YR ATODLENTANWYDDAU AWDURDODEDIG
64.
Boncyffion tân Tiger Tim, a weithgynhyrchir gan De Lange BV, Rustenburgerweg 3, 1646 WJ Ursem, Yr Iseldiroedd—
(a)
a gyfansoddir o gwyr hydrin (sef tua 50% o’r cyfanswm pwysau) a blawd llif (sef gweddill y pwysau);
(b)
a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses trin â gwres ac allwthio;
(c)
sydd tua 280 milimetr o hyd x 75 milimetr x 75 milimetr a chanddynt un rhigol yn rhedeg ar hyd pob un o’r pedwar wyneb sy’n 280 milimetr o hyd;
(d)
sy’n pwyso 1.1 cilogram ar gyfartaledd; ac
(e)
nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy na 0.2% o’r cyfanswm pwysau.