RHAN 1Cyffredinol

DehongliI12

1

Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “awdurdod COMAH cymwys” (“COMAH competent authority”)—

    1. a

      mewn perthynas â safle niwclear yw’r Swyddfa dros Reoli Niwclear a Chorff Adnoddau Naturiol Cymru yn gweithredu ar y cyd,

    2. b

      fel arall, yw’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a Chorff Adnoddau Naturiol Cymru yn gweithredu ar y cyd;

  • mae i “cyfathrebiadau electronig” yr ystyr a roddir i “electronic communications” yn adran 15(1) o Ddeddf Cyfathrebiadau Electronig 2000;

  • ystyr “DCGTh” (“TCPA”) yw Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 19906;

  • ystyr “y DCSP” (“the PHSA”) yw Deddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990;

  • ystyr “dyddiad cychwyn” (“commencement date”) yw 4 Medi 2015;

  • ystyr “y Gyfarwyddeb” (“the Directive”) yw Cyfarwyddeb 2012/18/EU Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reoli peryglon damweiniau mawr sy’n cynnwys sylweddau peryglus7;

  • ystyr “Rheoliadau 1992” (“the 1992 Regulations”) yw Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 19928; ac

  • mae i “safle niwclear” yr un ystyr ag sydd i “nuclear site” yn adran 112(1) o Ddeddf Ynni 20139.

2

Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriad at ffurflen â rhif yn gyfeiriad at y ffurflen sydd â’r rhif cyfatebol yn Atodlen 3.

3

Mae Rhannau 1 i 3 o Atodlen 1 (sylweddau peryglus a maintioli sydd dan reolaeth) i’w dehongli yn unol â’r nodiadau i’r Atodlen honno ac mae cyfeiriad yn yr Atodlen honno at nodyn yn gyfeiriad at nodyn yn Rhan 4 o’r Atodlen honno.

4

Mae cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at Reoliad (EC) Rhif 1272/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 16 Rhagfyr 2008 (“Rheoliad DLPh”) ar ddosbarthu, labelu a phacio sylweddau a chymysgeddau yn gyfeiriadau at y rheoliad hwnnw fel y’i diwygiwyd o bryd i’w gilydd.