11.—(1) Ni chaiff awdurdod sylweddau peryglus benderfynu cais am gydsyniad sylweddau peryglus cyn y daw’r cyfnod neu’r cyfnodau i ben a ganiateir ar gyfer cyflwyno sylwadau yn unol â rheoliad 6(1) a 10(3).
(2) Wrth benderfynu cais am gydsyniad sylweddau peryglus, rhaid i’r awdurdod sylweddau peryglus ystyried canlyniadau’r ymgynghoriad a gynhelir mewn perthynas â’r cais hwnnw.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (1), rhaid i awdurdod sylweddau peryglus, o fewn y cyfnod a bennir ym mharagraff (4), roi i’r ceisydd hysbysiad ysgrifenedig am ei benderfyniad neu hysbysiad bod y cais wedi ei gyfeirio at Weinidogion Cymru i’w benderfynu.
(4) Y cyfnod a bennir at ddibenion paragraff (3) yw—
(a)cyfnod o 8 wythnos o’r dyddiad y mae’r awdurdod sylweddau peryglus yn cael y cais; neu
(b)ac eithrio pan fo’r ceisydd eisoes wedi rhoi hysbysiad o apêl i Weinidogion Cymru, y cyfryw gyfnod hwy ag y caiff y ceisydd a’r awdurdod sylweddau peryglus gytuno arno yn ysgrifenedig.
(5) Pan fo awdurdod sylweddau peryglus yn rhoi hysbysiad o benderfyniad ar gais rhaid i’r hysbysiad, pan fo cydsyniad sylweddau peryglus yn cael ei wrthod neu ei roi yn ddarostyngedig i amodau—
(a)nodi, yn glir ac yn fanwl, ei resymau llawn am ei wrthod neu am unrhyw amod a osodir; a
(b)os yw’r ceisydd wedi ei dramgwyddo gan y penderfyniad, gynnwys datganiad i’r perwyl y caiff y ceisydd apelio i Weinidogion Cymru o dan adran 21 o’r DCSP o fewn 6 mis i ddyddiad yr hysbysiad o benderfyniad, neu’r cyfryw gyfnod hwy ag y caiff Gweinidogion Cymru ei ganiatáu ar unrhyw adeg.
(6) Rhaid i’r awdurdod sylweddau peryglus, cyn gynted ag y bo’n ymarferol, hysbysu’r personau a ganlyn am delerau ei benderfyniad—
(a)yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch;
(b)pan fo’r tir y mae’r penderfyniad yn ymwneud ag ef yn safle niwclear, neu ar safle o’r fath, y Swyddfa dros Reoli Niwclear;
(c)y cyngor sir neu’r cyngor bwrdeistref sirol dan sylw, os nad y cyngor hwnnw yw’r awdurdod sylweddau peryglus dan sylw hefyd;
(d)unrhyw ymgyngoreion eraill sydd wedi cyflwyno sylwadau iddo ar y cais; ac
(e)unrhyw berchnogion sydd wedi cyflwyno sylwadau iddo ar y cais.
(7) Rhaid i’r awdurdod sylweddau peryglus sicrhau bod y canlynol ar gael i edrych arnynt yn swyddfeydd yr awdurdod sylweddau peryglus—
(a)cynnwys y penderfyniad a’r rhesymau y seiliwyd y penderfyniad arnynt, gan gynnwys unrhyw hysbysiadau dilynol a gafwyd gan yr awdurdod COMAH cymwys yn unol â pharagraff 17 o Atodlen 2; a
(b)canlyniadau’r ymgyngoriadau a gynhaliwyd cyn gwneud y penderfyniad ac esboniad am sut y’u hystyriwyd wrth wneud y penderfyniad hwnnw.