xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
17.—(1) Ni chaiff neb fasnachu mewn mêl oni bai bod y wlad tarddiad lle cynaeafwyd y mêl wedi ei dangos ar y label ac eithrio, os yw’r mêl yn tarddu o fwy nag un Aelod-wladwriaeth neu drydedd wlad, y caniateir gosod un o’r mynegiadau a ganlyn yn lle’r gwledydd y tarddodd ohonynt, fel y bo’n briodol—
“blend of EU honeys”;
“blend of non-EU honeys”;
“blend of EU and non-EU honeys”.
(2) Ym mharagraffau (3) i (5), ystyr “mêl perthnasol” (“relevant honey”) yw pob mêl ac eithrio mêl pobydd a mêl wedi ei hidlo.
(3) Caniateir ategu enw cynnyrch mêl perthnasol gyda gwybodaeth am ei darddiad blodeuol neu lysieuol ond ni chaiff neb fasnachu mewn mêl perthnasol y darperir gwybodaeth ategol o’r fath yn ei gylch oni bai bod y cynnyrch yn dod yn gyfan gwbl neu’n bennaf o’r ffynhonnell a nodir a bod ganddo nodweddion organoleptig, ffisigocemegol a microsgopig y ffynhonnell.
(4) Caniateir ategu enw cynnyrch mêl perthnasol gyda gwybodaeth am ei darddiad rhanbarthol, tiriogaethol neu dopograffyddol ond ni chaiff neb fasnachu mewn mêl perthnasol y darperir gwybodaeth ategol o’r fath yn ei gylch oni bai bod y cynnyrch yn dod yn gyfan gwbl o’r tarddiad a nodir.
(5) Caniateir ategu enw cynnyrch mêl perthnasol gyda gwybodaeth am ei feini prawf ansawdd penodol.
(6) Yn ogystal â’r geiriau a ddangosir ar y label yn rhinwedd paragraff (1), caniateir cynnwys y mynegiadau a ganlyn fel y bo’n briodol—
“cyfuniad o felau o’r UE”;
“cyfuniad o felau o’r tu allan i’r UE”; neu
“cyfuniad o felau o’r UE ac o’r tu allan i’r UE”.
(7) Nid oes dim ym mharagraffau (1) neu (6) yn atal y geiriau y caniateir eu cynnwys yn rhinwedd paragraff (1) rhag cael eu cynnwys mewn unrhyw iaith arall yn ogystal ag yn Gymraeg a Saesneg.