18. Cosycoke (a farchnetir hefyd fel Lionheart Crusader neu Sunbrite Plus), a weithgynhyrchir gan Monckton Coke & Chemical Company Limited yn Royston, ger Barnsley, South Yorkshire ac Aimcor Supercoke (sydd hefyd yn cael ei farchnata fel Supercoke), a weithgynhyrchir gan M & G Fuels Limited yn Hartlepool Docks, Hartlepool, ac ym mhob achos—
(a)a gyfansoddir o olosg caled o faint penodol (sef tua 45 i 65% o’r cyfanswm pwysau) a golosg petrolewm o faint penodol (sef gweddill y pwysau);
(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy eu blendio;
(c)sy’n hapsiapiau heb eu marcio; ac
(d)nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy na 2% o’r cyfanswm pwysau.