Search Legislation

Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau, Ceisiadau Tybiedig ac Ymweliadau Safle) (Cymru) 2015

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2015 Rhif 1522 (Cy. 179)

Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru

Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau, Ceisiadau Tybiedig ac Ymweliadau Safle) (Cymru) 2015

Gwnaed

6 Gorffennaf 2015

Yn dod i rym

1 Hydref 2015

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 303 a 333(2A) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(1) yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Yn unol ag adran 303(8) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a chymeradwywyd ef drwy benderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau, Ceisiadau Tybiedig ac Ymweliadau Safle) (Cymru) 2015, a deuant i rym ar 1 Hydref 2015.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys—

(a)i geisiadau am ganiatâd cynllunio y tybir iddynt gael eu gwneud yn rhinwedd adran 177(5) o Ddeddf 1990 (rhoi neu addasu caniatâd cynllunio yn dilyn apelau yn erbyn hysbysiadau gorfodi)(2), mewn cysylltiad â hysbysiad gorfodi a ddyroddir ar neu ar ôl y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym; a

(b)i’r ceisiadau a’r ymweliadau safle canlynol a wneir ar neu ar ôl y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym—

(i)ceisiadau am ganiatâd cynllunio;

(ii)ceisiadau am gymeradwyaeth ar gyfer materion a gadwyd yn ôl(3);

(iii)ceisiadau o dan adran 191 o Ddeddf 1990 (tystysgrif o gyfreithlondeb defnydd neu ddatblygiad presennol)(4);

(iv)ceisiadau o dan adran 192 o Ddeddf 1990 (tystysgrif o gyfreithlondeb defnydd neu ddatblygiad arfaethedig)(5);

(v)ceisiadau am ganiatâd i arddangos hysbysebion;

(vi)ceisiadau o dan y Gorchymyn Datblygu Cyffredinol a Ganiateir, y cyfeirir atynt yn rheoliad 13;

(vii)ymweliadau safle â safle mwyngloddio neu safle tirlenwi;

(viii)ceisiadau o dan amod cynllunio; a

(ix)ceisiadau o dan adran 96A(4) o Ddeddf 1990 (pŵer i wneud newidiadau ansylweddol i ganiatâd cynllunio)(6).

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

mae i “caniatâd cynllunio amlinellol” (“outline planning permission”) yr un ystyr a roddir yn erthygl 2(1) o’r Gorchymyn Gweithdrefn Rheoli Datblygu;

ystyr “caniatâd mwynau” (“mineral permission”) yw unrhyw ganiatâd cynllunio ar gyfer datblygiad sy’n cynnwys—

(a)

cloddio a gweithio mwynau; neu

(b)

gollwng gwastraff mwynau;

ystyr “caniatâd tirlenwi” (“landfill permission”) yw unrhyw ganiatâd cynllunio—

(a)

ar gyfer datblygiad gweithredol tir y bwriedir ei ddefnyddio yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel safle i waredu gwastraff drwy ollwng gwastraff ar y tir neu i mewn ynddo, neu

(b)

ar gyfer unrhyw newid defnydd sylweddol o safle o’r fath;

ystyr “Deddf 1990” (“the 1990 Act”) yw Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990;

mae “defnydd o dir” (“use of land”) yn cynnwys defnyddio tir ar gyfer cloddio a gweithio mwynau;

ystyr “y Gorchymyn Datblygu Cyffredinol a Ganiateir” (“the General Permitted Development Order”) yw Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995(7);

ystyr “y Gorchymyn Gweithdrefn Rheoli Datblygu” (“the Development Management Procedure Order”) yw Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012(8);

ystyr “Rheoliadau 1989” (“the 1989 Regulations”) yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau a Cheisiadau Tybiedig) 1989(9);

ystyr “Rheoliadau 1992” (“the 1992 Regulations”) yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Rheoli Hysbysebion) 1992(10);

ystyr “safle mwyngloddio” (“mining site”) yw—

(a)

cyfanswm arwynebedd y tir y mae unrhyw ddau neu ragor o ganiatadau mwynau yn ymwneud ag ef pan fo cyfanswm arwynebedd y tir—

(i)

yn cael ei weithio fel safle sengl; neu

(ii)

yn cael ei drin fel safle sengl gan yr awdurdod cynllunio lleol at ddibenion Atodlen 13 i Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (adolygu hen ganiatadau cynllunio mwynau)(11) neu Atodlen 14 i’r Ddeddf honno (adolygu yn gyfnodol hen ganiatadau cynllunio mwynau)(12); a

(b)

mewn unrhyw achos arall, y tir y mae caniatâd mwynau yn ymwneud ag ef;

ystyr “safle tirlenwi” (“landfill site”) yw’r tir y mae caniatâd tirlenwi yn ymwneud ag ef;

ystyr “tŷ annedd” (“dwellinghouse”) yw adeilad(13) a ddefnyddir fel tŷ annedd preifat sengl ac nas defnyddir ar gyfer unrhyw ddiben arall;

ystyr “tŷ gwydr” (“glasshouse”) yw adeilad—

(a)

sydd â dim llai na thri chwarter cyfanswm ei arwynebedd allanol yn cynnwys gwydr neu ddeunydd tryleu arall;

(b)

wedi ei gynllunio at y diben o gynhyrchu blodau, ffrwythau, llysiau, perlysiau neu gynhyrchion garddwriaethol eraill; ac

(c)

a ddefnyddir neu y bwriedir ei ddefnyddio, at ddibenion amaethyddiaeth yn unig;

ystyr “ymweliad safle” (“site visit”) yw awdurdod cynllunio lleol yn mynd i mewn i safle mwynau neu safle tirlenwi er mwyn—

(a)

canfod a oes unrhyw doriad rheolaeth gynllunio yn digwydd neu wedi digwydd ar y safle;

(b)

penderfynu a ddylid arfer, mewn perthynas â’r safle, unrhyw bwerau a roddwyd i’r awdurdod cynllunio lleol gan Ran 7 o Ddeddf 1990 (gorfodi)(14);

(c)

penderfynu sut y dylid arfer unrhyw bŵer o’r fath mewn perthynas â’r safle hwnnw; neu

(d)

canfod a fu unrhyw gydymffurfiad ag unrhyw ofyniad a osodwyd o ganlyniad i arfer unrhyw bŵer o’r fath mewn perthynas â’r safle.

(2Mae i ymadroddion a ddefnyddir yn rheoliad 12 ac Atodlen 2, ac y defnyddir eu cyfystyron Saesneg yn Rheoliadau 1992, yr ystyron a roddir i’r cyfystyron Saesneg hynny yn Rheoliadau 1992.

(3Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriadau at awdurdod cynllunio lleol yn gyfeiriadau at awdurdod cynllunio lleol yng Nghymru.

Ffioedd am geisiadau cynllunio

3.—(1Yn ddarostyngedig i reoliadau 4 i 8, pan wneir cais i awdurdod cynllunio lleol am ganiatâd cynllunio ar gyfer datblygu tir neu am gymeradwyaeth ar gyfer materion a gadwyd yn ôl, rhaid talu ffi i’r awdurdod hwnnw.

(2Cyfrifir y ffi sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r cais yn unol ag Atodlen 1.

(3Pan fo ffi’n daladwy mewn cysylltiad â chais, rhaid talu’r ffi i’r awdurdod cynllunio lleol y cyflwynir y cais iddo, a rhaid ei chyflwyno ynghyd â’r cais.

(4Os nad yr awdurdod cynllunio lleol sy’n cael y ffi yn unol â pharagraffau (1) i (3) yw’r awdurdod cynllunio lleol sy’n gorfod penderfynu’r cais, rhaid i’r awdurdod sy’n cael y ffi anfon y ffi at yr awdurdod hwnnw yr un pryd ag y bydd yn anfon y cais ymlaen ato.

(5Rhaid ad-dalu unrhyw ffi a delir yn unol â’r rheoliad hwn os gwrthodir y cais ar y sail ei fod yn annilys.

Eithriadau – mynediad a chyfleusterau ar gyfer personau anabl

4.—(1Nid yw rheoliad 3 yn gymwys pan fodlonir yr awdurdod cynllunio lleol y gwneir y cais iddo fod y cais yn ymwneud yn unig ag—

(a)cyflawni gweithrediadau i addasu neu estyn tŷ annedd presennol; neu

(b)cyflawni gweithrediadau o fewn cwrtil tŷ annedd presennol (ac eithrio codi tŷ annedd),

at y diben, yn y naill achos a’r llall, o ddarparu mynedfa i’r tŷ annedd, neu oddi mewn i’r tŷ annedd, ar gyfer person anabl sy’n preswylio neu’n bwriadu preswylio yn y tŷ annedd hwnnw, neu o ddarparu cyfleusterau a fwriadwyd i sicrhau gwell diogelwch, iechyd neu gysur i’r person hwnnw.

(2Nid yw rheoliad 3 yn gymwys pan fodlonir yr awdurdod cynllunio lleol y gwneir y cais iddo fod y cais yn ymwneud yn unig â chyflawni gweithrediadau at y diben o ddarparu mynedfa ar gyfer personau anabl i adeilad neu fangre y derbynnir aelodau’r cyhoedd iddynt (pa un ai am dâl ai peidio), neu oddi mewn i adeilad neu fangre o’r fath.

(3At ddibenion y rheoliad hwn, mae person yn anabl—

(a)os oes nam sylweddol ar olwg, clyw neu leferydd y person hwnnw;

(b)os oes gan y person hwnnw anhwylder meddyliol; neu

(c)os gwnaed y person hwnnw yn sylweddol anabl yn gorfforol gan unrhyw salwch, unrhyw nam a oedd yn bresennol o’i enedigaeth, neu rywfodd arall.

(4Yn y rheoliad hwn, ystyr “anhwylder meddyliol” (“mental disorder”) yw unrhyw anhwylder neu anabledd y meddwl.

Eithriadau – pan nad yw caniatâd a roddir gan y Gorchymyn Datblygu Cyffredinol a Ganiateir yn gymwys

5.—(1Nid yw rheoliad 3 yn gymwys pan fodlonir yr awdurdod cynllunio lleol—

(a)bod y cais yn ymwneud yn unig â datblygiad sydd o fewn un neu ragor o’r dosbarthiadau a bennir yn Atodlen 2 i’r Gorchymyn Datblygu Cyffredinol a Ganiateir(15); a

(b)nad yw’r caniatâd a roddir gan erthygl 3 o’r Gorchymyn hwnnw (datblygu a ganiateir)(16) yn gymwys mewn cysylltiad â’r datblygiad hwnnw oherwydd (ac yn unig oherwydd)—

(i)cyfarwyddyd a wnaed o dan erthygl 4 o’r Gorchymyn hwnnw (cyfarwyddiadau sy’n cyfyngu ar ddatblygu a ganiateir)(17) sydd mewn grym ar y dyddiad y gwnaed y cais; neu

(ii)gofynion amod a osodwyd ar ganiatâd a roddwyd, neu y tybir iddo gael ei roi o dan Ran 3 o Ddeddf 1990 (rheolaeth dros ddatblygu)(18) rywfodd ac eithrio gan y Gorchymyn hwnnw.

