2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “awdurdod COMAH cymwys” (“COMAH competent authority”)—
mewn perthynas â safle niwclear yw’r Swyddfa dros Reoli Niwclear a Chorff Adnoddau Naturiol Cymru yn gweithredu ar y cyd,
fel arall, yw’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a Chorff Adnoddau Naturiol Cymru yn gweithredu ar y cyd;
mae i “cyfathrebiadau electronig” yr ystyr a roddir i “electronic communications” yn adran 15(1) o Ddeddf Cyfathrebiadau Electronig 2000;
ystyr “DCGTh” (“TCPA”) yw Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(1);
ystyr “y DCSP” (“the PHSA”) yw Deddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990;
ystyr “dyddiad cychwyn” (“commencement date”) yw 4 Medi 2015;
ystyr “y Gyfarwyddeb” (“the Directive”) yw Cyfarwyddeb 2012/18/EU Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reoli peryglon damweiniau mawr sy’n cynnwys sylweddau peryglus(2);
ystyr “Rheoliadau 1992” (“the 1992 Regulations”) yw Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1992(3); ac
mae i “safle niwclear” yr un ystyr ag sydd i “nuclear site” yn adran 112(1) o Ddeddf Ynni 2013(4).
(2) Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriad at ffurflen â rhif yn gyfeiriad at y ffurflen sydd â’r rhif cyfatebol yn Atodlen 3.
(3) Mae Rhannau 1 i 3 o Atodlen 1 (sylweddau peryglus a maintioli sydd dan reolaeth) i’w dehongli yn unol â’r nodiadau i’r Atodlen honno ac mae cyfeiriad yn yr Atodlen honno at nodyn yn gyfeiriad at nodyn yn Rhan 4 o’r Atodlen honno.
(4) Mae cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at Reoliad (EC) Rhif 1272/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 16 Rhagfyr 2008 (“Rheoliad DLPh”) ar ddosbarthu, labelu a phacio sylweddau a chymysgeddau yn gyfeiriadau at y rheoliad hwnnw fel y’i diwygiwyd o bryd i’w gilydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 2 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)
O.J. Rhif L 197, 24.7.2012, t. 1.
O.S. 1992/656; gwnaed diwygiadau perthnasol gan adran 76(7) o Ddeddf Cyfleustodau 2000 (p. 27) a chan O.S. 1999/981, O.S. 2006/1282, O.S. 2996/1283, O.S. 2009/1901, O.S. 2010/1050 ac O.S. 2014/162.