YR ATODLENNI

ATODLEN 1SYLWEDDAU PERYGLUS A’R MAINTIOLI SYDD DAN REOLAETH

Rheoliad 3

I57RHAN 1Categorïau o sylweddau

Annotations:
Commencement Information
I57

Atod. 1 Rhn. 1 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

Mae’r Rhan hon yn cwmpasu pob sylwedd peryglus sy’n perthyn i’r categorïau perygl a restrir yng Ngholofn 1:

Colofn 1

Colofn 2

Categorïau perygl yn unol â’r Rheoliad DLPh

Maintioli sydd dan reolaeth mewn tunelli

Adran ‘H’ - PERYGLON I IECHYD

H1 GWENWYNIG ACÍWT Categori 1, pob llwybr amlygu

5

H2 GWENWYNIG ACÍWT

— Categori 2, pob llwybr amlygu

— Categori 3, llwybr amlygu anadlu (gweler nodyn 7)

50

H3 GPOD GWENWYNDRA PENODOL ORGAN DARGED - AMLYGIAD UNIGOL GPOD AU Categori 1

50

Adran ‘P’ – PERYGLON CORFFOROL

P1a FFRWYDRON (gweler nodyn 8)

— Ffrwydron ansefydlog neu

— Ffrwydron, Is-adran 1.1, 1.2, 1.3, 1.5 neu 1.6, neu

— Sylweddau neu gymysgeddau sydd â nodweddion ffrwydrol yn ôl dull A.14 o Reoliad

(EC) Rhif 440/2008 (gweler nodyn 9) ac nad ydynt yn perthyn i’r dosbarthiadau perygl perocsidau Organig na sylweddau a chymysgeddau Hunanadweithiol

10

P1b FFRWYDRON (gweler nodyn 8)

Ffrwydron, Is-adran 1.4 (gweler nodyn 10)

50

P2 NWYON FFLAMADWY Nwyon Fflamadwy, Categori 1 neu 2

10

P3a EROSOLAU FFLAMADWY (gweler nodyn 11.1) Erosolau ‘fflamadwy’ Categori 1 neu 2, sy’n cynnwys nwyon fflamadwy Categori 1 neu 2 neu hylifau fflamadwy Categori 1

150 (net)

P3b EROSOLAU FFLAMADWY (gweler nodyn 11.1) Erosolau ‘fflamadwy’ Categori 1 neu 2, nad ydynt yn cynnwys nwyon fflamadwy Categori 1 na 2 na hylifau fflamadwy Categori 1 (gweler nodyn 11.2)

5,000 (net)

P4 NWYON SY’N OCSIDIO

Nwyon sy’n ocsidio, Categori 1

50

P5a HYLIFAU FFLAMADWY

— Hylifau fflamadwy, Categori 1, neu

— Hylifau fflamadwy Categori 2 neu 3 a gynhelir ar dymheredd uwchlaw eu berwbwynt, neu

— Hylifau eraill sydd â fflachbwynt ≤ 60 °C, a gynhelir ar dymheredd uwchlaw eu berwbwynt (gweler nodyn 12)

10

P5b HYLIFAU FFLAMADWY

— Hylifau fflamadwy Categori 2 neu 3 pan fo amodau prosesu penodol, fel gwasgedd uchel neu dymheredd uchel, yn gallu creu peryglon o ran damwain fawr, neu

— Hylifau eraill sydd â fflachbwynt ≤ 60 °C pan fo amodau prosesu penodol, fel gwasgedd uchel neu dymheredd uchel, yn gallu creu peryglon o ran damwain fawr (gweler nodyn 12)

50

P5c HYLIFAU FFLAMADWY

Hylifau fflamadwy, Categorïau 2 neu 3 nad yw P5a na P5b yn eu cwmpasu

5,000

P6a SYLWEDDAU A CHYMYSGEDDAU HUNANADWEITHIOL a PHEROCSIDAU ORGANIG

Sylweddau a chymysgeddau hunanadweithiol, Math A neu B neu berocsidau organig, Math A neu B

10

P6b SYLWEDDAU A CHYMYSGEDDAU HUNANADWEITHIOL a PHEROCSIDAU ORGANIG

Sylweddau a chymysgeddau hunanadweithiol, Math C, D, E neu F neu berocsidau organig, Math C, D, E neu F