(2Rhaid dehongli ceisiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(a) fel pe baent yn cynnwys ceisiadau am ganiatâd cynllunio i barhau’r defnydd o dir, neu gadw adeiladau neu weithfeydd, heb gydymffurfio ag amod y rhoddwyd caniatâd cynllunio blaenorol yn ddarostyngedig iddo, pan fo’r amod hwnnw’n gwahardd neu’n cyfyngu ar gyflawni unrhyw ddatblygiad o fewn un neu ragor o’r dosbarthiadau a bennir yn Atodlen 2 i’r Gorchymyn Datblygu Cyffredinol a Ganiateir.

Eithriadau – cais mewn perthynas â’r un dosbarth defnydd yn angenrheidiol oherwydd amod

6.  Nid yw rheoliad 3 yn gymwys pan fodlonir yr awdurdod cynllunio lleol—

(a)bod y cais yn ymwneud yn unig â’r defnydd o adeilad, neu dir arall, at ddiben o unrhyw ddosbarth a bennir yn yr Atodlen i Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Dosbarthiadau Defnydd) 1987(19);

(b)bod defnydd presennol yr adeilad neu’r tir arall hwnnw at ddiben arall o’r un dosbarth; ac

(c)bod gwneud cais am ganiatâd cynllunio mewn cysylltiad â’r defnydd y mae’r cais yn ymwneud ag ef yn angenrheidiol oherwydd (ac yn unig oherwydd) gofynion amod a osodwyd ar ganiatâd a roddwyd, neu y tybir iddo gael ei roi, o dan Ran 3 o Ddeddf 1990.

Eithriadau – cydgrynhoi caniatadau mwynau sy’n bodoli eisoes

7.  Nid yw rheoliad 3 yn gymwys mewn perthynas â chais i awdurdod cynllunio lleol am ganiatâd i gyflawni datblygiad sy’n cynnwys cloddio a gweithio mwynau—

(a)pan fo’r cais am ganiatâd sy’n cydgrynhoi dau neu ragor o ganiatadau sy’n bodoli eisoes; a

(b)pan nad yw’r cais yn ceisio cael caniatâd ar gyfer datblygiad nas awdurdodir gan ganiatâd sy’n bodoli eisoes.

Esemptiadau – cais sy’n dilyn tynnu’n ôl gais cynharach neu wrthod caniatâd cynllunio etc.

8.—(1Pan fodlonir yr holl amodau a nodir ym mharagraff (2), nid yw rheoliad 3 yn gymwys i’r canlynol—

(a)cais am ganiatâd cynllunio a wneir yn dilyn tynnu’n ôl (cyn dyroddi hysbysiad o benderfyniad) gais dilys am ganiatâd cynllunio a wnaed gan neu ar ran yr un ceisydd;

(b)cais am ganiatâd cynllunio a wneir yn dilyn gwrthod caniatâd cynllunio (pa un ai gan yr awdurdod cynllunio lleol neu gan Weinidogion Cymru yn dilyn apêl, neu’n dilyn cyfeirio’r cais at Weinidogion Cymru i’w benderfynu) ar gyfer cais dilys am ganiatâd cynllunio a wnaed gan neu ar ran yr un ceisydd;

(c)cais am ganiatâd cynllunio a wneir yn dilyn apêl a wnaed i Weinidogion Cymru o dan adran 78(2) o Ddeddf 1990(20) mewn perthynas â chais dilys am ganiatâd cynllunio a wnaed gan neu ar ran yr un ceisydd;

(d)cais am gymeradwyaeth ar gyfer un neu ragor o faterion a gadwyd yn ôl, a wneir yn dilyn tynnu’n ôl (cyn dyroddi hysbysiad o benderfyniad) gais dilys a wnaed gan neu ar ran yr un ceisydd am gymeradwyaeth ar gyfer yr un materion a gadwyd yn ôl mewn perthynas â’r un caniatâd cynllunio amlinellol;

(e)cais am gymeradwyaeth ar gyfer un neu ragor o faterion a gadwyd yn ôl, a wneir yn dilyn gwrthod cymeradwyaeth (pa un ai gan yr awdurdod cynllunio lleol neu gan Weinidogion Cymru yn dilyn apêl) ar gyfer yr un materion a gadwyd yn ôl, a gyflwynwyd mewn cais dilys, a wnaed gan neu ar ran yr un ceisydd ac mewn perthynas â’r un caniatâd cynllunio amlinellol; neu

(f)cais am gymeradwyaeth ar gyfer un neu ragor o faterion a gadwyd yn ôl, a wneir yn dilyn apêl a wnaed i Weinidogion Cymru o dan adran 78(2) o Ddeddf 1990 mewn perthynas â chais dilys a wnaed gan neu ar ran yr un ceisydd am gymeradwyaeth ar gyfer yr un materion a gadwyd yn ôl mewn perthynas â’r un caniatâd cynllunio amlinellol.

(2Yr amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw—

(a)bod y cais wedi ei wneud o fewn 12 mis ar ôl—

(i)yn achos cais dilys cynharach a dynnwyd yn ôl, y dyddiad y cafwyd y cais hwnnw;

(ii)yn achos cais a wneir yn dilyn apêl a wnaed o dan adran 78(2) o Ddeddf 1990, y dyddiad (yn rhinwedd erthygl 22 neu 23 o’r Gorchymyn Gweithdrefn Rheoli Datblygu, yn ôl y digwydd) y daeth y cyfnod i ben ar gyfer rhoi hysbysiad o benderfyniad ar y cais dilys cynharach; neu

(iii)mewn unrhyw achos arall, dyddiad y gwrthodiad;

(b)bod y cais—

(i)yn achos cais am ganiatâd cynllunio, yn ymwneud â’r un safle ag yr oedd y cais cynharach yn ymwneud ag ef, neu â rhan o’r safle hwnnw, ac nid ag unrhyw dir arall ac eithrio tir a gynhwysir yn unig at y diben o ddarparu mynedfa wahanol i’r safle; neu

(ii)yn achos cais am gymeradwyaeth ar gyfer materion a gadwyd yn ôl, yn ymwneud â’r un safle ag yr oedd y cais cynharach yn ymwneud ag ef, neu â rhan o’r safle hwnnw, (ac nid ag unrhyw dir arall);

(c)yn achos cais am ganiatâd cynllunio, y bodlonwyd yr awdurdod cynllunio lleol fod y cais yn ymwneud â datblygiad o’r un cymeriad neu ddisgrifiad â’r datblygiad yr oedd y cais cynharach yn ymwneud ag ef ( ac nid ag unrhyw ddatblygiad arall);

(d)yn achos cais am ganiatâd cynllunio nas gwneir mewn amlinell, nad oedd y cais cynharach ychwaith wedi ei wneud mewn amlinell;

(e)bod y ffi a oedd yn daladwy mewn cysylltiad â’r cais cynharach wedi ei thalu; ac

(f)nad oes unrhyw gais a wnaed gan neu ar ran y ceisydd, mewn perthynas â’r cyfan neu unrhyw ran o’r safle, wedi ei esemptio o reoliad 3 eisoes gan y rheoliad hwn.

(3Yn y rheoliad hwn, mae i “cais dilys” (“valid application”) yr un ystyr a roddir iddo yn erthygl 22(3) o’r Gorchymyn Gweithdrefn Rheoli Datblygu.

Ad-dalu ffioedd mewn perthynas â cheisiadau nas penderfynir o fewn cyfnodau penodedig

9.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhaid ad-dalu i’r ceisydd unrhyw ffi a delir gan y ceisydd mewn cysylltiad â chais am ganiatâd cynllunio neu am gymeradwyaeth ar gyfer materion a gadwyd yn ôl, os digwydd i’r awdurdod cynllunio lleol fethu â phenderfynu’r cais o fewn y cyfnodau a bennir ym mharagraff (2).

(2Y cyfnodau penodedig yw—

(a)pan fo cais am ganiatâd cynllunio yn ymwneud â chategori o ddatblygiad sy’n dod o fewn categori 6 neu 7 yn y tabl a nodir yn Rhan 2 o Atodlen 1, 8 wythnos;

(b)mewn unrhyw achos arall, 16 wythnos.

(3Mae’r cyfnodau a bennir ym mharagraff (2) yn dechrau pan ddaw’r cyfnod i ben, ar gyfer rhoi hysbysiad o benderfyniad ar y cais, a bennir yn erthygl 22(2) o’r Gorchymyn Gweithdrefn Rheoli Datblygu.

(4Nid yw paragraff (1) yn gymwys—

(a)pan fo Gweinidogion Cymru yn rhoi cyfarwyddyd o dan adran 77 o Ddeddf 1990 (atgyfeirio ceisiadau at Weinidogion Cymru)(21) mewn perthynas â’r cais cyn bo’r cyfnodau a bennir ym mharagraff (2) wedi dod i ben;

(b)pan fo’r ceisydd wedi apelio i Weinidogion Cymru o dan adran 78(2) o Ddeddf 1990 cyn bo’r cyfnodau a bennir ym mharagraff (2) wedi dod i ben; neu

(c)pan fo unrhyw berson a dramgwyddir gan unrhyw benderfyniad gan yr awdurdod cynllunio lleol mewn perthynas â’r cais wedi gwneud cais i’r Uchel Lys cyn bo’r cyfnodau a bennir ym mharagraff (2) wedi dod i ben.

Ffioedd mewn cysylltiad â cheisiadau tybiedig

10.—(1Yn y rheoliad hwn—

(a)ystyr “apelydd” (“appellant”) yw’r person sydd wedi apelio yn erbyn yr hysbysiad gorfodi perthnasol;

(b)ystyr “awdurdod perthnasol” (“relevant authority”) yw’r awdurdod cynllunio lleol a ddyroddodd yr hysbysiad gorfodi; ac

(c)ystyr “dyddiad perthnasol” (“relevant date”) yw’r dyddiad y gwneir yr apêl yn erbyn yr hysbysiad gorfodi.

(2Yn ddarostyngedig i baragraffau (3), (8) a (9), pan dybir bod cais am ganiatâd cynllunio wedi ei wneud yn rhinwedd adran 177(5) o Ddeddf 1990 (“cais tybiedig”), rhaid talu ffi i’r awdurdod perthnasol.

(3Nid oes ffi’n daladwy o dan y rheoliad hwn mewn cysylltiad â chais tybiedig ac eithrio os fyddai ffi wedi bod yn daladwy o dan y Rheoliadau hyn am gais am ganiatâd cynllunio a wnaed i’r awdurdod perthnasol ar y dyddiad perthnasol mewn cysylltiad â’r materion y datgenir yn yr hysbysiad gorfodi eu bod yn torri rheolaeth gynllunio.

(4Swm y ffi yw dwywaith y ffi a fyddai wedi bod yn daladwy i’r awdurdod perthnasol mewn cysylltiad â chais fel y disgrifir ym mharagraff (3).

(5Rhaid talu’r ffi mewn cysylltiad â’r cais tybiedig gan bob person sydd wedi gwneud apêl ddilys yn erbyn yr hysbysiad gorfodi ac nad yw ei apêl wedi ei thynnu’n ôl cyn y dyddiad y dyroddir hysbysiad gan Weinidogion Cymru o dan baragraff (7).

(6Rhaid talu’r ffi i’r awdurdod perthnasol.

(7Rhaid talu’r ffi ar y cyfryw amser y caiff Gweinidogion Cymru ei bennu yn yr achos penodol, drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r apelydd.

(8Mae rheoliadau 4, 5 a 6 yn gymwys i gais tybiedig, fel y maent yn gymwys i gais a wnaed i’r awdurdod cynllunio lleol, gydag addasiadau fel a ganlyn—

(a)rhaid dehongli cyfeiriadau at yr awdurdod cynllunio lleol fel cyfeiriadau at Weinidogion Cymru; a

(b)rhaid dehongli cyfeiriadau at y datblygiad y mae’r cais yn ymwneud ag ef fel cyfeiriadau at y defnydd o dir neu’r gweithrediadau y mae’r hysbysiad gorfodi perthnasol yn ymwneud ag ef.

(9Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo’r apelydd—

(a)cyn y dyddiad y dyroddwyd yr hysbysiad gorfodi perthnasol, wedi gwneud cais i’r awdurdod cynllunio lleol am ganiatâd cynllunio ar gyfer y datblygiad y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef, ac wedi talu i’r awdurdod y ffi daladwy mewn cysylltiad â’r cais hwnnw; neu

(b)cyn y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad gorfodi perthnasol fel y dyddiad y mae’r hysbysiad i gael effaith, wedi gwneud apêl i Weinidogion Cymru yn erbyn gwrthodiad yr awdurdod cynllunio lleol i roi caniatâd o’r fath,

ac nad oedd y cais hwnnw wedi ei benderfynu neu, yn achos apêl, yr apêl honno wedi ei phenderfynu, ar y dyddiad y dyroddwyd yr hysbysiad gorfodi perthnasol.

(10Rhaid ad-dalu i’r apelydd unrhyw ffi a dalwyd ganddo mewn cysylltiad â’r cais tybiedig os digwydd—

(a)bod Gweinidogion Cymru—

(i)yn gwrthod awdurdodaeth ar yr apêl berthnasol o dan adran 174 o Ddeddf 1990 (apêl yn erbyn hysbysiad gorfodi)(22) ar y sail nad yw’n cydymffurfio ag un neu ragor o ofynion is-adrannau (1) i (3) o’r adran honno;

(ii)yn gwrthod yr apêl berthnasol drwy arfer y pwerau a gynhwysir yn adran 176(3)(a) o Ddeddf 1990 ar y sail bod yr apelydd wedi methu â chydymffurfio ag adran 174(4) o Ddeddf 1990 o fewn y cyfnod rhagnodedig; neu

(iii)yn caniatáu’r apêl berthnasol ac yn diddymu’r hysbysiad gorfodi perthnasol drwy arfer y pwerau a gynhwysir yn adran 176(3)(b) o Ddeddf 1990;

(b)bod yr apêl berthnasol yn cael ei thynnu’n ôl o dan adran 174 o Ddeddf 1990, fel bod cyfnod o 21 diwrnod, o leiaf, rhwng y dyddiad y tynnwyd yr apêl yn ôl ac—

(i)y dyddiad (neu, os bu gohirio, y dyddiad diweddaraf) a bennwyd ar gyfer cynnal ymchwiliad i’r apêl honno; neu

(ii)yn achos apêl yr ymdrinnir â hi ar sail sylwadau ysgrifenedig, y dyddiad (neu, os bu gohirio, y dyddiad diweddaraf) a bennwyd ar gyfer arolygu’r safle y mae’r hysbysiad gorfodi’n ymwneud ag ef; neu

(c)bod yr awdurdod perthnasol yn tynnu’r hysbysiad gorfodi perthnasol yn ôl cyn iddo gael effaith, neu Weinidogion Cymru yn penderfynu bod yr hysbysiad gorfodi yn ddi-rym.

(11At ddibenion paragraff (10)(b) trinnir apêl fel pe bai wedi ei thynnu’n ôl ar y dyddiad y mae Gweinidogion Cymru yn cael yr hysbysiad ysgrifenedig o dynnu’r apêl yn ôl.

(12Ac eithrio wrth benderfynu apêl pan fo Gweinidogion Cymru yn dyroddi tystysgrif o dan adran 191 o Ddeddf 1990 (tystysgrif cyfreithlondeb defnydd neu ddatblygiad presennol)(23) yn unol ag adran 177(1)(c) o’r Ddeddf honno(24), rhaid ad-dalu i’r apelydd y ffi a dalwyd ganddo mewn cysylltiad â chais tybiedig os yw Gweinidogion Cymru yn caniatáu’r apêl yn erbyn yr hysbysiad gorfodi perthnasol ar—

(a)seiliau a nodir yn adran 174(2)(b) i (f) o Ddeddf 1990; neu

(b)y sail fod yr hysbysiad yn annilys, neu ei fod yn cynnwys diffyg, gwall neu gamddisgrifiad na ellir ei gywiro yn unol â phwerau Gweinidogion Cymru o dan adran 176(1) o Ddeddf 1990(25).

(13Rhaid ad-dalu i’r apelydd hanner y ffi a dalwyd gan yr apelydd mewn cysylltiad â chais tybiedig os digwydd i Weinidogion Cymru ganiatáu’r apêl yn erbyn yr hysbysiad gorfodi perthnasol ar y sail a nodir yn adran 174(2)(a) o Ddeddf 1990.

(14Yn achos cais tybiedig—

(a)pan amrywir hysbysiad gorfodi o dan adran 176(1) o Ddeddf 1990 rywfodd ac eithrio er mwyn cymryd i ystyriaeth caniatâd cynllunio a roddir o dan adran 177(1) o Ddeddf 1990; a

(b)pan fyddai’r ffi a gyfrifwyd yn unol â pharagraffau (3) a (4) wedi bod yn swm llai pe bai’r hysbysiad gwreiddiol wedi bod yn nhermau’r hysbysiad amrywiedig,

y ffi sy’n daladwy yw’r swm lleiaf hwnnw, a rhaid ad-dalu unrhyw swm dros ben a dalwyd eisoes.

(15Wrth benderfynu ffi o dan baragraff (14) ni chymerir i ystyriaeth unrhyw newid mewn ffioedd sy’n cael effaith ar ôl gwneud y cais tybiedig.

Ffioedd am geisiadau am dystysgrifau defnydd neu ddatblygiad cyfreithlon

11.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (4), pan wneir cais i awdurdod cynllunio lleol o dan adran 191 neu 192 o Ddeddf 1990, rhaid talu ffi i’r awdurdod hwnnw.

(2Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys pan fodlonir yr awdurdod cynllunio lleol fod y cais yn ymwneud yn unig â chyflawni gweithrediadau a bennir yn rheoliad 4 at y dibenion a bennir yn y rheoliad hwnnw.

(3Yn ddarostyngedig i baragraffau (6) i (9) y ffi sy’n daladwy mewn cysylltiad â chais y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo yw—

(a)yn achos cais o dan adran 191(1)(a) neu (b) (neu o dan y ddau baragraff), y swm a fyddai’n daladwy mewn cysylltiad â chais am ganiatâd cynllunio i sefydlu’r defnydd neu gyflawni’r gweithrediadau a bennir yn y cais (neu gais am wneud y ddau beth, yn ôl y digwydd);

(b)yn achos cais o dan adran 191(1)(c), £190;

(c)yn achos cais o dan adran 192(1)(a) neu (b) (neu o dan y ddau baragraff), hanner y swm a fyddai’n daladwy mewn cysylltiad â chais am ganiatâd cynllunio i sefydlu’r defnydd neu gyflawni’r gweithrediadau a bennir yn y cais (neu gais am wneud y ddau beth, yn ôl y digwydd).

(4Pan fodlonir pob un o’r amodau a nodir ym mharagraff (5), nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys i’r canlynol—

(a)cais o dan adran 191 neu 192 a wneir—

(i)yn dilyn tynnu cais dilys yn ôl (cyn dyroddi hysbysiad o benderfyniad), a wnaed gan neu ar ran yr un ceisydd;

(ii)yn dilyn gwrthod cais dilys (pa un ai gan yr awdurdod cynllunio lleol neu gan Weinidogion Cymru yn dilyn apêl), a wnaed gan neu ar ran yr un ceisydd; neu

(b)cais a wneir yn dilyn apêl a wnaed i Weinidogion Cymru o dan adran 195(1)(b) o Ddeddf 1990(26) mewn perthynas â chais dilys a wnaed gan neu ar ran yr un ceisydd.

(5Yr amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (4) yw’r canlynol—

(a)y gwneir y cais o fewn 12 mis ar ôl—

(i)yn achos cais dilys cynharach a dynnwyd yn ôl, y dyddiad y cafwyd y cais hwnnw;

(ii)yn achos cais a wneir yn dilyn apêl o dan adran 195(1)(b) o Ddeddf 1990, y dyddiad, yn rhinwedd erthygl 28(10) o’r Gorchymyn Gweithdrefn Rheoli Datblygu, pan ddaeth y cyfnod i ben ar gyfer rhoi hysbysiad ysgrifenedig o benderfyniad ar y cais dilys cynharach; neu

(iii)mewn unrhyw achos arall, dyddiad y gwrthodiad;

(b)bod y cais yn ymwneud â’r un safle, neu â rhan o’r un safle, ag yr oedd y cais cynharach yn ymwneud ag ef, ac nad yw’n ymwneud ag unrhyw dir arall;

(c)bod yr awdurdod cynllunio lleol y cyflwynir y cais iddo wedi ei fodloni bod y cais yn ymwneud â defnydd, gweithrediad neu fater arall o’r un disgrifiad â’r defnydd, gweithrediad neu fater yr oedd y cais cynharach yn ymwneud ag ef ac nid ag unrhyw ddefnydd, gweithrediad neu fater arall;

(d)bod y ffi a oedd yn daladwy mewn cysylltiad â’r cais cynharach wedi ei thalu; ac

(e)nad oes cais, a wnaed gan neu ar ran yr un ceisydd, mewn perthynas â’r cyfan neu unrhyw ran o’r safle, eisoes wedi ei esemptio o’r rheoliad hwn gan baragraff (4).

(6Pan fo’r defnydd a bennir mewn cais o dan adran 191(1)(a) yn ddefnydd fel un neu ragor o dai annedd ar wahân, bydd y ffi sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r defnydd hwnnw fel a ganlyn—

(a)os y defnydd a bennir felly yw defnydd fel 50 neu nifer llai o dai annedd, £380 am bob tŷ annedd;

(b)os y defnydd a bennir felly yw defnydd fel mwy na 50 o dai annedd, £19,000 a swm ychwanegol o £100 am bob tŷ annedd dros 50, yn ddarostyngedig i uchafswm o £287,500.

(7Pan wneir cais o dan adran 191(1)(a) neu (b) (neu o dan y ddau baragraff) ac o dan adran 191(1)(c), y ffi sy’n daladwy yw cyfanswm y ffioedd a fyddai wedi bod yn daladwy pe byddid wedi gwneud cais o dan adran 191(1)(a) neu (b) (neu o dan y ddau baragraff, yn ôl y digwydd) a chais ar wahân o dan adran 191(1)(c).

(8Yn achos cais sy’n ymwneud â thir mewn ardaloedd dau neu ragor o awdurdodau cynllunio lleol, mae paragraff 8(2) o Ran 1 o Atodlen 1 yn gymwys at y diben o benderfynu’r swm taladwy fel y mae’n gymwys yn achos cais am ganiatâd cynllunio sy’n ymwneud â thir o’r fath.

(9Pan wneir cais gan neu ar ran cyngor cymuned, y ffi sy’n daladwy yw hanner y swm a fyddai, fel arall, yn daladwy yn unol â pharagraffau (3), (6) a (7).

(10Rhaid i’r ffi sy’n ddyladwy mewn cysylltiad â chais y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo fynd gyda’r cais pan gyflwynir ef i’r awdurdod cynllunio lleol.

(11Os nad yr awdurdod cynllunio lleol sy’n cael y ffi yn unol â’r rheoliad hwn yw’r awdurdod cynllunio lleol sy’n gorfod penderfynu’r cais, rhaid i’r awdurdod sy’n cael y ffi anfon y ffi at yr awdurdod hwnnw yr un pryd ag y bydd yn anfon y cais ymlaen ato.

(12Rhaid ad-dalu unrhyw ffi a dalwyd yn unol â’r rheoliad hwn os gwrthodir y cais fel un annilys.

(13Yn y rheoliad hwn mae i “cais dilys” (“valid application”) yr un ystyr a roddir iddo yn erthygl 28(12) o’r Gorchymyn Gweithdrefn Rheoli Datblygu.

Ffioedd am geisiadau am ganiatâd ar gyfer hysbysebion

12.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (9) ac (11), pan wneir cais i awdurdod cynllunio lleol o dan reoliad 9 o Reoliadau 1992(27) am ganiatâd datganiedig i arddangos hysbyseb, rhaid talu ffi i’r awdurdod hwnnw yn unol â’r rheoliad hwn.

(2Pan fo’r cais yn ymwneud ag arddangos un hysbyseb yn unig, y ffi sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r cais yw’r swm a bennir yn y tabl yn Atodlen 2 ar gyfer y categori priodol.

(3Pan fo’r cais yn ymwneud ag arddangos mwy nag un hysbyseb ar yr un safle, mae ffi sengl yn daladwy mewn cysylltiad â’r holl hysbysebion sydd i’w harddangos ar y safle hwnnw ac a restrir yn y cais, ac—

(a)os yw’r holl hysbysebion o fewn yr un categori, y ffi daladwy yw’r swm a bennir ar gyfer y categori hwnnw;

(b)os yw’r holl hysbysebion o fewn categorïau 1 a 2, y ffi daladwy yw’r swm a bennir ar gyfer categori 1;

(c)os oes un neu ragor o’r hysbysebion o fewn categori 3, y ffi daladwy yw’r swm a bennir ar gyfer categori 3.

(4Pan fo’r cais yn ymwneud ag arddangos hysbysebion ar feteri parcio, biniau sbwriel, meinciau eistedd cyhoeddus neu lochesi bysiau o fewn ardal benodedig, rhaid trin yr ardal gyfan y mae’r cais yn ymwneud â hi fel un safle at ddiben y rheoliad hwn.

(5Pan fo’r cais yn ymwneud ag arddangos hysbysebion ar fwy nag un safle, y ffi sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r cais yw cyfanswm y symiau taladwy mewn cysylltiad ag arddangos hysbysebion ar bob safle o’r fath.

(6Pan wneir y cais gan neu ar ran cyngor cymuned, y ffi sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r cais yw hanner y swm a fyddai, fel arall, yn daladwy o dan y rheoliad hwn.

(7Rhaid i’r ffi sy’n ddyladwy mewn cysylltiad â chais y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo fynd gyda’r cais pan gyflwynir ef i’r awdurdod cynllunio lleol.

(8Os nad yr awdurdod cynllunio lleol sy’n cael y ffi yn unol â’r rheoliad hwn yw’r awdurdod cynllunio lleol sy’n gorfod penderfynu’r cais, rhaid i’r awdurdod sy’n cael y ffi anfon y ffi at yr awdurdod hwnnw yr un pryd ag y bydd yn anfon y cais ymlaen ato.

(9Pan fodlonir pob un o’r amodau a nodir ym mharagraff (10), nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys i’r canlynol—

(a)cais o dan reoliad 9 o Reoliadau 1992 a wneir yn dilyn tynnu’n ôl (cyn dyroddi hysbysiad o benderfyniad) gais dilys a wnaed gan neu ar ran yr un person; neu

(b)cais a wneir o dan y rheoliad hwnnw yn dilyn gwrthod caniatâd (pa un ai gan yr awdurdod cynllunio lleol neu gan Weinidogion Cymru yn dilyn apêl) ar gyfer cais dilys am arddangos hysbysebion, a wnaed gan neu ar ran yr un person.

(10Yr amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (9) yw’r canlynol—

(a)y gwneir y cais o fewn 12 mis ar ôl—

(i)yn achos cais dilys cynharach a dynnwyd yn ôl, y dyddiad y cafwyd y cais hwnnw; neu

(ii)mewn unrhyw achos arall, dyddiad y gwrthodiad;

(b)bod y cais yn ymwneud â’r un safle ag yr oedd y cais cynharach yn ymwneud ag ef, neu â rhan o’r safle hwnnw;

(c)bod yr awdurdod cynllunio lleol y cyflwynir y cais iddo wedi ei fodloni bod y cais yn ymwneud â hysbyseb o’r un disgrifiad â’r hysbyseb yr oedd y cais cynharach yn ymwneud ag ef;

(d)bod y ffi a oedd yn daladwy mewn cysylltiad â’r cais cynharach wedi ei thalu; ac

(e)nad oes cais blaenorol wedi ei wneud ar unrhyw adeg, gan neu ar ran yr un ceisydd, a oedd yn ymwneud ag—

(i)yr un safle â’r un yr oedd y cais cynharach yn ymwneud ag ef, neu ran o’r safle hwnnw; a

(ii)hysbyseb o’r un disgrifiad â’r hysbyseb (neu unrhyw un o’r hysbysebion) yr oedd y cais cynharach yn ymwneud â hwy,

ac a esemptiwyd o ddarpariaethau’r rheoliad hwn gan baragraff (9).

(11Nid oes ffi yn daladwy o dan y rheoliad hwn mewn cysylltiad â chais am ganiatâd i arddangos hysbyseb os ysgogir y cais gan gyfarwyddyd o dan reoliad 7 o Reoliadau 1992 (cyfarwyddiadau sy’n cyfyngu ar ganiatâd tybiedig) sy’n datgymhwyso rheoliad 6 o’r Rheoliadau hynny (caniatâd tybiedig ar gyfer arddangos hysbysebion)(28) mewn perthynas â’r hysbyseb (neu unrhyw un o’r hysbysebion) dan sylw.

(12Rhaid ad-dalu unrhyw ffi a dalwyd yn unol â’r rheoliad hwn os gwrthodir y cais perthnasol fel un annilys.

Ffioedd am geisiadau penodol o dan y Gorchymyn Datblygu Cyffredinol a Ganiateir

13.—(1Pan wneir cais i awdurdod cynllunio lleol am iddo benderfynu a fydd cymeradwyaeth ymlaen llaw gan yr awdurdod yn ofynnol mewn perthynas â datblygiad o dan Atodlen 2 i’r Gorchymyn Datblygu Cyffredinol a Ganiateir, rhaid talu ffi i’r awdurdod, mewn symiau fel a ganlyn—

(a)ar gyfer cais o dan Rannau 6 (adeiladau a gweithrediadau amaethyddol)(29), 7 (adeiladau a gweithrediadau coedwigaeth)(30) neu 31 (dymchwel adeiladau)(31) o’r Atodlen honno, £80; a

(b)ar gyfer cais o dan Ran 24 o’r Atodlen honno (datblygu gan weithredwyr cod cyfathrebiadau electronig)(32), £380.

(2Os nad yr awdurdod cynllunio lleol sy’n cael y ffi yn unol â’r rheoliad hwn yw’r awdurdod cynllunio lleol sy’n gorfod penderfynu’r cais, rhaid i’r awdurdod sy’n cael y ffi anfon y ffi at yr awdurdod hwnnw yr un pryd ag y bydd yn anfon y cais ymlaen ato.

(3Rhaid ad-dalu unrhyw ffi a dalwyd yn unol â’r rheoliad hwn os gwrthodir y cais fel un annilys.

Ffioedd mewn cysylltiad â monitro safleoedd mwyngloddio a thirlenwi

14.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), pan wneir ymweliad safle, rhaid i weithredwr y safle dalu i’r awdurdod cynllunio lleol ffi sydd â’i swm fel a bennir ym mharagraffau (4) neu (5).

(2Y nifer mwyaf o ymweliadau safle ag unrhyw un safle o’r fath, y codir ffi amdanynt o dan y rheoliad hwn, yn ystod unrhyw gyfnod o 12 mis sy’n dechrau gyda dyddiad yr ymweliad cyntaf yn ystod y cyfnod hwnnw, yw’r canlynol—

(a)pan fo’r safle yn safle gweithredol, wyth; neu

(b)pan fo’r safle yn safle anweithredol, un.

(3Os—

(a)y person sy’n atebol i dalu’r ffi mewn cysylltiad ag ymweliad safle yw perchennog y safle; a

(b)bod mwy nag un perchennog,

rhaid rhannu swm y ffi yn gyfartal â chyfanswm nifer y perchnogion, ac mae pob perchennog yn atebol i dalu un rhan o’r swm a rannwyd felly.

(4Pan fo’r cyfan neu ran o’r safle yn safle gweithredol, y ffi sy’n daladwy yw £330.

(5Pan fo’r safle yn safle anweithredol, y ffi sy’n daladwy yw £110.

(6Yn y rheoliad hwn—

ystyr “gweithredwr” (“operator”) yw—

(a)

y person sy’n—

(i)

cyflawni gweithrediadau ar y tir sy’n cynnwys cloddio a gweithio mwynau;

(ii)

defnyddio’r tir ar gyfer gollwng gwastraff mwynau;

(iii)

cyflawni gweithrediadau ar y tir at ddibenion safle gwaredu gwastraff, neu ddefnyddio’r tir fel safle o’r fath, ar gyfer gollwng gwastraff ar y tir neu i mewn ynddo; neu

(iv)

cyflawni gweithiau eraill ar y tir y mae amod neu gyfyngiad a osodwyd ar ganiatâd mwynau neu ganiatâd tirlenwi yn ymwneud â hwy;

(b)

pan fo mwy nag un person yn cyflawni’r gweithrediadau, y gweithiau neu’n defnyddio’r tir yn y modd a ddisgrifir yn is-baragraff (a), y person sydd â rheolaeth gyffredinol ar y safle; neu

(c)

pan nad oes unrhyw berson sy’n dod o fewn y disgrifiadau yn is-baragraff (a) neu (b), perchennog y safle;

ystyr “perchennog” (“owner”) yw—

(a)

y person sydd â hawl i denantiaeth o’r safle a roddwyd neu a estynnwyd am dymor sicr o flynyddoedd nad oes llai na saith mlynedd ohono’n weddill, ond nid yw’n cynnwys is-brydlesai; neu

(b)

pan nad oes unrhyw berson sy’n dod o fewn y disgrifiad yn is-baragraff (a), perchennog y safle mewn ffi syml;

ystyr “safle anweithredol” (“inactive site”) yw safle mwyngloddio neu safle tirlenwi, neu safle sy’n rhannol yn safle mwyngloddio a rhannol yn safle tirlenwi, nad yw’n safle gweithredol; ac

ystyr “safle gweithredol” (“active site”) yw’r cyfan neu ran o safle mwyngloddio neu safle tirlenwi, neu safle sy’n rhannol yn safle mwyngloddio a rhannol yn safle tirlenwi, lle—

(a)

y cyflawnir datblygiad y mae’r caniatâd mwynau neu ganiatâd tirlenwi perthnasol yn ymwneud ag ef, ar unrhyw raddfa sylweddol, ar y safle neu (yn ôl y digwydd) ar y rhan honno o’r safle; neu

(b)

y cyflawnir gweithiau eraill y mae amod a osodwyd ar ganiatâd o’r fath yn ymwneud â hwy, ar unrhyw raddfa sylweddol, ar y safle neu (yn ôl y digwydd) ar y rhan honno o’r safle.

