Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 04/09/2015.
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Cymru) 2015. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.
Rheoliad 35
1.—(1) Mae Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynlluniau Datblygu Lleol) (Cymru) 2005(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 13 (cynllun datblygu lleol: materion ychwanegol y dylid rhoi sylw iddynt)—
(a)yn lle paragraff (1)(c) rhodder—
“(c)amcanion atal damweiniau mawr a chyfyngu ar ganlyniadau damweiniau o’r fath ar iechyd dynol a’r amgylchedd drwy fynd ar drywydd yr amcanion hynny drwy’r rheolaethau a ddisgrifir yn Erthygl 13 o Gyfarwyddeb 2012/18/EU;”;
(b)yn lle paragraff (ch) rhodder—
“(ch)yr angen, yn y tymor hir—
(i)i gadw pellteroedd diogelwch priodol rhwng sefydliadau ac ardaloedd preswyl, adeiladau ac ardaloedd a ddefnyddir gan y cyhoedd, ardaloedd hamdden, a, chyn belled â phosibl, lwybrau trafnidiaeth pwysig;
(ii)i warchod ardaloedd o sensitifrwydd naturiol penodol neu o ddiddordeb penodol yng nghyffiniau’r sefydliadau, pan fo hynny’n briodol drwy bellteroedd diogelwch priodol neu fesurau perthnasol eraill;
(iii)yn achos sefydliadau sy’n bodoli eisoes, i gymryd mesurau technegol ychwanegol yn unol ag Erthygl 5 o Gyfarwyddeb 2012/18/EU er mwyn peidio â chynyddu’r risgiau i iechyd dynol a’r amgylchedd.”;
(c)ym mharagraff (2), yn lle “yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 96/82/EC (fel y’i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2003/105/EC)” rhodder “yng Nghyfarwyddeb 2012/18/EU”.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 5 para. 1 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)
2.—(1) Mae Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012(2) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn y Tabl yn Atodlen 4 (ymgyngoriadau cyn rhoi caniatâd cynllunio), ym mharagraff (s)—
(a)yn lle’r geiriau yn yr ail golofn (disgrifiad o’r datblygiad) rhodder—
“Datblygiad—
(i)sy’n cynnwys lleoli sefydliadau newydd;
(ii)sy’n cynnwys addasiadau i sefydliadau presennol y mae Erthygl 11 o Gyfarwyddeb 2012/18/EU yn eu cwmpasu; neu
(iii)sy’n newydd, gan gynnwys llwybrau trafnidiaeth, lleoliadau a ddefnyddir gan y cyhoedd ac ardaloedd preswyl yng nghyffiniau sefydliadau presennol, lle gallai’r lleoliad neu’r datblygiad fod yn ffynhonnell y risg o ddamwain fawr, neu gynyddu’r risg neu ganlyniadau damwain fawr.”;
(b)yn lle’r geiriau yn y drydedd golofn (ymgynghorai) rhodder—
““Awdurdod COMAH cymwys, ac mewn perthynas â datblygiad sy’n dod o fewn paragraff (iii), unrhyw berson sydd, yn ôl y gofrestr a gedwir gan yr awdurdod sylweddau peryglus o dan reoliad 22 o Reoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Cymru) 2015, y person sy’n rheoli’r tir y mae unrhyw sefydliad presennol dan sylw wedi ei leoli arno”;”;
(c)yn Atodlen 4 yn y paragraff sy’n delio â Dehongli’r Tabl, yn lle paragraff (ng) rhodder—
“(ng)ym mharagraff (s)—
(i)mae i’r ymadroddion a ddefnyddir yn y paragraff hwnnw ac yng Nghyfarwyddeb 2012/18/EU yr un ystyr ag a roddir i’r ymadroddion Saesneg cyfatebol yn y Gyfarwyddeb honno; a
(ii)ystyr “awdurdod COMAH cymwys” (“COMAH competent authority”) yw—
(aa)mewn perthynas â safle niwclear perthnasol, y Swyddfa dros Reoli Niwclear a Chorff Adnoddau Naturiol Cymru yn gweithredu ar y cyd;
(bb)fel arall, yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a Chorff Adnoddau Naturiol Cymru yn gweithredu ar y cyd.”
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. 5 para. 2 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)
O.S. 2005/2839 (Cy. 203), y mae iddo ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: