeradwywyd8
Pan fo CCAUC wedi cymeradwyo cynllun ffioedd a mynediad, rhaid i’r corff llywodraethu ei gyhoeddi mewn dull sy’n ei wneud yn hawdd i fyfyrwyr a darpar fyfyrwyr gael gafael arno.
Amrywio cynlluniau ffioedd a mynediad9
1
Caiff corff llywodraethu wneud cais i CCAUC gymeradwyo amrywiad i’r cynllun a gymeradwywyd tra bo’r cynllun a gymeradwywyd mewn grym.
2
Dim ond os caiff ei gymeradwyo’n ysgrifenedig gan CCAUC y mae amrywiad i gynllun a gymeradwywyd i gymryd effaith.
3
Wrth wneud unrhyw benderfyniad mewn cysylltiad â chymeradwyo neu wrthod amrywiad i’r cynllun a gymeradwywyd rhaid i CCAUC ystyried y materion a nodir yn rheoliad 7(a) i (d).
4
Pan fo CCAUC wedi cymeradwyo amrywiad i gynllun a gymeradwywyd rhaid i’r corff llywodraethu gydymffurfio â rheoliad 8 fel petai, yn y rheoliad hwnnw, y gair “amrywiad” wedi ei roi yn lle “cynllun ffioedd a mynediad”.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)