Ffioedd am geisiadau a wneir o dan amod cynllunio

15.—(1Pan fo cais wedi ei wneud i awdurdod cynllunio lleol o dan erthygl 23 o’r Gorchymyn Gweithdrefn Rheoli Datblygu, rhaid talu ffi i’r awdurdod hwnnw fel a ganlyn—

(a)pan fo’r cais yn ymwneud â chaniatâd ar gyfer datblygiad sy’n dod o fewn categori 6 neu 7 a bennir yn y tabl a nodir yn Rhan 2 o Atodlen 1, £30 am bob cais;

(b)mewn unrhyw achos arall, £95 am bob cais.

(2Rhaid ad-dalu unrhyw ffi a dalwyd o dan y rheoliad hwn os yw’r awdurdod cynllunio lleol yn methu â phenderfynu’r cais o fewn cyfnod o 8 wythnos ar ôl diwedd y cyfnod ar gyfer rhoi hysbysiad o benderfyniad, a bennir yn erthygl 23 o’r Gorchymyn Gweithdrefn Rheoli Datblygu.

(3Nid yw paragraff (2) yn gymwys pan ddigwydd un o’r canlynol cyn diwedd y cyfnod a grybwyllir ym mharagraff (2)—

(a)bod Gweinidogion Cymru yn rhoi cyfarwyddyd o dan adran 77 o Ddeddf 1990 mewn perthynas â’r cais;

(b)bod y ceisydd yn apelio at Weinidogion Cymru o dan adran 78(2) o Ddeddf 1990; neu

(c)bod unrhyw berson a dramgwyddir gan unrhyw benderfyniad gan yr awdurdod cynllunio lleol mewn perthynas â’r cais yn gwneud cais i’r Uchel Lys.

Ffioedd am geisiadau am newidiadau ansylweddol i ganiatâd cynllunio

16.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (3), pan wneir cais o dan adran 96A(4) o Ddeddf 1990 rhaid talu’r ffi ganlynol i’r awdurdod cynllunio lleol—

(a)os yw’r cais yn gais deiliad tŷ, £30;

(b)ym mhob achos arall, £95.

(2Os nad yr awdurdod cynllunio lleol sy’n cael y ffi yn unol â’r rheoliad hwn yw’r awdurdod cynllunio lleol sy’n gorfod penderfynu’r cais, rhaid i’r awdurdod sy’n cael y ffi anfon y ffi at yr awdurdod hwnnw yr un pryd ag y bydd yn anfon y cais ymlaen ato.

(3Nid yw paragraff (1) yn gymwys yn yr amgylchiadau a nodir yn rheoliadau 4 a 5.

(4Rhaid ad-dalu unrhyw ffi a delir yn unol â’r rheoliad hwn os gwrthodir y cais ar y sail ei fod yn annilys.

(5Yn y rheoliad hwn, ystyr “cais deiliad tŷ” (“householder application”) yw cais i wneud newid mewn caniatâd cynllunio sy’n ymwneud ag—

(a)datblygu tŷ annedd presennol, neu

(b)datblygiad o fewn cwrtil tŷ annedd o’r fath,

at unrhyw ddiben sy’n gysylltiedig â mwynhau’r tŷ annedd, ond nid yw’n cynnwys cais am newid defnydd na chais am newid nifer yr anheddau mewn adeilad.

Dirymu, darpariaethau trosiannol ac arbedion

17.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), mae’r Rheoliadau a bennir yn y tabl yn Atodlen 3 wedi eu dirymu i’r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru.

(2Rhaid dehongli cyfeiriad yn rheoliadau 8(2)(f), 11(5)(e) neu 12(10)(e) at y ffi am gais a esemptir o dan ddarpariaeth benodol o’r Rheoliadau hyn fel pe bai’n cynnwys cyfeiriad at esemptio’r cais rhag talu ffi o dan (yn ôl y digwydd) reoliad 8, 10A(3) ac 11(9) o Reoliadau 1989.

(3Mae darpariaethau perthnasol Rheoliadau 1989 yn parhau i gael effaith mewn perthynas ag unrhyw gais am ganiatâd cynllunio y tybir iddo gael ei wneud yn rhinwedd adran 177(5) o Ddeddf 1990 mewn cysylltiad â hysbysiad gorfodi a ddyroddwyd cyn y dyddiad y daeth y Rheoliadau hyn i rym.

Carl Sargeant

Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru

6 Gorffennaf 2015

Rheoliadau 3, 9, 10, 11(8) a 15(1)

ATODLEN 1Ffioedd mewn Cysylltiad â Cheisiadau a Cheisiadau Tybiedig am Ganiatâd Cynllunio neu am Gymeradwyaeth ar gyfer Materion a Gadwyd yn ôl

RHAN 1Ffioedd sy’n Daladwy o dan Reoliad 3 neu Reoliad 10

Cyffredinol

1.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau 2 i 9 o’r Rhan hon, cyfrifir y ffi sy’n daladwy o dan reoliad 3 neu reoliad 10 yn unol â’r tabl a nodir yn Rhan 2 a pharagraffau 10 i 13.

(2Yn y Rhan hon, mae cyfeiriad at gategori yn gyfeiriad at gategori o ddatblygiad a bennir yn y tabl a nodir yn Rhan 2; a chyfeiriad at gategori â rhif yn gyfeiriad at y categori o ddatblygiad a rifwyd felly yn y tabl, ac ystyr “categori o ddatblygiad” (“category of development”) yw—

(a)yn achos cais am ganiatâd cynllunio, y categori o ddatblygiad y ceisir caniatâd mewn cysylltiad ag ef; a

(b)yn achos cais am gymeradwyaeth ar gyfer materion a gadwyd yn ôl, y categori o ddatblygiad a ganiateir gan y caniatâd cynllunio amlinellol perthnasol.

(3Yn achos cais tybiedig(33) yn yr Atodlen hon—

(a)rhaid dehongli cyfeiriadau at y datblygiad y mae cais yn ymwneud ag ef fel cyfeiriadau at y defnydd o dir neu’r gweithrediadau (yn ôl y digwydd) y mae’r hysbysiad gorfodi perthnasol yn ymwneud â hwy;

(b)rhaid dehongli cyfeiriadau at faint arwynebedd llawr neu nifer y tai annedd a grëir gan y datblygiad fel cyfeiriadau at y maint arwynebedd llawr neu’r nifer tai annedd y mae’r hysbysiad gorfodi hwnnw yn ymwneud â hwy; ac

(c)rhaid dehongli cyfeiriadau at y dibenion y bwriedir defnyddio arwynebedd llawr ar eu cyfer fel cyfeiriadau at y dibenion y datganwyd bod yr arwynebedd llawr i’w ddefnyddio ar eu cyfer yn yr hysbysiad gorfodi.

Ffioedd mewn achosion penodol

2.  Pan fo cais neu gais tybiedig wedi ei wneud neu y tybir iddo gael ei wneud, gan neu ar ran cyngor cymuned, y ffi sy’n daladwy yw hanner y swm a fyddai, fel arall, yn daladwy.

3.—(1Pan fo cais neu gais tybiedig wedi ei wneud neu y tybir iddo gael ei wneud, gan neu ar ran clwb, cymdeithas neu gorff arall (gan gynnwys unrhyw bersonau sy’n gweinyddu ymddiriedolaeth), nas sefydlwyd ac nac yw’n cael ei gynnal er mwyn gwneud elw, ac amcanion y clwb, y gymdeithas neu’r corff hwnnw yw darparu cyfleusterau ar gyfer chwaraeon neu hamdden, a’r amodau a bennir yn is-baragraff (2) wedi eu bodloni, y ffi daladwy yw £385.

(2Yr amodau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1) yw—

(a)bod y cais neu’r cais tybiedig yn ymwneud ag—

(i)gwneud newid sylweddol yn y defnydd o dir i’w ddefnyddio fel maes chwarae; neu

(ii)cyflawni gweithrediadau (ac eithrio codi adeilad sy’n cynnwys arwynebedd llawr) at ddibenion sy’n atodol i’r defnydd o dir fel maes chwarae,

ac nid ag unrhyw ddatblygiad arall; a

(b)y bodlonwyd yr awdurdod cynllunio lleol y cyflwynwyd y cais iddo, neu (yn achos cais tybiedig) y bodlonwyd Gweinidogion Cymru, fod y datblygiad i’w gyflawni ar dir a feddiennir, neu y bwriedir ei feddiannu gan y clwb, y gymdeithas neu’r corff a’i ddefnyddio’n gyfan gwbl neu’n bennaf ar gyfer cyflawni ei amcanion.

4.—(1Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)pan fo cais wedi ei wneud am gymeradwyaeth ar gyfer un neu ragor o faterion a gadwyd yn ôl (“y cais cyfredol”); a

(b)pan fo’r ceisydd wedi gwneud cais blaenorol am gymeradwyaeth o’r fath o dan yr un caniatâd cynllunio amlinellol ac wedi talu ffioedd mewn perthynas ag un neu ragor o geisiadau o’r fath; ac

(c)pan nad oes cais wedi ei wneud o dan y caniatâd hwnnw ac eithrio gan neu ar ran y ceisydd.

(2Pan fo’r swm a dalwyd fel y crybwyllir yn is-baragraff (1)(b) yn ddim llai na’r swm a fyddai’n daladwy pe bai’r ceisydd, drwy’r cais cyfredol, yn ceisio cael cymeradwyaeth ar gyfer yr holl faterion a gadwyd yn ôl gan y caniatâd amlinellol (ac mewn perthynas â’r holl ddatblygiad a awdurdodwyd gan y caniatâd), y ffi daladwy mewn cysylltiad â’r cais cyfredol yw £385.

(3Os—

(a)oedd ffi wedi ei thalu fel y crybwyllir yn is-baragraff (1)(b) ar gyfradd is na’r gyfradd sydd mewn bodolaeth ar ddyddiad y cais cyfredol; a

(b)byddai is-baragraff (2) yn gymwys pe bai’r ffi honno wedi ei thalu ar y gyfradd sydd yn gymwys ar y dyddiad hwnnw,

y ffi mewn cysylltiad â’r cais cyfredol yw £385.

5.  Pan wneir cais yn unol ag adran 73 o Ddeddf 1990 (penderfynu ceisiadau i ddatblygu tir heb gydymffurfio ag amodau a osodwyd yn flaenorol)(34) y ffi daladwy yw £190.

6.  Pan fo cais yn ymwneud â datblygiad y mae adran 73A o Ddeddf 1990 (caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad a gyflawnwyd eisoes)(35) yn gymwys iddo, y ffi daladwy yw—

(a)pan fo’r cais yn ymwneud â datblygiad a gyflawnwyd heb ganiatâd cynllunio, y ffi a fyddai’n daladwy pe bai’r cais yn gais am ganiatâd cynllunio i gyflawni’r datblygiad hwnnw;

(b)mewn unrhyw achos arall, £190.

7.  Pan wneir cais am ganiatâd cynllunio ac—

(a)bod caniatâd cynllunio wedi ei roi yn flaenorol ar gyfer datblygiad nad yw eto wedi ei gychwyn; a

(b)bod terfyn amser erbyn pryd y mae’n rhaid cychwyn y datblygiad wedi ei osod gan neu o dan adran 91(36) neu adran 92 o Ddeddf 1990 (amod cyffredinol yn cyfyngu ar barhad caniatâd cynllunio a chaniatâd cynllunio amlinellol) a’r amser hwnnw heb ddod i ben,

y ffi daladwy yw £190.

8.—(1Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo—

(a)ceisydd yn gwneud cais am ganiatâd cynllunio neu am gymeradwyaeth ar gyfer materion a gadwyd yn ôl mewn cysylltiad â datblygu tir (“y tir perthnasol”); a

(b)y tir perthnasol yn pontio’r ffin neu’r ffiniau rhwng ardaloedd dau neu ragor o awdurdodau cynllunio lleol, ac felly, yn hytrach na gwneud cais i un awdurdod mewn perthynas â’r cyfan o’r datblygiad hwnnw, y gwneir ceisiadau i ddau neu ragor o awdurdodau cynllunio lleol.

(2Y ffi sy’n daladwy i bob awdurdod cynllunio lleol unigol y gwneir cais iddo yw’r swm taladwy mewn cysylltiad â’r cais sydd i’w benderfynu gan yr awdurdod cynllunio lleol hwnnw.

9.—(1Pan wneir—

(a)cais am ganiatâd cynllunio mewn cysylltiad â dau neu ragor o gynigion amgen ar gyfer datblygu yr un tir; neu

(b)cais am gymeradwyaeth ar gyfer materion a gadwyd yn ôl mewn cysylltiad â dau neu ragor o gynigion amgen ar gyfer cyflawni’r datblygiad a awdurdodwyd gan ganiatâd cynllunio amlinellol,

a gwneir y cais mewn cysylltiad â’r holl gynigion amgen ar yr un dyddiad a chan neu ar ran yr un ceisydd, cyfrifir y ffi daladwy mewn cysylltiad â’r cais hwnnw yn unol ag is-baragraff (2).

(2Rhaid gwneud cyfrifiadau yn unol â’r Atodlen hon o’r ffi a fyddai’n daladwy mewn cysylltiad â chais am ganiatâd cynllunio, neu gymeradwyaeth ar gyfer materion a gadwyd yn ôl (yn ôl y digwydd), fel pe bai cais wedi ei wneud mewn cysylltiad â phob un o’r cynigion amgen, a’r ffi daladwy mewn cysylltiad â’r cais a wnaed yw cyfanswm y canlynol—

(a)swm sy’n hafal i’r swm uwch neu uchaf o’r symiau a gyfrifwyd mewn cysylltiad â phob un o’r cynigion amgen; a

(b)swm a gyfrifir drwy adio’r symiau at ei gilydd sy’n briodol i bob un o’r cynigion amgen ac eithrio’r swm y cyfeirir ato ym mharagraff (a), a rhannu’r cyfanswm hwnnw gyda 2.

Darpariaethau mewn perthynas â chategorïau penodedig

10.—(1Pan fo’r ffi, mewn cysylltiad ag unrhyw gategori, i gael ei chyfrifo drwy gyfeirio at arwynebedd y safle, rhaid ystyried bod yr arwynebedd hwnnw’n cynnwys—

(a)arwynebedd y tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef; neu

(b)yn achos cais tybiedig, arwynebedd y tir y mae’r hysbysiad gorfodi perthnasol yn ymwneud ag ef.

(2Pan nad yw’r arwynebedd y cyfeirir ato yn is-baragraff (1) yn lluosrif union o’r uned fesur a bennir mewn cysylltiad â’r categori datblygiad perthnasol, rhaid trin y ffracsiwn o uned sy’n weddill ar ôl rhannu cyfanswm yr arwynebedd gyda’r uned fesur fel pe bai’n uned gyflawn.

11.—(1Mewn perthynas â datblygiad o fewn categorïau 2, 3 neu 4, rhaid canfod yr arwynebedd llawr gros a grëir gan y datblygiad drwy fesur yr arwynebedd llawr yn allanol, pa un a fwriedir iddo gael ei ffinio (yn gyfan gwbl neu’n rhannol) gan waliau allanol adeilad ai peidio.

(2Mewn perthynas â datblygiad o fewn categori 2, pan fo’r arwynebedd llawr gros sydd i’w greu gan y datblygiad yn fwy na 75 metr sgwâr ac nad yw’n lluosrif union o 75 metr sgwâr, rhaid trin yr arwynebedd sy’n weddill, ar ôl rhannu nifer cyfanswm y metrau sgwâr o arwynebedd llawr gros gyda’r ffigur 75, fel pe bai’n 75 metr sgwâr.

12.—(1Pan fo cais (ac eithrio cais am ganiatâd cynllunio amlinellol) neu gais tybiedig yn ymwneud â datblygiad sy’n rhannol o fewn categori 1 ac yn rhannol o fewn categori 2, 3 neu 4, mae’r is-baragraffau sy’n dilyn yn gymwys at y diben o gyfrifo’r ffi sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r cais neu’r cais tybiedig.

(2Rhaid gwneud asesiad o gyfanswm maint yr arwynebedd llawr gros sydd i’w greu gan y rhan honno o’r datblygiad sydd o fewn categori 2, 3 neu 4 (“yr arwynebedd llawr amhreswyl”), a rhaid adio’r swm taladwy mewn cysylltiad â’r arwynebedd llawr amhreswyl sydd i’w greu gan y datblygiad at y swm taladwy mewn cysylltiad â’r rhan honno o’r datblygiad sydd o fewn categori 1, ac, yn ddarostyngedig i is-baragraff (4), y swm a gyfrifir felly yw’r ffi daladwy.

(3At y diben o gyfrifo’r ffi daladwy o dan is-baragraff (2)—

(a)pan fo unrhyw rai o’r adeiladau i gynnwys arwynebedd llawr y bwriedir ei ddefnyddio at y diben o ddarparu mynedfa gyffredin neu wasanaethau neu gyfleusterau cyffredin ar gyfer personau sy’n meddiannu neu’n defnyddio rhan o’r adeilad hwnnw at ddibenion preswyl ac ar gyfer personau sy’n meddiannu neu’n defnyddio rhan ohono at ddibenion amhreswyl (“arwynebedd llawr cyffredin”), rhaid asesu maint yr arwynebedd llawr amhreswyl, mewn perthynas â’r adeilad hwnnw, drwy gynnwys yr un gyfran o’r arwynebedd llawr cyffredin ag y mae maint yr arwynebedd llawr amhreswyl yn yr adeilad yn ei ffurfio o gyfanswm yr arwynebedd llawr gros yn yr adeilad sydd i’w greu gan y datblygiad;

(b)pan fo’r datblygiad yn dod o fewn mwy nag un o’r categorïau 2, 3 a 4, rhaid cyfrifo swm yn unol â phob categori o’r fath, a’r swm uchaf a gyfrifir felly yw’r swm taladwy mewn cysylltiad â’r holl arwynebedd llawr amhreswyl.

(4Pan fo cais neu gais tybiedig y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo yn ymwneud â datblygiad sydd hefyd o fewn un neu ragor o’r categorïau 5 i 12—

(a)cyfrifir swm yn unol â phob categori o’r fath; a

(b)os oes unrhyw symiau a gyfrifir felly yn fwy na’r swm a gyfrifir yn unol ag is-baragraff (2), y swm uwch hwnnw yw’r ffi sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r cyfan o’r datblygiad y mae’r cais neu’r cais tybiedig yn ymwneud ag ef.

(5Yn is-baragraff (3), mae’r cyfeiriad at ddefnyddio’r adeilad at ddibenion preswyl yn gyfeiriad at ei ddefnyddio fel tŷ annedd.

13.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff 12 ac is-baragraff (2), pan fo cais neu gais tybiedig yn ymwneud ag adeilad sydd o fewn mwy nag un o’r categorïau—

(a)cyfrifir swm yn unol â phob categori unigol o’r fath; a

(b)y swm uchaf a gyfrifir felly yw’r ffi daladwy mewn cysylltiad â’r cais neu’r cais tybiedig.

(2Pan fo cais yn gais am ganiatâd cynllunio amlinellol ac yn ymwneud â datblygiad sydd o fewn mwy nag un o’r categorïau, y ffi daladwy yw—

(a)pan nad yw arwynebedd y safle’n fwy na 2.5 hectar, £380 am bob 0.1 hectar o arwynebedd y safle;

(b)pan fo arwynebedd y safle’n fwy na 2.5 hectar, £9,500 a £100 ychwanegol am bob 0.1 hectar dros 2.5 hectar, yn ddarostyngedig i’r cyfanswm uchaf o £143,750.

RHAN 2Graddfa Ffioedd mewn Cysylltiad â Cheisiadau a Wnaed neu y Tybir iddynt gael eu Gwneud

Categori’r datblygiadFfi daladwy
I Gweithrediadau
1 Codi tai annedd (ac eithrio datblygiad o fewn categori 6 isod)

(a) Pan fo’r cais yn gais am ganiatâd cynllunio amlinellol ac—

(i) nad yw arwynebedd y safle yn fwy na 2.5 hectar, £380 am bob 0.1 hectar o arwynebedd y safle,

(ii) bod arwynebedd y safle yn fwy na 2.5 hectar, £9,500 a £100 ychwanegol am bob 0.1 hectar dros 2.5 hectar, yn ddarostyngedig i’r cyfanswm uchaf o £143,750;

(b) mewn achosion eraill—

(i) pan fo nifer y tai annedd sydd i’w creu gan y datblygiad yn 50 neu’n llai, £380 am bob tŷ annedd,

(ii) pan fo nifer y tai annedd sydd i’w creu gan y datblygiad yn fwy na 50, £19,000 a £100 ychwanegol am bob tŷ annedd dros 50 o dai annedd, yn ddarostyngedig i’r cyfanswm uchaf o £287,500.

2 Codi adeiladau (ac eithrio adeiladau yng nghategorïau 1, 3, 4, 5 neu 7).

(a) Pan fo’r cais yn gais am ganiatâd cynllunio amlinellol ac—

(i) nad yw arwynebedd y safle yn fwy na 2.5 hectar, £380 am bob 0.1 hectar o arwynebedd y safle,

(ii) bod arwynebedd y safle yn fwy na 2.5 hectar, £9,500 a £100 ychwanegol am bob 0.1 hectar dros 2.5 hectar, yn ddarostyngedig i’r cyfanswm uchaf o £143,750;

(b) mewn achosion eraill—

(i) pan nad oes arwynebedd llawr i gael ei greu gan y datblygiad, neu pan nad yw’r arwynebedd llawr gros sydd i’w greu gan y datblygiad yn fwy na 40 metr sgwâr, £190,

(ii) pan fo’r arwynebedd llawr gros sydd i’w greu gan y datblygiad yn fwy na 40 metr sgwâr ond nid yn fwy na 75 metr sgwâr, £380,

(iii) pan fo’r arwynebedd llawr gros sydd i’w greu gan y datblygiad yn fwy na 75 metr sgwâr, £380 am bob 75 metr sgwâr (neu ran o hynny), yn ddarostyngedig i’r cyfanswm uchaf o £287,500.

3 Codi, ar dir a ddefnyddir at ddibenion amaethyddiaeth, adeiladau i’w defnyddio at ddibenion amaethyddol (ac eithrio adeiladau yng nghategori 4).

(a) Pan fo’r cais yn gais am ganiatâd cynllunio amlinellol ac—

(i) nad yw arwynebedd y safle yn fwy na 2.5 hectar, £380 am bob 0.1 hectar o arwynebedd y safle,

(ii) bod arwynebedd y safle yn fwy na 2.5 hectar, £9,500 a £100 ychwanegol am bob 0.1 hectar dros 2.5 hectar, yn ddarostyngedig i’r cyfanswm uchaf o £143,750;

(b) mewn achosion eraill—

(i) pan nad oes arwynebedd llawr i gael ei greu gan y datblygiad, neu pan nad yw’r arwynebedd llawr gros sydd i’w greu gan y datblygiad yn fwy na 465 metr sgwâr, £70,

(ii) pan fo’r arwynebedd llawr gros sydd i’w greu gan y datblygiad yn fwy na 465 metr sgwâr ond nid yn fwy na 540 metr sgwâr, £380,

(iii) pan fo’r arwynebedd llawr gros sydd i’w greu gan y datblygiad yn fwy na 540 metr sgwâr, £380 a £380 ychwanegol am bob 75 metr sgwâr (neu ran o hynny) dros 540 metr sgwâr, yn ddarostyngedig i’r cyfanswm uchaf o £287,500.

4 Codi tai gwydr ar dir a ddefnyddir at ddibenion amaethyddiaeth.(a) Pan nad yw’r arwynebedd llawr gros sydd i’w greu gan y datblygiad yn fwy na 465 metr sgwâr, £70;
(b) pan fo’r arwynebedd llawr gros sydd i’w greu gan y datblygiad yn fwy na 465 metr sgwâr, £2,150.
5 Codi, addasu neu amnewid peiriannau neu beirianwaith.(a) Pan nad yw arwynebedd y safle yn fwy na 5 hectar, £385 am bob 0.1 hectar o arwynebedd y safle;
(b) pan fo arwynebedd y safle yn fwy na 5 hectar, £19,000 a £100 ychwanegol am bob 0.1 hectar dros 5 hectar, yn ddarostyngedig i’r cyfanswm uchaf o £287,500.
6 Ehangu neu wella tai annedd presennol, neu eu haddasu rywfodd arall(a) Pan fo’r cais yn ymwneud ag un tŷ annedd, £190;
(b) pan fo’r cais yn ymwneud â 2 neu ragor o dai annedd, £380.

7

(a) cyflawni gweithrediadau (gan gynnwys codi adeilad) o fewn cwrtil tŷ annedd presennol, at ddibenion sy’n atodol i fwynhad o’r tŷ annedd fel y cyfryw, neu godi neu adeiladu llidiardau, ffensys, waliau neu ddulliau cau eraill ar hyd ffin cwrtil tŷ annedd presennol; neu

(b) adeiladu meysydd parcio, ffyrdd gwasanaethu a mynedfeydd eraill ar dir a ddefnyddir at ddibenion menter sengl, pan fo angen y datblygiad at ddiben sy’n gysylltiedig â’r defnydd o dir presennol.

£190 ym mhob achos
8 Cyflawni unrhyw weithrediadau sy’n gysylltiedig â drilio wrth chwilio am olew neu nwy naturiol.(a) Pan nad yw arwynebedd y safle yn fwy na 7.5 hectar, £380 am bob 0.1 hectar o arwynebedd y safle;
(b) pan fo arwynebedd y safle yn fwy na 7.5 hectar, £28,500 a £100 ychwanegol am bob 0.1 hectar dros 7.5 hectar, yn ddarostyngedig i’r cyfanswm uchaf o £287,500.
9 Cyflawni unrhyw weithrediadau nad ydynt yn dod o fewn unrhyw un o’r categorïau uchod.

(a) Yn achos gweithrediadau ar gyfer cloddio a gweithio mwynau—

(i) pan nad yw arwynebedd y safle yn fwy na 15 hectar, £190 am bob 0.1 hectar o arwynebedd y safle,

(ii) pan fo arwynebedd y safle yn fwy na 15 hectar, £28,500 a £100 ychwanegol am bob 0.1 hectar dros 15 hectar, yn ddarostyngedig i’r cyfanswm uchaf o £74,800;

(b) mewn unrhyw achos arall, £190 am bob 0.1 hectar o arwynebedd y safle, yn ddarostyngedig i uchafswm o £287,500.
II Defnydd o dir
10 Newid y defnydd o adeilad i ddefnydd fel un neu ragor o dai annedd ar wahân

(a) Pan fo’r newid defnydd yn newid o ddefnydd blaenorol fel un tŷ annedd i ddefnydd fel dau neu ragor o dai annedd sengl—

(i) pan fo’r newid defnydd yn newid i ddefnydd fel 50 neu lai o dai annedd, £380 am bob tŷ annedd ychwanegol,

(ii) pan fo’r newid defnydd yn newid i ddefnydd fel mwy na 50 o dai annedd, £19,000 a £100 ychwanegol am bob tŷ annedd dros 50 o dai annedd, yn ddarostyngedig i’r cyfanswm uchaf o £287,500;

(b) ym mhob achos arall—

(i) pan fo’r newid defnydd yn newid i ddefnydd fel 50 neu lai o dai annedd, £380 am bob tŷ annedd,

(ii) pan fo’r newid defnydd yn newid i ddefnydd fel mwy na 50 o dai annedd, £19,000 a £100 ychwanegol am bob tŷ annedd dros 50 o dai annedd, yn ddarostyngedig i’r cyfanswm uchaf o £287,500.

11 Defnydd o dir ar gyfer gwaredu sbwriel neu ddeunyddiau gwastraff neu ar gyfer gollwng deunydd sy’n weddill ar ôl echdynnu mwynau o dir, neu ar gyfer storio mwynau mewn man agored.(a) Pan nad yw arwynebedd y safle yn fwy na 15 hectar, £190 am bob 0.1 hectar o arwynebedd y safle;
(b) pan fo arwynebedd y safle yn fwy na 15 hectar, £28,500 a £100 ychwanegol am bob 0.1 hectar dros 15 hectar, yn ddarostyngedig i’r cyfanswm uchaf o £74,800.
12 Gwneud newid sylweddol yn y defnydd o adeilad neu dir (ac eithrio newid defnydd sylweddol sy’n dod o fewn unrhyw un o’r categorïau uchod).£380.

Rheoliad 12

ATODLEN 2Ffioedd am Hysbysebion Graddfa Ffioedd mewn Cysylltiad â Cheisiadau am Ganiatâd i Arddangos Hysbysebion

Categori’r datblygiadFfi daladwy

1 Hysbysebion a arddangosir ar fangre busnes, ar flaengwrt mangre busnes neu ar dir arall o fewn cwrtil mangre busnes, sydd, yn gyfan gwbl, yn cyfeirio at bob un neu unrhyw rai o’r materion canlynol—

(a) natur y busnes neu’r gweithgaredd arall a gynhelir yn y fangre;

(b) y nwyddau a werthir neu’r gwasanaethau a ddarperir yn y fangre; neu

(c) enw a chymwysterau’r person sy’n cynnal y cyfryw fusnes neu weithgaredd neu’n cyflenwi’r cyfryw nwyddau neu wasanaethau.

£100.
2 Hysbysebion at y diben o gyfeirio aelodau o’r cyhoedd at fangre busnes, neu dynnu sylw rywfodd arall at fodolaeth mangre busnes, sydd yng nghyffiniau’r safle yr arddangosir yr hysbyseb arno, ond nid yn weladwy o’r safle hwnnw.£100.
3 Pob hysbyseb arall.£380.

Rheoliad 17(1)

ATODLEN 3Offerynnau Statudol a Ddirymir i’r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru

Enw’r offerynCyfeirnod
Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau a Cheisiadau Tybiedig) 19891989/193
Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau a Cheisiadau Tybiedig) (Diwygio) 19901990/2473
Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau a Cheisiadau Tybiedig) (Diwygio) 19911991/2735
Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau a Cheisiadau Tybiedig) (Diwygio) 19921992/1817
Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau a Cheisiadau Tybiedig) (Diwygio) (Rhif 2) 19901992/3052
Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau a Cheisiadau Tybiedig) (Diwygio) 19931993/3170
Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau a Cheisiadau Tybiedig) (Diwygio) 19971997/37
Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd ar gyfer Ceisiadau a Cheisiadau Tybiedig) (Diwygio) (Cymru) 20022002/1876 (Cy. 185)
Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau a Cheisiadau Tybiedig) (Diwygio Rhif 2) (Cymru) 20062006/1052 (Cy. 108)
Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau a Cheisiadau Tybiedig) (Diwygio) (Cymru) 20092009/851 (Cy. 76)
Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Newidiadau Ansylweddol) (Cymru) 20142014/1761 (Cy. 176)

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn cydgrynhoi, gyda newidiadau, ddarpariaethau Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau a Cheisiadau Tybiedig) 1989 (“Rheoliadau 1989”) i’r graddau y maent yn gymwys yng Nghymru, a Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Newidiadau Ansylweddol) (Cymru) 2014 (“Rheoliadau 2014”).

Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer talu ffioedd i awdurdodau cynllunio lleol mewn cysylltiad ag:

(1ceisiadau a wneir o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (“Deddf 1990”) am ganiatâd cynllunio ar gyfer datblygu neu am gymeradwyaeth ar gyfer materion a gadwyd yn ôl gan ganiatâd cynllunio amlinellol;

(2ceisiadau tybiedig am ganiatâd cynllunio o dan adran 177(5) o Ddeddf 1990;

(3ceisiadau am dystysgrif defnydd neu ddatblygiad cyfreithlon;

(4ceisiadau am ganiatâd i arddangos hysbysebion;

(5ceisiadau penodol o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref (Gorchymyn Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995;

(6ceisiadau am newidiadau ansylweddol mewn caniatâd cynllunio; a

(7ymweliadau safle ar safleoedd mwyngloddio a thirlenwi.

Y prif newidiadau yw:

(a)cynyddu’r ffioedd oddeutu 15%;

(b)ad-delir y ffioedd mewn cysylltiad â cheisiadau am ganiatâd cynllunio neu am gymeradwyaeth ar gyfer materion a gadwyd yn ôl, os yw’r awdurdod cynllunio lleol yn methu â phenderfynu’r cais o fewn amseroedd penodedig (rheoliad 9);

(c)telir y ffioedd mewn cysylltiad â cheisiadau tybiedig i’r awdurdod cynllunio lleol yn hytrach na hanner i’r awdurdod cynllunio lleol a hanner i Weinidogion Cymru (rheoliad 10);

(d)mae ffioedd a delir mewn cysylltiad â chais tybiedig mewn perthynas â’r defnydd o dir fel safle carafán i’w trin yn yr un modd â cheisiadau eraill at ddibenion ad-daliadau (rheoliad 10(12)). O dan Reoliadau 1989, roedd ceisiadau tybiedig o’r fath wedi eu heithrio o’r darpariaethau ad-dalu;

(e)mae ffioedd yn daladwy mewn cysylltiad â cheisiadau am ganiatâd, cytundeb neu gymeradwyaeth a wneir yn ofynnol gan unrhyw amod neu gyfyngiad cynllunio, ac ad-delir unrhyw ffi o’r fath os yw’r awdurdod cynllunio lleol yn methu â phenderfynu’r cais o fewn amseroedd penodedig (rheoliad 15);

(f)mae ffi yn daladwy i’r awdurdod cynllunio lleol am gais diwygiedig am gymeradwyaeth ar gyfer materion a gadwyd yn ôl, os rhoddwyd cymeradwyaeth eisoes ar gyfer y materion hynny. O dan Reoliadau 1989 roedd cais o’r fath yn esempt thag talu ffi os oedd amodau wedi eu bodloni;

(g)pan wneir ceisiadau am ganiatâd cynllunio, am gymeradwyaeth ar gyfer materion a gadwyd yn ôl neu am dystysgrifau defnydd cyfreithlon neu ddatblygu, sy’n ymwneud â thir yn ardal dau neu ragor o awdurdodau cynllunio lleol, mae ffi’n daladwy i bob un o’r awdurdodau cynllunio lleol (paragraff 8 o Atodlen 1). O dan Reoliadau 1989 roedd y ffi’n daladwy i’r awdurdod cynllunio lleol y lleolid y rhan helaethaf o’r tir yn ei ardal.

Gwnaed rhai mân ddiwygiadau drafftio a chanlyniadol yn ogystal.

Mae Rheoliadau 1989 a 2014 wedi eu dirymu a gwneir rhai darpariaethau trosiannol ac arbed.

Mae’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol sy’n gymwys i’r Rheoliadau hyn ar gael gan Lywodraeth Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru yn www.cymru.gov.uk .

(1)

1990 p. 8. Amnewidiwyd adran 303 gan adran 199 o Ddeddf Cynllunio 2008 (p. 29). Gweler adran 336(1) o Ddeddf 1990 ar gyfer ystyr “prescribed”. Gwnaed diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn. Mewnosodwyd adran 333(2A) gan adran 118(1) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p. 5) a pharagraffau 1 ac 14 o Atodlen 6 i’r Ddeddf honno.

(2)

Diwygiwyd adran 177(5) gan adran 32 o Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991 (p. 34) a pharagraffau 8 a 24(3) o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno a chan adran 123(1) a (6) o Ddeddf Lleoliaeth 2011 (p. 20).

(3)

Diffinnir “reserved matters” yn adran 92(1) o Ddeddf 1990.

(4)

Amnewidiwyd adran 191 gan adran 10(1) o Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991 (p. 34) ac fe’i diwygiwyd gan adran 124(3) o Ddeddf Lleoliaeth 2011 (p. 20) a chan adran 58(1) o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 (2013 dccc 6) a pharagraff 6(1) a (3) o Atodlen 4 i’r Ddeddf honno.

(5)

Amnewidiwyd adran 192 gan adran 10(1) o Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991 (p. 34).

(6)

Mewnosodwyd adran 96A gan adran 190(1) a (2) o Ddeddf Cynllunio 2008 (p. 29) ac fe’i diwygiwyd gan O.S. 2014/1770 (Cy. 182).

(8)

O.S. 2012/801 (Cy. 110), a ddiwygiwyd gan O.S. 2014/1772 (Cy. 183). Gwnaed diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(10)

O.S. 1992/666. Amnewidiwyd reoliad 9 gan reoliad 2 o O.S. 2012/791 (Cy. 106). Gweler rheoliad 15 o O.S. 2008/1848 (Cy. 177) mewn perthynas â chymhwyso Rheoliadau 1992 ynglŷn ag arddangos ar unrhyw safle mewn ardal bleidleisio hysbyseb sy’n ymwneud yn benodol â refferendwm. Gwnaed diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(11)

1995 p. 25. Diwygiwyd Atodlen 13 gan: adrannau 76(1) a 93 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (p. 37), a pharagraff 10 o Atodlen 10 a pharagraff 13 o Atodlen 15 i’r Ddeddf honno; adrannau 3 a 4 o Ddeddf Cynllunio (Darpariaethau Canlyniadol) (Yr Alban) 1997 (p. 11) a Rhan 3 o Atodlen 1 a pharagraff 60 o Atodlen 2 i’r Ddeddf honno; a chan O.S. 2004/3156 (Cy. 273).

(12)

Diwygiwyd Atodlen 14 gan: adran 118(2) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p. 5), a pharagraff 19(1) a (4) o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno; adran 10(1) o Ddeddf Twf a Seilwaith 2013 (p. 27), a pharagraffau 1 i 9 o Atodlen 3 i’r Ddeddf honno; adrannau 3 a 4 o Ddeddf Cynllunio (Darpariaethau Canlyniadol) (Yr Alban) 1997 (p. 11) a Rhan 3 o Atodlen 1 a pharagraff 60 o Atodlen 2 i’r Ddeddf honno; a chan O.S. 2004/3156 (Cy. 273).

(13)

Mae “building” yn cynnwys rhan o adeilad, gweler y diffiniad yn adran 336(1) o Ddeddf 1990.

(14)

Diwygiwyd Rhan 7 gan: adrannau 1 i 11, 32 ac 84 o Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991 (p. 34), a pharagraff 11 o Atodlen 1, paragraffau 22 i 33 o Atodlen 7 a Rhan 1 o Atodlen 19 i’r Ddeddf honno; adran 20(4)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (p. 19) a pharagraff 24(5) o Atodlen 6 i’r Ddeddf honno; adran 196(4) o Ddeddf Cynllunio 2008 (p. 29) a pharagraffau 1, 5 a 6 o Atodlen 10 a pharagraff 3 o Atodlen 11 i’r Ddeddf honno; adrannau 123 i 126 o Ddeddf Lleoliaeth 2011 (p. 20); adran 63 o Ddeddf Menter a Diwygio Rheoleiddio 2013 (p. 24), a pharagraffau 4, 5 a 6 o Atodlen 17 i’r Ddeddf honno; adran 58(1) o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 (2013 dccc 6) a pharagraff 6(1) a (3) o Atodlen 4 i’r Ddeddf honno a chan O.S. 2004/3156 (Cy. 273), O.S. 2009/1307 a chan O.S. 2014/2773 (Cy. 280). Gwnaed diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(16)

Diwygiwyd erthygl 3 gan adran 76(7) o Ddeddf Cyfleustodau 2000 (p. 27), O.S. 1999/293, O.S. 1999/1783, O.S. 2004/3156 ac O.S. 2006/1386. Nid yw diwygiadau eraill yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(17)

Diwygiwyd erthygl 4 gan O.S. 1996/528, O.S. 2006/124 (Cy. 17), O.S. 2006/1386 (Cy. 136) ac O.S. 2013/1776 (Cy. 177). Nid yw diwygiadau eraill yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(18)

Diwygiwyd Rhan 3 gan: adran 16(1) o Ddeddf Trafnidiaeth a Gweithfeydd 1992 (p. 42); adrannau 40 a 41 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p. 5) ac adran 21 o Ddeddf Twf a Seilwaith 2013 (p. 27). Nid yw diwygiadau eraill yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(19)

O.S. 1987/764. Diwygiwyd yr Atodlen gan O.S. 1991/1567, O.S. 1992/610, O.S. 1994/724, O.S. 1995/297 ac O.S. 2006/1386 (Cy. 136). Nid yw diwygiadau eraill yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(20)

Diwygiwyd adran 78(2) gan adran 17(2) o Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991 (p. 24). Nid yw diwygiadau eraill yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(21)

Diwygiwyd adran 77 gan adran 32 o Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991 (p. 34), a pharagraffau 1 a 18 o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno ac O.S. 2014/2773 (Cy. 280). Nid yw diwygiadau eraill yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(22)

Amnewidiwyd adran 174(2) a (3) gan adran 6(1) o Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991 (p. 34) a diwygiwyd adran 174(6) gan adrannau 32 a 84 o’r Ddeddf honno, a pharagraff 22 o Atodlen 7 a Rhan 1 o Atodlen 19 iddi, a chan O.S. 2004/3156 (Cy. 273). Nid yw diwygiadau eraill yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(23)

Amnewidiwyd adran 191 gan adran 10(1) o Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991 (p. 34), ac fe’i diwygiwyd gan adran 124(3) o Ddeddf Lleoliaeth 2011 (p. 20) ac adran 58(1) o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 (2013 dccc 6) a pharagraff 6(1) a (3) o Atodlen 4 i’r Ddeddf honno.

(24)

Diwygiwyd adran 177(1) gan adran 32 o Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991 (p. 34) a pharagraffau 8 a 24 o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno.

(25)

Amnewidiwyd adran 176(1) gan adran 32 o Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991 (p. 34) a pharagraffau 8 a 23 o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno.

(26)

Diwygiwyd adran 195(1) gan adran 32 o Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991 (p. 34) a pharagraffau 8 a 32 o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno.

(27)

Amnewidiwyd rheoliad 9 gan reoliad 2 o O.S. 2012/791 (Cy. 106).

(28)

Gweler rheoliad 15 o O.S. 2008/1848 (Cy. 177) mewn perthynas â chymhwyso Rheoliadau 1992 i arddangos hysbyseb sy’n ymwneud yn benodol â refferendwm, ar unrhyw safle mewn ardal bleidleisio.

(29)

Diwygiwyd Rhan 6 gan O.S. 1997/366 ac O.S. 2012/2318 (Cy. 252). Nid yw diwygiadau eraill yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(30)

Diwygiwyd Rhan 7 gan O.S. 2012/2318 (Cy. 252). Nid yw diwygiadau eraill yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(31)

Gwnaed diwygiadau i Ran 31 ond nid oes yr un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(32)

Amnewidiwyd Rhan 24 mewn perthynas â Chymru gan O.S. 2002/1878 (Cy. 187) ac fe’i diwygiwyd gan O.S. 2003/2155 ac O.S. 2004/945. Nid yw diwygiadau eraill yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(33)

Diffinnir “cais tybiedig” yn rheoliad 10(2).

(34)

Diwygiwyd adran 73 gan adrannau 42 a 120 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p. 5) a pharagraff 1 o Atodlen 9 i’r Ddeddf honno. Nid yw diwygiadau eraill yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(35)

Mewnosodwyd adran 73A gan adran 32 o Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991 (p. 34) a pharagraffau 8 ac 16(1) o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno.

(36)

Diwygiwyd adran 91 gan adrannau 21 a 32 o Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991 (p. 34) a pharagraffau 1 a 3 o Atodlen 1 a pharagraffau 8 ac 20 o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno. Nid yw diwygiadau eraill yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources