xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 4Gorfodi (hysbysiadau tramgwydd sylweddau peryglus – apelau, effaith a chofrestr)

Hysbysiadau tramgwydd sylweddau peryglus: darpariaethau atodol

15.—(1Yn ogystal â’r materion sy’n ofynnol gan adran 24 o’r DCSP i’w cynnwys mewn hysbysiad tramgwydd sylweddau peryglus, rhaid i hysbysiad hefyd nodi’r tir y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef, pa un ai drwy gyfeirio at blan neu fel arall.

(2Yn ogystal â chyflwyno hysbysiad tramgwydd sylweddau peryglus i’r personau a grybwyllir yn adran 24(4)(a) a (b) o’r DCSP, rhaid i awdurdod sylweddau peryglus gyflwyno copi o’r hysbysiad i bob person arall sydd â buddiant yn y tir y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef.

(3Rhaid i bob copi o hysbysiad tramgwydd sylweddau peryglus a gyflwynir yn unol ag adran 24(4) o’r DCSP gael ei gyflwyno ynghyd â datganiad sy’n nodi—

(a)rhesymau’r awdurdod sylweddau peryglus am ddyroddi’r hysbysiad; a

(b)yr hawl i apelio i Weinidogion Cymru yn erbyn yr hysbysiad, a’r personau a gaiff ddwyn apêl o’r fath, y seiliau y caniateir i apêl o’r fath gael ei gwneud arnynt ac o fewn pa gyfnod y caniateir hynny.

Apelau yn erbyn hysbysiadau tramgwydd sylweddau peryglus

16.  Mae adran 174(1), (2) a (3) i (6) ac adrannau 175(3) a (6), 176 a 177 o’r DCGTh yn gymwys mewn perthynas â hysbysiadau tramgwydd sylweddau peryglus, yn ddarostyngedig i’r addasiadau a nodir yn Rhan 1 o Atodlen 4.

Apelau: materion atodol

17.—(1Rhaid i berson sy’n apelio o dan adran 174(1) o’r DCGTh yn erbyn hysbysiad tramgwydd sylweddau peryglus, ar yr un pryd ag y mae hysbysiad o’r apêl yn cael ei roi i Weinidogion Cymru neu ei anfon atynt o dan adran 174(3) o’r DCGTh, gyflwyno copi o’r hysbysiad o apêl a’r deunydd sy’n cael ei gyflwyno ynghyd ag ef sy’n ofynnol gan adran 174(4) o’r Ddeddf honno i’r awdurdod sylweddau peryglus a ddyroddodd yr hysbysiad.

(2Rhaid i’r awdurdod sylweddau peryglus, o fewn 28 o ddiwrnodau i’r dyddiad y mae’r hysbysiad o apêl yn cael ei gyflwyno iddo, gyflwyno i Weinidogion Cymru a’r apelydd ddatganiad—

(a)sy’n nodi cyflwyniadau’r awdurdod mewn perthynas â phob sail dros apelio; a

(b)sy’n nodi pa un ai y byddai’r awdurdod yn barod i roi cydsyniad sylweddau peryglus ar gyfer presenoldeb unrhyw faintioli o’r sylwedd peryglus y mae’r hysbysiad tramgwydd sylweddau peryglus yn ymwneud ag ef ar, uwchben neu oddi tan y tir ac os felly, fanylion yr amodau, os oes rhai, y dymunent eu gosod ar y cydsyniad.

(3Rhaid i’r awdurdod sylweddau peryglus, o fewn y cyfnod o 28 o ddiwrnodau hwnnw, roi hysbysiad o’r apêl i feddiannwyr eiddo yng nghyffiniau’r safle y mae’r hysbysiad tramgwydd sylweddau peryglus yn ymwneud ag ef.

Effaith peidio â chydymffurfio â hysbysiadau tramgwydd sylweddau peryglus, etc.

18.  Mae adrannau 178 i 181 o’r DCGTh yn cael effaith mewn perthynas â hysbysiadau tramgwydd sylweddau peryglus, yn ddarostyngedig i’r addasiadau a nodir yn Rhan 2 o Atodlen 4.

Y gofrestr hysbysiadau tramgwydd sylweddau peryglus

19.—(1Rhaid i awdurdod sylweddau peryglus gadw cofrestr sy’n cynnwys yr wybodaeth ganlynol mewn cysylltiad â phob hysbysiad tramgwydd sylweddau peryglus a ddyroddir ganddynt—

(a)cyfeiriad y tir y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef;

(b)y dyddiad y cyflwynir copïau o’r hysbysiad;

(c)datganiad o’r tramgwydd honedig yn erbyn y rheolaeth o sylweddau peryglus, y camau sy’n ofynnol gan yr hysbysiad i unioni’r tramgwydd, ac o fewn pa gyfnod y mae’r camau hynny i’w cymryd;

(d)y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad fel y dyddiad y mae’r hysbysiad i gael effaith;

(e)dyddiad ac effaith unrhyw amrywiad i’r hysbysiad;

(f)dyddiad unrhyw apêl i Weinidogion Cymru yn erbyn yr hysbysiad a dyddiad penderfynu’r apêl yn derfynol.

(2Rhaid dileu’r cofnod sy’n ymwneud â’r hysbysiad tramgwydd sylweddau peryglus a phopeth sy’n ymwneud â’r hysbysiad o’r gofrestr os yw’r hysbysiad yn cael ei ddiddymu gan Weinidogion Cymru neu ei dynnu yn ôl.

(3Rhaid i’r gofrestr gynnwys mynegai o gofnodion yn y gofrestr.

(4Rhaid gwneud pob cofnod yn y gofrestr o fewn 14 o ddiwrnodau i’r dyddiad y mae’r wybodaeth berthnasol ar gael i’r awdurdod sylweddau peryglus.

(5Rhaid cadw’r gofrestr ym mhrif swyddfa’r awdurdod sylweddau peryglus.

(6Rhaid sicrhau bod pob cofrestr a gedwir o dan y rheoliad hwn ar gael i’r cyhoedd gael edrych arno ar bob adeg resymol.

Dilysrwydd, etc.

20.—(1Mae adrannau 285 a 289(1), (3) i (4A) a (5) i (7) o’r DCGTh yn gymwys mewn perthynas â hysbysiadau tramgwydd sylweddau peryglus, yn ddarostyngedig i’r addasiadau a nodir yn Rhan 3 o Atodlen 4.

(2Mae adran 25(2) o’r DCSP yn ddarostyngedig i unrhyw orchymyn o dan adran 289(4A) o’r DCGTh, fel y’i cymhwysir gan baragraff (1).

Dehongli’r DCGTh at ddibenion y Rhan hon

21.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys at ddibenion dehongli’r DCGTh wrth ei chymhwyso, yn rhinwedd y Rhan hon, i hysbysiadau tramgwydd sylweddau peryglus.

(2Pan fo adran o’r DCGTh yn cyfeirio at adran arall o’r DCGTh a addaswyd gan y Rheoliadau hyn, mae’r cyfeiriad i’w ddarllen fel cyfeiriad at yr adran fel y’i haddaswyd.