2015 Rhif 1513 (Cy. 175)

Aer Glân, Cymru

Gorchymyn Ardaloedd Rheoli Mwg (Lleoedd Tân Esempt) (Cymru) 2015

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 21 o Ddeddf Aer Glân 19931 ac a freiniwyd bellach yng Ngweinidogion Cymru2 i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, a hwythau wedi eu bodloni y gellir defnyddio’r lleoedd tân a esemptir gan y Gorchymyn hwn i losgi tanwydd nad yw’n danwydd awdurdodedig heb gynhyrchu unrhyw fwg neu faint sylweddol o fwg, yn gwneud y Gorchymyn canlynol: