YR ATODLENNI

ATODLEN 1SYLWEDDAU PERYGLUS A’R MAINTIOLI SYDD DAN REOLAETH

RHAN 4Nodiadau i Rannau 1 i 3

I15

Yn achos sylweddau peryglus nad yw’r Rheoliad DLPh yn eu cwmpasu, gan gynnwys gwastraff, ond sydd er hynny yn bresennol neu’n debygol o fod yn bresennol mewn sefydliad ac sy’n meddu ar neu’n debygol o feddu ar nodweddion cyfwerth o ran y potensial am ddamwain fawr, o dan yr amodau a geir yn y sefydliad, rhaid eu neilltuo dros dro i’r categori mwyaf cydweddol neu’r sylwedd peryglus a enwyd mwyaf cydweddol sy’n dod o fewn cwmpas y Rheoliadau hyn.