Search Legislation

Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Cymru) 2015

Newidiadau dros amser i: ATODLEN 2

 Help about opening options

Alternative versions:

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Cymru) 2015. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.

View outstanding changes

Changes and effects yet to be applied to Schedule 2:

Changes and effects yet to be applied to the whole Instrument associated Parts and Chapters:

Whole provisions yet to be inserted into this Instrument (including any effects on those provisions):

Rheoliad 4

ATODLEN 2LL+CESEMPTIADAU

Llwytho, dadlwytho a storio dros droLL+C

1.  Nid yw cydsyniad sylweddau peryglus yn ofynnol ar gyfer presenoldeb dros dro sylwedd peryglus ar, uwchben neu oddi tan dir pan fo’r presenoldeb hwnnw yn ymwneud yn uniongyrchol â chludo sylweddau peryglus ar y ffordd, ar drên, ar ddyfrffyrdd mewnol, ar y môr neu yn yr awyr, y tu allan i sefydliadau sy’n dod o fewn cwmpas y Rheoliadau hyn, gan gynnwys llwytho a dadlwytho a chludo rhwng un cyfrwng cludo i’r llall mewn dociau, ceioedd neu ierdydd trefnu.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

PiblinellauLL+C

2.  Nid yw cydsyniad sylweddau peryglus yn ofynnol ar gyfer presenoldeb sylwedd peryglus sy’n cael ei gludo mewn piblinell, gan gynnwys gorsaf bwmpio, y tu allan i unrhyw dir—

(a)y mae cydsyniad sylweddau peryglus ar gyfer unrhyw sylwedd yn bodoli mewn cysylltiad ag ef;

(b)(heb ystyried maintioli’r sylwedd yn y biblinell neu’r orsaf bwmpio) y mae cydsyniad o’r fath yn ofynnol ar gyfer unrhyw sylwedd mewn cysylltiad â’r tir hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

Dadlwytho oddi ar longau mewn argyfwngLL+C

3.  Nid yw cydsyniad sylweddau peryglus yn ofynnol ar gyfer presenoldeb sylwedd peryglus sydd wedi ei ddadlwytho oddi ar long neu fad môr arall mewn argyfwng hyd nes bod y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y cafodd ei ddadlwytho yn dod i ben.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

4.  At ddiben paragraff 3, mae sylwedd i’w drin fel petai wedi ei ddadlwytho oddi ar fad mewn argyfwng—

(a)os cafodd ei ddadlwytho oddi ar fad yr oedd cyfarwyddyd o dan adran 3(1) o Ddeddf Llestrau Peryglus 1985(1) (cyfarwyddiadau gan yr Ysgrifennydd Gwladol i harbwrfeistr) yn gymwys iddo; neu

(b)os cafodd ei ddadlwytho oddi ar fad ar ôl iddo ddod i mewn i harbwr neu ardal harbwr, o fewn ystyr “harbour” neu “harbour area” yn rheoliad 2 o Reoliadau Sylweddau Peryglus mewn Ardaloedd Harbwr 1987(2), heb fod hysbysiad yn ofynnol o dan baragraff (1) o reoliad 6 o’r Rheoliadau hynny yn rhinwedd esemptiad o dan baragraff (5) o’r rheoliad hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 2 para. 4 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

Safleoedd tirlenwiLL+C

5.  Yn ddarostyngedig i baragraff 7, nid yw cydsyniad sylweddau peryglus yn ofynnol ar gyfer presenoldeb sylwedd peryglus ar, uwchben neu oddi tan dir safle tirlenwi gwastraff, gan gynnwys safle storio gwastraff tanddaearol.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 2 para. 5 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

6.  Nid yw paragraff 5 yn gymwys i—

(a)safle a ddefnyddir ar gyfer storio mercwri metelaidd yn unol ag Erthygl 3(1)(b) o Reoliad (EC) Rhif 1102/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar wahardd allforio mercwri metelaidd a chyfansoddion a chymysgeddau penodol mercwri a storio mercwri metelaidd yn ddiogel(3);

(b)storfeydd nwy tanddaearol yn y tir mewn strata naturiol, dyfrhaenau, ceudodau halen a mwyngloddiau segur;

(c)gweithrediadau prosesu cemegol a thermol a storfeydd sy’n ymwneud â’r gweithrediadau hynny; neu

(d)cyfleusterau gwaredu sorod gweithredol, gan gynnwys pyllau neu argaeau sorod, sy’n cynnwys sylwedd peryglus.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. 2 para. 6 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

Safleoedd niwclearLL+C

7.  Nid yw cydsyniad sylweddau peryglus yn ofynnol ar gyfer presenoldeb sylwedd peryglus sy’n creu perygl o ymbelydredd ïoneiddio os yw’n bresennol ar, uwchben neu oddi tan dir y mae trwydded safle niwclear wedi ei rhoi neu’n ofynnol at ddibenion adran 1 o Ddeddf Safleoedd Niwclear 1965(4) mewn cysylltiad ag ef.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 2 para. 7 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

MwynauLL+C

8.  Nid yw cydsyniad sylweddau peryglus yn ofynnol ar gyfer presenoldeb sylwedd peryglus at ddibenion elwa ar fwynau mewn mwyngloddiau a chwareli, sef chwilio amdanynt, eu hechdynnu a’u prosesu, gan gynnwys drwy gyfrwng tyllau turio, ac eithrio pan fônt yn bresennol mewn cysylltiad â’r materion y cyfeirir atynt ym mharagraff 6(b) i (d) o’r Atodlen hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Atod. 2 para. 8 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

9.  Nid yw cydsyniad sylweddau peryglus yn ofynnol ar gyfer presenoldeb sylwedd peryglus at ddibenion—

(a)chwilio am fwynau yn y môr ac elwa arnynt, gan gynnwys hydrocarbonau; neu

(b)storio nwy mewn safleoedd tanddaearol yn y môr gan gynnwys safleoedd storio dynodedig a safleoedd lle y bydd chwilio ac elwa ar fwynau, gan gynnwys hydrocarbonau.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 2 para. 9 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

FfrwydronLL+C

10.  Nid yw cydsyniad sylweddau peryglus yn ofynnol ar gyfer presenoldeb ffrwydryn o fewn ystyr “explosive” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Ffrwydron 2014(5)

(a)y mae trwydded yn ofynnol ar ei gyfer ac wedi ei rhoi ar ei gyfer o dan y Rheoliadau hynny gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch os yr Awdurdod hwnnw yw’r awdurdod trwyddedu yn rhinwedd—

(i)paragraff 1(b) o Atodlen 1 i’r Rheoliadau hynny mewn achosion pan oedd cydsyniad awdurdod lleol yn ofynnol yn unol â rheoliad 13(3) o’r Rheoliadau hynny neu pan fyddai wedi bod yn ofynnol oni bai am reoliad 13(4)(b), (c), (d), (e), (f) neu (g) o’r Rheoliadau hynny, neu

(ii)paragraff 1(d) o Atodlen 1 i’r Rheoliadau hynny; neu

(b)y mae trwydded yn ofynnol ar ei gyfer ac wedi ei rhoi ar ei gyfer o dan y Rheoliadau hynny gan y Swyddfa dros Reoli Niwclear mewn achosion pan oedd cydsyniad awdurdod lleol yn ofynnol yn unol â rheoliad 13(3) o’r Rheoliadau hynny neu pan fyddai wedi bod yn ofynnol oni bai am reoliad 13(4)(b), (c), (d), (e), (f) neu (g) o’r Rheoliadau hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I10Atod. 2 para. 10 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

11.  Nid yw cydsyniad sylweddau peryglus yn ofynnol pan fo trwydded ar gyfer ffrwydryn o fewn ystyr “explosive” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Sylweddau Peryglus mewn Ardaloedd Harbwr 1987(6) wedi ei dyroddi.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. 2 para. 11 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

Presenoldeb sylweddau sefydledigLL+C

12.  Nid yw cydsyniad sylweddau peryglus yn ofynnol mewn perthynas â sylwedd peryglus sydd ar, uwchben neu oddi tan unrhyw dir (“y sylwedd perthnasol”)—

(a)os oedd y sylwedd perthnasol yn bresennol ar, uwchben neu oddi tan y tir ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod sefydlu;

(b)os nad oedd cydsyniad sylweddau peryglus yn ofynnol ar gyfer presenoldeb y sylwedd perthnasol ar yr adeg yr oedd yn bresennol yn ystod y cyfnod sefydlu; ac

(c)pe byddai cydsyniad sylweddau peryglus wedi bod yn ofynnol ar gyfer presenoldeb y sylwedd perthnasol petai’r Rheoliadau hyn wedi bod mewn grym ar yr adeg honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I12Atod. 2 para. 12 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

13.  Nid yw paragraff 12 yn gymwys pan fo maintioli’r sylwedd perthnasol yn fwy nag uchafswm maintioli’r sylwedd perthnasol a oedd yn bresennol ar, uwchben neu oddi tan y tir ar unrhyw un adeg yn ystod y cyfnod sefydlu.

Gwybodaeth Cychwyn

I13Atod. 2 para. 13 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

Presenoldeb sylweddau sydd wedi eu hesemptioLL+C

14.  Nid yw presenoldeb sylwedd y mae esemptiad wedi ei ddarparu ar ei gyfer o dan baragraffau 1 i 13 i’w ystyried wrth gyfrifo maintioli’r sylwedd peryglus sy’n bresennol ar, uwchben neu oddi tan dir at unrhyw ddiben o’r DCSP neu’r Rheoliadau hyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I14Atod. 2 para. 14 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

Presenoldeb maintioli bach o sylweddauLL+C

15.  Nid yw presenoldeb maintioli o sylwedd peryglus—

(a)mewn lleoliad lle nad yw’n gallu achosi damwain fawr mewn man arall ar y safle perthnasol, a

(b)sy’n gyfwerth â dau y cant neu lai o’r maintioli perthnasol sydd dan reolaeth ar gyfer y sylwedd hwnnw,

i’w ystyried wrth gyfrifo maintioli’r sylwedd peryglus sy’n bresennol ar, uwchben neu oddi tan dir at unrhyw ddiben o’r DCSP neu’r Rheoliadau hyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I15Atod. 2 para. 15 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

Mân newidiadau i fathau a maintioli o sylweddauLL+C

16.  Pan fo’r amodau ym mharagraff 17 wedi eu bodloni, nid yw cydsyniad sylweddau peryglus yn ofynnol ar gyfer mân newid perthnasol.

Gwybodaeth Cychwyn

I16Atod. 2 para. 16 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

17.  Yr amodau yw—

(a)cyn bod y mân newid perthnasol yn digwydd, bod yr awdurdod sylweddau peryglus yn cael oddi wrth yr awdurdod COMAH cymwys hysbysiad ysgrifenedig y mae’n rhaid i’r awdurdod COMAH cymwys wneud copi ohono ar gyfer y person sy’n rheoli’r tir y mae’r cydsyniad sylweddau peryglus dan sylw yn ymwneud ag ef, yn cadarnhau—

(i)manylion y mân newid perthnasol, gan gynnwys manylion am sut i gadw a defnyddio sylweddau;

(ii)na fydd y mân newid perthnasol yn arwain at newid o ran perygl diogelwch; a

(iii)na fydd y mân newid perthnasol yn arwain at sefydliad haen is yn dod yn sefydliad haen uwch neu i’r gwrthwyneb; a

(b)bod unrhyw sylweddau peryglus a gedwir heb gydsyniad sylweddau peryglus gan ddibynnu ar yr esemptiad hwn yn cael eu cadw a’u defnyddio yn unol â’r manylion a nodir yn yr hysbysiad oddi wrth yr awdurdod COMAH cymwys.

Gwybodaeth Cychwyn

I17Atod. 2 para. 17 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

Dehongli’r Atodlen honLL+C

18.  Yn yr Atodlen hon—

ystyr “cyfnod sefydlu” (“establishment period”) yw’r cyfnod o 12 wythnos sy’n dod i ben ar—

(a)

4 Medi 2015; neu

(b)

(os yw’n hwyrach) y dyddiad yr oedd y cydsyniad sylweddau peryglus yn ofynnol yn gyntaf ar gyfer y sylwedd perthnasol;

ystyr “mân newid perthnasol” (“relevant minor change”) yw newid i’r maintioli neu’r math o sylweddau peryglus sy’n bresennol mewn, ar neu oddi tan dir y mae cydsyniad sylweddau peryglus yn bodoli mewn perthynas ag ef, pan fyddai cydsyniad sylweddau peryglus yn ofynnol ar gyfer y newid hwnnw oni bai am yr Atodlen hon;

ystyr “newid o ran perygl diogelwch” (“safety hazard change”) yw newid i ardal y mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch neu’r Swyddfa dros Reoli Niwclear wedi hysbysu awdurdod cynllunio lleol amdano at ddibenion paragraffau (c) neu (ca) o’r Tabl yn Atodlen 4 i Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012(7) pan fo’r newid hwnnw yn arwain at—

(a)

yr ardal honno yn cwmpasu tir nad oedd yn ei gwmpasu yn flaenorol; neu

(b)

pan fo’r hysbysiad am yr ardal honno wedi nodi parthau o fewn yr ardal honno sy’n cyfateb i lefelau risg, ehangu unrhyw barth o’r fath.

Gwybodaeth Cychwyn

I18Atod. 2 para. 18 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

19.  Mae i ymadroddion sy’n ymddangos yn yr Atodlen hon ac yn y Gyfarwyddeb yr un ystyr at ddibenion yr Atodlen hon ag a roddir iddynt at ddibenion y Gyfarwyddeb.

Gwybodaeth Cychwyn

I19Atod. 2 para. 19 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

(2)

O.S. 1987/37, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(3)

O.J. Rhif L 304, 14.11.2008; t. 75.

(4)

1965 p. 57; amnewidiwyd adran 1 gan baragraffau 16 a 17 o Atodlen 12 i Ddeddf Ynni 2013 (p. 32).

(5)

O.S. 2014/1638. Mae yna newidiadau i’r rheoliad hwn nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(6)

O.S. 1987/37. Diwyglwyd rheoliad 2(1) gan erthygl 6(2) o O.S. 2014/469 a pharagraffau 37 a 38(b) o Ran 3 o Atodlen 3 iddo. Mae yna newidiadau eraill i’r rheoliad hwn nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources