Search Legislation

Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Cymru) 2015

Newidiadau dros amser i: RHAN 6

 Help about opening options

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 04/09/2015.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Cymru) 2015. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.

RHAN 6LL+CPolisïau ac ymgynghoriad a chyfranogiad cyhoeddus

PolisïauLL+C

26.—(1Wrth baratoi, adolygu neu addasu unrhyw bolisi perthnasol, rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod y materion a ganlyn yn cael eu hystyried—

(a)amcanion atal damweiniau mawr a chyfyngu ar ganlyniadau damweiniau o’r fath ar gyfer iechyd dynol a’r amgylchedd; a

(b)y materion y cyfeirir atynt yn Erthygl 13(2) o’r Gyfarwyddeb.

(2Yn y rheoliad hwn ystyr “polisi perthnasol” (“relevant policy”) yw Cynllun Gofodol Cymru; ac unrhyw bolisi cynllunio defnydd tir, llwybrau trafnidiaeth neu harbwr pysgodfa cenedlaethol cyfredol pan fo’r polisi hwnnw ym marn Gweinidogion Cymru yn ymwneud â materion sy’n effeithio ar risgiau neu ganlyniadau damwain fawr.

(3Mae i ymadroddion sy’n ymddangos yn y rheoliad hwn ac yn y Gyfarwyddeb yr un ystyr at ddibenion y rheoliad hwn ag a roddir iddynt at ddibenion y Gyfarwyddeb.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 26 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

Cynlluniau a rhaglenniLL+C

27.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo awdurdod cyfrifol yn bwriadu paratoi, adolygu neu addasu cynllun neu raglen berthnasol.

(2Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys, rhaid i’r awdurdod cyfrifol—

(a)cymryd y fath fesurau y mae’n eu hystyried yn briodol i sicrhau bod ymgyngoreion cyhoeddus yn cael cyfleoedd cynnar ac effeithiol i gymryd rhan yng ngwaith paratoi, addasu neu adolygu’r cynllun neu’r rhaglen berthnasol; a

(b)wrth wneud hynny, gymryd y fath fesurau y mae’n eu hystyried yn briodol i sicrhau—

(i)bod ymgyngoreion cyhoeddus yn cael gwybod am unrhyw gynigion i baratoi, addasu neu adolygu cynllun neu raglen berthnasol;

(ii)bod gwybodaeth berthnasol am gynigion o’r fath ar gael i ymgyngoreion cyhoeddus, gan gynnwys gwybodaeth am yr hawl i gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau ac am yr awdurdod y caniateir cyflwyno sylwadaethau neu gwestiynau iddo;

(iii)bod hawl gan ymgyngoreion cyhoeddus i fynegi sylwadaethau a barn pan fo’r holl opsiynau yn agored cyn y gwneir penderfyniadau ynghylch y cynllun a’r rhaglen berthnasol; a

(iv)bod unrhyw gyfnodau a ddarperir ar gyfer cyfranogiad y cyhoedd o dan y rheoliad hwn yn caniatáu amser digonol i ymgyngoreion cyhoeddus baratoi a chymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau mewn perthynas â’r cynllun neu’r rhaglen berthnasol;

(c)ystyried canlyniadau cyfranogiad y cyhoedd o ran gwneud y penderfyniadau hynny; a

(d)cymryd y fath fesurau y mae’n eu hystyried yn briodol i roi gwybod i’r ymgyngoreion cyhoeddus am y penderfyniadau a wnaed a’r rhesymau a’r ystyriaethau y seiliwyd y penderfyniadau hynny arnynt, gan gynnwys gwybodaeth am broses gyfranogiad y cyhoedd.

(3Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys i gynllun neu raglen berthnasol y mae gweithdrefn cyfranogiad y cyhoedd yn cael ei weithredu mewn perthynas ag ef o dan Ran 3 o Reoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni (Cymru) 2004(1).

(4Yn y rheoliad hwn—

ystyr “awdurdod cyfrifol” (“responsible authority”) yw—

(a)

yr awdurdod y mae cynllun neu raglen berthnasol yn cael ei baratoi neu ei pharatoi ganddo neu ar ei ran; a

(b)

pan fo’r awdurdod hwnnw, ar unrhyw adeg benodol, yn peidio â bod yn gyfrifol, neu’n gwbl gyfrifol, am gymryd camau mewn perthynas â’r cynllun neu’r rhaglen, y person sy’n gyfrifol (yn unigol neu ar y cyd â’r awdurdod), ar yr adeg honno, am gymryd y camau hynny;

ystyr “cynllun neu raglen berthnasol” (“relevant plan or programme”) yw cynllun neu raglen gyffredinol sy’n ymwneud ag—

(a)

cynllunio ar gyfer sefydliadau newydd yn unol ag Erthygl 13 o’r Gyfarwyddeb, neu

(b)

datblygiadau newydd o amgylch sefydliadau pan allai’r lleoliad neu’r datblygiadau gynyddu’r risg o ddamwain fawr neu ychwanegu at ganlyniadau damwain fawr yn unol ag Erthygl 13 o’r Gyfarwyddeb; ac

ystyr “ymgyngoreion cyhoeddus” (“public consultees”) yw personau y mae’r awdurdod cyfrifol yn ymwybodol ohonynt, gan gynnwys unrhyw sefydliad anllywodraethol sy’n hyrwyddo gwaith diogelu’r amgylchedd, y mae’r cynllun neu’r rhaglen berthnasol dan sylw yn effeithio arnynt neu’n debygol o effeithio arnynt, neu sydd â buddiant yn y cynllun neu’r rhaglen honno.

(5Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys i Weinidog y Goron (fel y diffinnir “Minister of the Crown” yn adran 8(1) o Ddeddf Gweinidogion y Goron 1975(2)) nac adran o Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

(6Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i gynllun neu raglen berthnasol sy’n ymwneud â Chymru gyfan neu unrhyw ran ohoni, ond mae hyn yn ddarostyngedig i baragraff (5).

(7Caiff unrhyw gamau a gymerir cyn 4 Medi 2015 mewn perthynas â chynllun neu raglen berthnasol eu trin fel camau a gymerir at ddibenion y rheoliad hwn.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 27 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

Cymeradwyaethau cynllunio eraill ar gyfer prosiectauLL+C

28.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (4), mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan geisir am gydsyniad, caniatâd neu awdurdodiad arall ar gyfer prosiect perthnasol oddi wrth awdurdod cymwys.

(2Cyn penderfynu rhoi unrhyw gydsyniad, caniatâd neu awdurdodiad arall ar gyfer prosiect perthnasol i gynllunio defnydd tir, llwybr trafnidiaeth neu harbwr pysgodfa, rhaid i awdurdod cymwys gymryd y fath fesurau y mae’n eu hystyried yn briodol i sicrhau—

(a)yr hysbysir y cyhoedd gan hysbysiadau cyhoeddus neu ddulliau priodol eraill, gan gynnwys cyfathrebiadau electronig os ydynt ar gael, o’r materion a ganlyn yn gynnar yn y weithdrefn ar gyfer gwneud penderfyniad neu, fan bellaf, gyn gynted ag y gellir yn rhesymol ddarparu’r wybodaeth—

(i)pwnc y prosiect perthnasol;

(ii)pan fo’n gymwys, y ffaith bod y prosiect yn ddarostyngedig i asesiad effaith amgylcheddol cenedlaethol neu drawsffiniol neu ymgyngoriadau rhwng Aelod-wladwriaethau yn unol ag Erthygl 14(3) o’r Gyfarwyddeb;

(iii)manylion yr awdurdod cymwys sy’n gyfrifol am wneud y penderfyniad, y gellir cael gwybodaeth berthnasol oddi wrtho ac y gellir cyflwyno sylwadaethau neu gwestiynau iddo;

(iv)awgrym o’r amserau a’r mannau lle y bydd yr wybodaeth berthnasol ar gael, neu’r dulliau y bydd ar gael;

(v)manylion y cyfnod ar gyfer trosglwyddo sylwadaethau neu gwestiynau; a

(vi)natur penderfyniadau posibl neu, os oes un, y penderfyniad drafft;

(b)yr ymgynghorir â’r awdurdod COMAH cymwys ynghylch y prosiect;

(c)bod y prif adroddiadau a chyngor a ddyroddir i’r awdurdod cymwys ar yr adeg pan hysbyswyd y cyhoedd dan sylw yn unol â pharagraff (2)(a) ar gael i’r cyhoedd dan sylw ar yr adeg honno;

(d)bod hawl gan y cyhoedd dan sylw i fynegi sylwadaethau a barn i’r awdurdod cymwys cyn bod penderfyniad yn cael ei wneud; ac

(e)bod canlyniadau’r ymgyngoriadau a gynhelir yn unol â’r rheoliad hwn yn cael eu hystyried wrth wneud penderfyniad.

(3Ar ôl penderfynu pa un ai i roi unrhyw gydsyniad, caniatâd neu awdurdodiad arall ar gyfer prosiect perthnasol, rhaid i’r awdurdod cymwys sicrhau bod y canlynol ar gael i’r cyhoedd—

(a)cynnwys y penderfyniad a’r rhesymau sy’n sail iddo, gan gynnwys unrhyw ddiweddariadau dilynol;

(b)canlyniadau’r ymgyngoriadau a gynhaliwyd cyn gwneud y penderfyniad ac esboniad am sut y’u hystyriwyd wrth wneud y penderfyniad hwnnw.

(4I’r graddau y mae eisoes yn ofynnol o dan unrhyw ddeddfiad i’r awdurdod cymwys gymryd unrhyw un neu ragor o’r camau a nodir ym mharagraffau (2) neu (3) o’r rheoliad hwn, nid yw’r paragraffau hynny yn gymwys.

(5Yn y rheoliad hwn—

ystyr “awdurdod cymwys” (“competent authority”) yw Gweinidogion Cymru, awdurdod lleol neu awdurdod arall sydd â chyfrifoldeb am benderfynu pa un ai i roi cydsyniad, caniatâd neu awdurdodiad arall y cyfeirir ato ym mharagraff (1);

ystyr “y cyhoedd dan sylw” (“the public concerned”) yw personau, gan gynnwys unrhyw sefydliad anllywodraethol sy’n hyrwyddo gwaith diogelu’r amgylchedd, y mae gwneud penderfyniad i roi cydsyniad, caniatâd neu awdurdodiad arall y cyfeirir ato ym mharagraff (1) yn effeithio arnynt neu’n debygol o effeithio arnynt, neu sydd â buddiant ynddo; ac

ystyr “prosiect perthnasol” (“relevant project”) yw—

(a)

datblygiad sy’n dod o fewn paragraffau (c), (ca) neu (s) o Atodlen 4 i Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012(3);

(b)

gwaith y tu hwnt i’r marc distyll cymedrig a fwriedir mewn perthynas â harbwr pysgodfa yng Nghymru naill ai—

(i)

mewn ardal y mae’r awdurdod COMAH cymwys wedi hysbysu’r awdurdod cymwys amdani at ddibenion y paragraff hwn ac sy’n debygol o arwain at gynnydd sylweddol yn nifer y personau sy’n byw neu’n gweithio yn yr ardal yr hysbyswyd amdani neu sy’n ymweld â hi; neu

(ii)

pan allai’r lleoliad neu’r gwaith fel arall gynyddu’r risg o ddamwain fawr neu ychwanegu at ganlyniadau damwain fawr; neu

(c)

sefydliad newydd.

(6Yn y rheoliad hwn, ystyr cyfeiriad at roi cydsyniad, caniatâd neu awdurdodiad arall yw—

(a)rhoi caniatâd cynllunio i gais o dan Ran 3 o’r DCGTh(4) (rheolaeth dros ddatblygu);

(b)rhoi caniatâd cynllunio i gais o dan adran 293A o’r Ddeddf honno(5) (datblygiad brys y Goron)(6);

(c)rhoi caniatâd cynllunio, neu gadarnhau penderfyniad yr awdurdod cynllunio lleol i roi caniatâd cynllunio (pa un ai yn ddarostyngedig i’r un amodau a therfynau â’r rheini a osodir gan yr awdurdod cynllunio lleol ai peidio), ynghylch penderfynu apêl o dan adran 78 o’r Ddeddf honno (yr hawl i apelio yn erbyn penderfyniadau cynllunio)(7) mewn cysylltiad â chais o’r fath;

(d)rhoi caniatâd cynllunio o dan—

(i)adran 141(2)(a) o’r Ddeddf honno (camau gweithredu mewn perthynas â hysbysiad prynu); neu

(ii)adran 177(1)(a) o’r Ddeddf honno (rhoi neu addasu caniatâd cynllunio yn dilyn apelau yn erbyn hysbysiadau gorfodi);

(e)cyfarwyddo o dan is-adran (1) neu (2A) o adran 90 o’r Ddeddf honno (datblygiad gydag awdurdodiad y llywodraeth) y tybir bod caniatâd cynllunio wedi ei roi;

(f)gwneud—

(i)gorchymyn datblygu lleol o dan adran 61A o’r DCGTh(8);

(ii)parth cynllunio syml o dan adran 82 o’r Ddeddf honno;

(iii)gorchymyn sy’n dynodi ardal fenter o dan Atodlen 32 o Ddeddf Llywodraeth Leol, Cynllunio a Thir 1980(9);

(iv)gorchymyn o dan adran 102 o’r DCGTh (gorchmynion sy’n ei gwneud yn ofynnol peidio â pharhau i ddefnyddio adeiladau neu weithfeydd neu eu haddasu neu eu diddymu)(10), gan gynnwys gorchymyn a wneir o dan yr adran honno yn rhinwedd adran 104 o’r Ddeddf honno (pwerau mewn perthynas â gorchmynion adran 102) sy’n rhoi caniatâd cynllunio neu sy’n cadarnhau unrhyw orchymyn o’r fath o dan adran 103 o’r Ddeddf honno (cadarnhau gorchmynion adran 102);

(v)gorchymyn o dan baragraff 1 o Atodlen 9 i’r Ddeddf honno (gorchymyn sy’n ei gwneud hi’n ofynnol peidio â pharhau i weithio mwynau)(11), gan gynnwys gorchymyn a wneir o dan y paragraff hwnnw yn rhinwedd paragraff 11 o’r Atodlen i’r Ddeddf honno (pwerau mewn perthynas â gorchmynion o dan Atodlen 9) sy’n rhoi caniatâd cynllunio;

(vi)gorchymyn o dan adran 14 (pwerau Gweinidogion, ynghylch ceisiadau awdurdodau harbyrau, neu eraill, i wneud gorchmynion ar gyfer sicrhau effeithlonrwydd harbyrau, etc.) neu adran 16(1) neu (2) (pwerau Gweinidogion, ynghylch ceisiadau darpar ymgymerwyr, neu eraill, i wneud gorchmynion sy’n rhoi pwerau i wella, adeiladu, etc. harbyrau) o Ddeddf Harbyrau 1964(12);

(g)awdurdodi gwaith mewn harbwr pysgodfa yn unol â phwerau sydd wedi eu cynnwys mewn gorchymyn o dan adran 14(1) neu 16(1) neu (2) o Ddeddf Harbyrau 1964;

(h)cyfarwyddo o dan y darpariaethau a ganlyn os gwneir cais am ganiatâd cynllunio, rhaid iddo gael ei roi o dan—

(i)adran 141(3) o’r Ddeddf honno (camau gweithredu mewn perthynas â hysbysiad prynu); neu

(ii)adran 35(5) o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 (camau gweithredu mewn perthynas â hysbysiad prynu adeilad rhestredig)(13);

(i)gwneud gorchymyn o dan unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Priffyrdd 1980(14) mewn perthynas â gwaith a gyflawnir gan Weinidogion Cymru—

(i)adran 10 (darpariaeth gyffredinol o ran cefnffyrdd);

(ii)adran 14 (pwerau o ran ffyrdd sy’n croesi cefnffyrdd neu ffyrdd dosbarthiadol neu sy’n ymuno â hwy);

(iii)adran 18 (gorchmynion atodol sy’n ymwneud â ffyrdd arbennig);

(j)llunio cynllun o dan adran 16 o Ddeddf Priffyrdd 1980 mewn perthynas â gwaith a gyflawnir gan Weinidogion Cymru;

(k)cyfarwyddo o dan adran 12 o’r DCSP y tybir bod cydsyniad sylweddau peryglus wedi ei roi;

(l)rhoi cydsyniad sylweddau peryglus o dan adran 20 o’r DCSP; a

(m)rhoi cydsyniad sylweddau peryglus o dan adran 177(1)(a) o’r DCGTh (fel y’i cymhwysir i hysbysiadau tramgwydd sylweddau peryglus ac y’i haddaswyd gan reoliad 16 ac Atodlen 4).

