2015 Rhif 1500 (Cy. 172)

Gofal Cymdeithasol, Cymru

Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Mentrau Cymdeithasol, Cydweithredol a Thrydydd Sector) (Cymru) 2015

Gwnaed

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 16(3) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 20141, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Yn unol ag adran 196(6) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a chymeradwywyd ef ganddo drwy benderfyniad.

Enwi, cychwyn a chymhwyso1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Mentrau Cymdeithasol, Cydweithredol a Thrydydd Sector) (Cymru) 2015.

2

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Ebrill 2016 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli2

Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw awdurdod lleol sy’n arfer swyddogaethau o dan adran 16 o’r Ddeddf;

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Gweithgareddau sydd o fudd i’r gymdeithas3

At ddibenion y diffiniad o “menter gymdeithasol” yn adran 16(2) o’r Ddeddf, nid yw gweithgaredd i’w drin fel gweithgaredd y gallai person farnu’n rhesymol ei fod yn weithgaredd a gyflawnir er budd y gymdeithas ond—

a

os yw’n gynhwysol (fel y’i diffinnir yn rheoliad 4);

b

os yw’n cynnwys pobl (fel y’i diffinnir yn rheoliad 5); ac

c

os yw’n hyrwyddo llesiant (fel y’i diffinnir yn rheoliad 6).

Cynhwysol4

Mae gweithgaredd yn gynhwysol os yw’r sefydliad sy’n cyflawni’r gweithgaredd wedi rhoi sylw, mewn perthynas â’r gweithgaredd hwnnw, i’r ffactorau y mae’n rhaid i awdurdod cyhoeddus roi sylw iddynt wrth gydymffurfio â dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus a nodir yn adran 149 o Ddeddf Cydraddoldeb 20102.

Cynnwys pobl5

Mae gweithgaredd yn cynnwys pobl os yw’r sefydliad sy’n darparu’r gweithgaredd yn hyrwyddo ymglymiad personau y mae gofal a chymorth3 neu wasanaethau ataliol i’w darparu ar eu cyfer yn y broses o ddylunio a gweithredu’r ddarpariaeth honno.

Hyrwyddo llesiant6

Mae gweithgaredd yn hyrwyddo llesiant os oedd y sefydliad sy’n darparu’r gweithgaredd, wrth ddylunio a gweithredu’r gweithgaredd, wedi rhoi sylw i’r nod o geisio hyrwyddo llesiant pobl y mae arnynt angen gofal a chymorth, a gofalwyr y mae arnynt angen cymorth.

Mentrau cymdeithasol7

1

At ddibenion adran 16 o’r Ddeddf, mae’r mathau canlynol o sefydliad yn enghreifftiau o sefydliadau sydd i’w trin fel mentrau cymdeithasol—

a

cwmni buddiant cymunedol fel y cyfeirir ato yn adran 26 o Ddeddf Cwmnïau (Archwilio, Ymchwiliadau a Menter Gymunedol) 20044;

b

cymdeithas budd cymunedol sy’n bodloni’r gofynion ar gyfer cofrestru yn adran 2 o Ddeddf Cymdeithasau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol 20145;

c

menter gymunedol;

d

undeb credyd sydd wedi ei gofrestru a’i reoleiddio o dan Ddeddf Undebau Credyd 19796;

e

cymdeithas dai (fel y’i diffinnir yn adran 1 o Ddeddf Cymdeithasau Tai 19857).

2

Yn rheoliad 7(1)(c) uchod ystyr “menter gymunedol” (“community enterprise”) yw corff—

a

y mae cyfrannu at ddatblygiad economaidd a chymdeithasol ardal benodol o Gymru yn brif ddiben ganddo; a

b

nad yw, yn ôl ei gyfansoddiad ysgrifenedig, yn derbyn i’w aelodaeth neb ond—

i

personau sy’n preswylio, neu sy’n cael eu cyflogi, yn yr ardal honno (neu sy’n preswylio yno ac yn cael eu cyflogi yno); neu

ii

personau a enwebir gan y personau a grybwyllwyd yn is-baragraff (i) uchod.

Mentrau cydweithredol8

1

At ddibenion adran 16(1) o’r Ddeddf—

a

caniateir i sefydliad gael ei drin fel sefydliad cydweithredol p’un a yw’n bodloni’r holl ofynion ar gyfer cofrestru o dan Ddeddf Cymdeithasau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol 2014 ai peidio;

b

caniateir i drefniadau gael eu trin fel trefniadau cydweithredol p’un a yw’r sefydliad sy’n gwneud y trefniadau yn bodloni’r holl ofynion ar gyfer cofrestru o dan Ddeddf Cymdeithasau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol 2014 ai peidio;

os yw’r sefydliad, neu’r sefydliad sy’n gwneud y trefniadau, yn cydymffurfio i raddau digonol â’r egwyddorion ar gyfer mentrau cydweithredol ym mharagraff (2).

2

Mae’r egwyddorion ar gyfer mentrau cydweithredol yn ei gwneud yn ofynnol bod y sefydliad yn un—

a

ymreolaethol,

b

a chanddo aelodaeth wirfoddol,

c

a chanddo’r diben o fodloni anghenion a dyheadau economaidd, cymdeithasol a diwylliannol cyffredin,

d

a berchenogir ar y cyd, ac

e

a reolir yn ddemocrataidd.

Adran o’r gymdeithas9

At ddibenion adran 16 o’r Ddeddf caniateir i adran o’r gymdeithas gael ei ffurfio o’r canlynol —

a

y personau hynny y mae arnynt neu y gall fod arnynt angen gofal a chymorth;

b

gofalwyr y mae arnynt neu y gall fod arnynt angen cymorth; neu

c

plant, pobl sy’n gadael gofal a phobl ifanc y mae gan awdurdod lleol swyddogaethau sy’n arferadwy mewn perthynas â hwy o dan Ran 6 o’r Ddeddf.

Mark DrakefordY Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae adran 16(1) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“y Ddeddf”) yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i hyrwyddo mentrau cymdeithasol, sefydliadau cydweithredol, trefniadau cydweithredol a sefydliadau trydydd sector i ddarparu gofal a chymorth a gwasanaethau ataliol yn eu hardal. Mae adran 16(2) yn diffinio “menter gymdeithasol” a “sefydliad trydydd sector”. Mae’r diffiniad o “menter gymdeithasol” yn cynnwys gofyniad bod ei gweithgareddau yn gyfan gwbl neu’n bennaf yn rhai y gallai person farnu’n rhesymol eu bod yn weithgareddau a gyflawnir er budd y gymdeithas. Mae “sefydliad trydydd sector” wedi ei ddiffinio fel sefydliad y gallai person farnu’n rhesymol ei fod yn sefydliad sy’n bodoli’n gyfan gwbl neu’n bennaf i ddarparu buddion i’r gymdeithas. Mae’r cyfeiriad at “y gymdeithas” yn y ddau ddiffiniad wedi ei ddiffinio fel un sy’n cynnwys adran o’r gymdeithas.

Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu mwy o fanylion am y mathau o sefydliadau neu drefniadau sydd i’w trin neu ddim i’w trin fel mentrau cymdeithasol, sefydliadau neu drefniadau cydweithredol a’r hyn y caniateir ei ystyried yn adran o’r gymdeithas. Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynglŷn â’r hyn sy’n gyfystyr â gweithgaredd y gallai person farnu’n rhesymol ei fod yn weithgaredd a gyflawnir er budd y gymdeithas. Mae’r Rheoliadau yn gwneud darpariaeth hefyd ar gyfer yr hyn a gaiff fod yn gyfystyr ag adran o’r gymdeithas at ddibenion y diffiniad o “menter gymdeithasol” a “sefydliad trydydd sector”.

Mae rheoliadau 3, 4, 5 a 6 yn gwneud darpariaeth ynglŷn â’r hyn a drinnir fel gweithgaredd y gallai person farnu’n rhesymol ei fod yn weithgaredd a gyflawnir er budd y gymdeithas.

Mae rheoliad 7 yn rhestru enghreifftiau o sefydliadau y caniateir eu trin fel menter gymdeithasol. Mae rheoliad 8 yn darparu y caiff sefydliad gael ei drin fel menter gydweithredol, p’un a yw wedi ei gofrestru o dan Ddeddf Cymdeithasau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol 2014 ai peidio, ar yr amod ei fod yn cydymffurfio â’r egwyddorion ar gyfer menter gydweithredol.

Mae rheoliad 9 yn pennu enghraifft o’r hyn a gaiff fod yn gyfystyr ag adran o’r gymdeithas.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi drwy gysylltu â’r Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.