2015 Rhif 1499 (Cy. 171)

Gofal Cymdeithasol, Cymru

Rheoliadau Gofal a Chymorth (Preswylfa Arferol) (Llety Penodedig) (Cymru) 2015

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 194(1) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 20141, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gofal a Chymorth (Preswylfa Arferol) (Llety Penodedig) (Cymru) 2015.

2

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Ebrill 2016 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

3

Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;

  • ystyr “llety cartref gofal” (“care home accommodation”) yw llety mewn cartref gofal o fewn yr ystyr a roddir i “care home” gan adran 3 o Ddeddf Safonau Gofal 20002.

Mathau penodedig o lety2

1

At ddibenion adran 194(1) o’r Ddeddf (preswylfa arferol), mae llety cartref gofal yn llety o fath penodedig.

Mark DrakefordY Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae adran 194 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“y Ddeddf”) yn gwneud darpariaeth ar gyfer cadarnhau preswylfa arferol person. Mae adran 194(1) yn gwneud darpariaeth ynghylch preswylfa arferol oedolyn mewn achos pan fo’n byw mewn llety o fath penodedig.

Pan fo gan oedolyn anghenion am ofal a chymorth na ellir eu diwallu ond drwy fyw mewn llety o fath penodedig a’i fod yn byw mewn llety o fath penodedig yng Nghymru, mae’r oedolyn i’w drin (yn rhinwedd adran 194(1) o’r Ddeddf) fel un sy’n preswylio fel arfer yn yr ardal lle’r oedd yn preswylio fel arfer yn union cyn iddo ddechrau byw yn y math penodedig o lety. Os oedd yr oedolyn heb breswylfa sefydlog yn union cyn iddo ddechrau byw mewn llety o fath penodedig, mae’r oedolyn i’w drin fel un sy’n preswylio fel arfer yn yr ardal lle’r oedd yn bresennol bryd hynny.

Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu bod llety cartref gofal yn llety o fath penodedig at ddibenion adran 194(1) o’r Ddeddf.