(7Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i benderfyniad i ymgymryd â gwaith o dan adran 24(1) o Ddeddf Priffyrdd 1980 (adeiladu priffyrdd newydd), nad yw’n ymwneud ag arfer unrhyw un neu ragor o ddarpariaethau paragraff 6(i) neu (j) fel petai’n “gydsyniad, caniatâd neu awdurdodiad arall” y cyfeirir atynt ym mharagraff (1).

(8Mewn perthynas ag unrhyw gydsyniad, caniatâd neu awdurdodiad arall sy’n dod o fewn paragraff (6) neu (7) sy’n gallu cael ei amrywio neu ei addasu, rhaid i’r awdurdod cymwys ymdrin â’r addasiad neu’r amrywiad fel petai’n gydsyniad, yn ganiatâd neu’n awdurdodiad arall ar gyfer prosiect perthnasol at ddibenion y rheoliad hwn pan fo’r addasiad neu’r amrywiad hwnnw yn awdurdodi datblygiad sy’n dod o fewn paragraff (s) o’r Tabl yn Atodlen 4 i Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012.

(9Yn y rheoliad hwn, mae i “sefydliad newydd” yr un ystyr ag sydd i “new establishment” yn Erthygl 3 o’r Gyfarwyddeb.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 28 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

(1)

O.S. 2004/1656 (Cy. 170), diwygiwyd gan O.S. 2011/1043; y mae offerynnau diwygio eraill i’w cael ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.

(3)

O.S. 2012/801 (Cy. 110), diwygiwyd gan O.S. 2014/469 ac O.S. 2013/755 (Cy. 90). Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.

(4)

1990 p. 8. Trosglwyddwyd swyddogaethau Gweinidogion y Goron o dan y DCGTh ac eithrio (a) adran 90(2), (b) swyddogaethau Gweinidogion y Goron ac eithrio Ysgrifennydd Gwladol Cymru o dan adrannau 90(1), 101 ac Atodlen 8, 170(12), 238(1)(a), 239(1)(a), 263(3) a (4), 266, 268, 279(5) a (6), 305, 325(9) a 336(3); (c) swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fasnach a Diwydiant o dan adran 272(5) a (6); a (d) swyddogaethau’r Trysorlys o dan adrannau 293(3) a 336(2) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) fel y’i diwygiwyd gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2000 (O.S. 2000/253). Mae terfynau eraill ar y trosglwyddiad hwnnw nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn. Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny wedyn i Weinidogion Cymru gan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

(5)

Mewnosodwyd adran 293A gan adran 82(1) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (“Deddf 2004”) (p. 5). Mae adran 118(3) o Ddeddf 2004 yn darparu bod rhaid ystyried cyfeiriad yn Atodlen 1 i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 at ddeddfiad a ddiwygir gan y Ddeddf hon i fod yn gyfeiriad at ddeddfiad fel y’i diwygiwyd felly.

(6)

Mewnosodwyd adran 293A gan adran 82(1) o Ddeddf 2004.

(7)

Diwygiwyd adran 78 gan adran 17(2) o Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991 (p. 34), adrannau 40(2)(e) a 43(2) o Ddeddf 2004 a pharagraffau 1 a 3 o Atodlen 10 a pharagraffau 1 a 2 o Atodlen 11 i Ddeddf Cynllunio 2008 (p. 9).

(8)

Mewnosodwyd adran 61A gan adran 40(1) o Ddeddf 2004 ac fe’i diwygiwyd gan adrannau 188 a 238 o Ddeddf Cynllunio 2008, ac Atodlen 13 iddi.

(10)

Diwygiwyd adran 102 gan baragraff 6 o Atodlen 1 a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991 (p. 34).

(11)

Diwygiwyd paragraff 1 o Atodlen 9 gan baragraff 15 o Atodlen 1 i Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991 (p. 34).

(12)

1964 p. 40. Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Gweinidog mewn perthynas â harbyrau pysgodfeydd o dan adrannau 14 ac 16 o’r DCSP i Weinidogion Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo, fel y’i diwygiwyd gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2000 (O.S. 2000/253).

(13)

1990 p. 9.

(14)

1980 p. 66. Diwygiwyd adran 10(2)(a)(i) gan adran 22(2)(a) o Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991. Mae diwygiadau eraill i’r Ddeddf nad ydynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources