Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Cymru) 2015

Diwygio Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012

2.—(1Mae Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012(1) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn y Tabl yn Atodlen 4 (ymgyngoriadau cyn rhoi caniatâd cynllunio), ym mharagraff (s)—

(a)yn lle’r geiriau yn yr ail golofn (disgrifiad o’r datblygiad) rhodder—

Datblygiad—

(i)sy’n cynnwys lleoli sefydliadau newydd;

(ii)sy’n cynnwys addasiadau i sefydliadau presennol y mae Erthygl 11 o Gyfarwyddeb 2012/18/EU yn eu cwmpasu; neu

(iii)sy’n newydd, gan gynnwys llwybrau trafnidiaeth, lleoliadau a ddefnyddir gan y cyhoedd ac ardaloedd preswyl yng nghyffiniau sefydliadau presennol, lle gallai’r lleoliad neu’r datblygiad fod yn ffynhonnell y risg o ddamwain fawr, neu gynyddu’r risg neu ganlyniadau damwain fawr.;

(b)yn lle’r geiriau yn y drydedd golofn (ymgynghorai) rhodder—

“Awdurdod COMAH cymwys, ac mewn perthynas â datblygiad sy’n dod o fewn paragraff (iii), unrhyw berson sydd, yn ôl y gofrestr a gedwir gan yr awdurdod sylweddau peryglus o dan reoliad 22 o Reoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Cymru) 2015, y person sy’n rheoli’r tir y mae unrhyw sefydliad presennol dan sylw wedi ei leoli arno”;;

(c)yn Atodlen 4 yn y paragraff sy’n delio â Dehongli’r Tabl, yn lle paragraff (ng) rhodder—

(ng)ym mharagraff (s)—

(i)mae i’r ymadroddion a ddefnyddir yn y paragraff hwnnw ac yng Nghyfarwyddeb 2012/18/EU yr un ystyr ag a roddir i’r ymadroddion Saesneg cyfatebol yn y Gyfarwyddeb honno; a

(ii)ystyr “awdurdod COMAH cymwys” (“COMAH competent authority”) yw—

(aa)mewn perthynas â safle niwclear perthnasol, y Swyddfa dros Reoli Niwclear a Chorff Adnoddau Naturiol Cymru yn gweithredu ar y cyd;

(bb)fel arall, yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a Chorff Adnoddau Naturiol Cymru yn gweithredu ar y cyd.