xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

YR ATODLENNI

Rheoliad 35

ATODLEN 5DIWYGIADAU I DDEDDFWRIAETH

Diwygio Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynlluniau Datblygu Lleol) (Cymru) 2005

1.—(1Mae Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynlluniau Datblygu Lleol) (Cymru) 2005(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 13 (cynllun datblygu lleol: materion ychwanegol y dylid rhoi sylw iddynt)—

(a)yn lle paragraff (1)(c) rhodder—

(c)amcanion atal damweiniau mawr a chyfyngu ar ganlyniadau damweiniau o’r fath ar iechyd dynol a’r amgylchedd drwy fynd ar drywydd yr amcanion hynny drwy’r rheolaethau a ddisgrifir yn Erthygl 13 o Gyfarwyddeb 2012/18/EU;;

(b)yn lle paragraff (ch) rhodder—

(ch)yr angen, yn y tymor hir—

(i)i gadw pellteroedd diogelwch priodol rhwng sefydliadau ac ardaloedd preswyl, adeiladau ac ardaloedd a ddefnyddir gan y cyhoedd, ardaloedd hamdden, a, chyn belled â phosibl, lwybrau trafnidiaeth pwysig;

(ii)i warchod ardaloedd o sensitifrwydd naturiol penodol neu o ddiddordeb penodol yng nghyffiniau’r sefydliadau, pan fo hynny’n briodol drwy bellteroedd diogelwch priodol neu fesurau perthnasol eraill;

(iii)yn achos sefydliadau sy’n bodoli eisoes, i gymryd mesurau technegol ychwanegol yn unol ag Erthygl 5 o Gyfarwyddeb 2012/18/EU er mwyn peidio â chynyddu’r risgiau i iechyd dynol a’r amgylchedd.;

(c)ym mharagraff (2), yn lle “yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 96/82/EC (fel y’i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2003/105/EC)” rhodder “yng Nghyfarwyddeb 2012/18/EU”.

Diwygio Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012

2.—(1Mae Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012(2) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn y Tabl yn Atodlen 4 (ymgyngoriadau cyn rhoi caniatâd cynllunio), ym mharagraff (s)—

(a)yn lle’r geiriau yn yr ail golofn (disgrifiad o’r datblygiad) rhodder—

Datblygiad—

(i)sy’n cynnwys lleoli sefydliadau newydd;

(ii)sy’n cynnwys addasiadau i sefydliadau presennol y mae Erthygl 11 o Gyfarwyddeb 2012/18/EU yn eu cwmpasu; neu

(iii)sy’n newydd, gan gynnwys llwybrau trafnidiaeth, lleoliadau a ddefnyddir gan y cyhoedd ac ardaloedd preswyl yng nghyffiniau sefydliadau presennol, lle gallai’r lleoliad neu’r datblygiad fod yn ffynhonnell y risg o ddamwain fawr, neu gynyddu’r risg neu ganlyniadau damwain fawr.;

(b)yn lle’r geiriau yn y drydedd golofn (ymgynghorai) rhodder—

“Awdurdod COMAH cymwys, ac mewn perthynas â datblygiad sy’n dod o fewn paragraff (iii), unrhyw berson sydd, yn ôl y gofrestr a gedwir gan yr awdurdod sylweddau peryglus o dan reoliad 22 o Reoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Cymru) 2015, y person sy’n rheoli’r tir y mae unrhyw sefydliad presennol dan sylw wedi ei leoli arno”;;

(c)yn Atodlen 4 yn y paragraff sy’n delio â Dehongli’r Tabl, yn lle paragraff (ng) rhodder—

(ng)ym mharagraff (s)—

(i)mae i’r ymadroddion a ddefnyddir yn y paragraff hwnnw ac yng Nghyfarwyddeb 2012/18/EU yr un ystyr ag a roddir i’r ymadroddion Saesneg cyfatebol yn y Gyfarwyddeb honno; a

(ii)ystyr “awdurdod COMAH cymwys” (“COMAH competent authority”) yw—

(aa)mewn perthynas â safle niwclear perthnasol, y Swyddfa dros Reoli Niwclear a Chorff Adnoddau Naturiol Cymru yn gweithredu ar y cyd;

(bb)fel arall, yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a Chorff Adnoddau Naturiol Cymru yn gweithredu ar y cyd.

(1)

O.S. 2005/2839 (Cy. 203), y mae iddo ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.