50

P7 HYLIFAU A SOLIDAU PYROFFORIG

Hylifau pyrofforig, Categori 1

Solidau pyrofforig, Categori 1

50

P8 HYLIFAU A SOLIDAU SY’N OCSIDIO

Hylifau sy’n Ocsidio, Categori 1, 2 neu 3, neu

Solidau sy’n Ocsidio, Categori 1, 2 neu 3

50

Adran ‘E’ – PERYGLON AMGYLCHEDDOL

E1 Peryglus i’r Amgylchedd Dyfrol yng Nghategori Acíwt 1 neu Gronig 1

100

E2 Peryglus i’r Amgylchedd Dyfrol yng Nghategori Cronig 2

200

Adran ‘O’ – PERYGLON ERAILL

O1 Sylweddau neu gymysgeddau sydd â datganiad perygl EUH014

100

O2 Sylweddau a chymysgeddau sy’n rhyddhau nwyon fflamadwy wrth ddod i gyswllt â dŵr, Categori 1

100

O3 Sylweddau neu gymysgeddau sydd â datganiad perygl EUH029

50

I58RHAN 2Sylweddau peryglus a enwir

Annotations:
Commencement Information
I58

Atod. 1 Rhn. 2 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

Colofn 1

Rhif CAS (1)

Colofn 2

Sylweddau peryglus

Maintioli sydd dan reolaeth (tunelli)

1. Amoniwm nitrad (gweler nodyn 13)

-

5000

2. Amoniwm nitrad (gweler nodyn 14)

-

1,250

3. Amoniwm nitrad (gweler nodyn 15)

-

350

4. Amoniwm nitrad (gweler nodyn 16)

-

10

5. Potasiwm nitrad (gweler nodyn 17)

-

5,000

6. Potasiwm nitrad (gweler nodyn 18)

-

1,250

7. Arsenig pentocsid, asid a/neu halwynau arsenig (V)

1303-28-2

1

8. Arsenig triocsid, asid a/neu halwynau arsenaidd (III)

1327-53-3

0.1

9. Bromin

7726-95-6

20

10. Clorin

7782-50-5

10

11. Cyfansoddion nicel ar ffurf powdwr y gellir ei anadlu i mewn: nicel monocsid, nicel deuocsid, nicel sylffid, trinicel deusylffid, deunicel triocsid

-

1

12. Ethylenamin

151-56-4

10

13. Fflworin

7782-41-4

10

14. Fformaldehyd (crynodiad ≥ 90%)

50-00-0

5

15. Hydrogen

1333-74-0

2

16. Hydrogen clorid (nwy hylifedig)

7647-01-0

25

17. Alcylau plwm

-

5

18. Nwyon fflamadwy hylifedig, Categori 1 neu 2 (gan gynnwys NPH) a nwy naturiol (gan gynnwys Nwy Naturiol Hylifedig) (gweler nodyn 19)

-

Nwy Naturiol (gan gynnwys Nwy Naturiol Hylifedig) (NNH): 15

Nwy Petrolewm Hylifedig (NPH): 25

Unrhyw nwyon fflamadwy hylifedig eraill: 50

19. Asetylen

74-86-2

5

20. Ethylen ocsid

75-21-8

5

21. Propylen ocsid

75-56-9

5

22. Methanol

67-56-1

500

23. 4, 4′-Methylen bis (2-cloranylen) a/neu halwynau, ar ffurf powdwr

101-14-4

0.01

24. Methylisocyanad

624-83-9

0.15

25. Ocsigen

7782-44-7

200

26. 2,4 -Tolwen deuisocyanad

2,6 -Tolwen deuisocyanad

584-84-9

91-08-7

10

27. Carbonyl deuclorid (ffosgen)

75-44-5

0.3

28. Arsin (arsenig trihydrid)

7784-42-1

0.2

29. Ffosffin (trihydrad ffosfforaidd)

7803-51-2

0.2

30. Sylffwr deuclorid

10545-99-0

1

31. Sylffwr triocsid

7446-11-9

15

32. Polyclorodeubensoffwranau a pholyclorodeubensodeuocsinau (gan gynnwys TCDD), wedi’u cyfrifo mewn TCDD cyfwerth (gweler nodyn 20)

-

0.001

33. Y CARSINOGENAU a ganlyn neu’r cymysgeddau sy’n cynnwys y carsinogenau a ganlyn mewn crynodiadau uwch na 5% yn ôl pwysau: 4-Aminobiffenyl a/neu ei halwynau, Bensotriclorid, Bensidin a/neu halwynau, Bis (cloromethyl) ether, Cloromethyl methyl ether, 1,2-Deubromoethan, Deuethyl sylffad, Deumethyl sylffad, Deumethylcarbamoyl clorid, 1,2-Deubromo-3-cloropropan, 1,2-Deumethylhydrasin, Deumethylnitrosamin, Hecsamethylffosfforig triamid, Hydrasin, 2- Naffthylamin a/neu halwynau, 4-Nitrodeuffenyl, ac 1,3 Propaneswlton

-

0.5

34. Cynhyrchion petrolewm a thanwyddau amgen (a) gasolinau a naffthau, (b) cerosinau (gan gynnwys tanwyddau jet), (c) olewau nwy (gan gynnwys tanwyddau disel, olewau cynhesu’r cartref a ffrydiau cymysgu olew nwy) (d) olewau tanwydd trwm (e) tanwyddau amgen sy’n diwallu’r un dibenion ac sydd â nodweddion tebyg o ran fflamadwyedd a pheryglon amgylcheddol i’r cynhyrchion y cyfeirir atynt ym mhwyntiau (a) i (d)

-

2,500

35. Amonia Anhydrus

7664-41-7

50

36. Boron trifflworid

7637-07-2

5

37. Hydrogen sylffid

7783-06-4

5

38. Piperidin

110-89-4

50

39. Bis(2-deumethylaminoethyl) (methyl)amin

3030-47-5

50

40. 3-(2-Ethylhecsylocsi)propylamin

5397-31-9

50

41. Cymysgeddau (*) o sodiwm hypoclorit sydd wedi eu dosbarthu fel Dyfrol Acíwt Categori 1 [H400] sy’n cynnwys llai na 5% o glorin actif ac nad ydynt wedi eu dosbarthu o dan unrhyw un neu ragor o’r categorïau perygl eraill yn Rhan 1 o Atodlen 1.

(*) Ar yr amod na fyddai’r cymysgedd yn absenoldeb sodiwm hypoclorit yn cael ei ddosbarthu fel Dyfrol Acíwt Categori 1 [H400].

200

42. Propylamin (gweler nodyn 21)

107-10-8

500

43. Tert-biwtyl acrylad (gweler nodyn 21)

1663-39-4

200

44. 2-Methyl-3-biwtenenitril (gweler nodyn 21)

16529-56-9

500

45. Tetrahydro-3,5-deumethyl-1,3,5,-thiadiasin-2-thione (Dasomet) (gweler nodyn 21)

533-74-4

100

46. Methyl acrylad (gweler nodyn 21)

96-33-3

500

47. 3-Methylpyridin (gweler nodyn 21)

108-99-6

500

48. 1-Bromo-3-cloropropan (gweler nodyn 21)

109-70-6

500

I59RHAN 3Sylweddau a ddefnyddir mewn proses gemegol ddiwydiannol

Annotations:
Commencement Information
I59

Atod. 1 Rhn. 3 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

Colofn 1 Sylweddau Peryglus

Colofn 2 Maintioli sydd dan reolaeth

Pan fo’n rhesymol rhagweld y gall sylwedd sy’n dod o fewn Rhan 1 neu Ran 2 (“SP”) gael ei gynhyrchu wrth golli rheolaeth ar y prosesau, gan gynnwys gweithgareddau storio mewn unrhyw osodiad o fewn sefydliad, unrhyw sylwedd a ddefnyddir yn y broses honno (“S”).

Maintioli S y credir y gallai gynhyrchu (ar ei ben ei hun neu ar y cyd â sylweddau eraill a ddefnyddir yn y broses berthnasol) swm cyfwerth â’r maintioli sydd dan reolaeth neu fwy o’r SP dan sylw.

(Gweler nodyn 23)

RHAN 4Nodiadau i Rannau 1 i 3

I11

Caiff sylweddau a chymysgeddau eu dosbarthu yn unol â’r Rheoliad DLPh32.

Annotations:
Commencement Information
I1

Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

I22

Rhaid trin cymysgeddau yn yr un ffordd â sylweddau pur ar yr amod eu bod yn parhau o fewn terfynau crynodiad a bennwyd yn unol â’u nodweddion o dan y Rheoliad DLPh, neu ei addasiad diweddaraf i gynnydd technegol, oni bai y rhoddir yn benodol gyfansoddiad canrannol neu ddisgrifiad arall.

Annotations:
Commencement Information
I2

Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

I33

Mae’r maintioli sydd dan reolaeth a bennir yn Rhannau 1 i 3 o’r Atodlen hon yn berthnasol i bob sefydliad.

Y maintioli sydd i’w ystyried ar gyfer cymhwyso’r Rheoliadau hyn yw’r maintioli mwyaf sy’n bresennol neu’n debygol o fod yn bresennol ar unrhyw un adeg.

Annotations:
Commencement Information
I3

Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

I44

Mae’r rheol a ganlyn sy’n rheoli ychwanegu sylweddau peryglus, neu gategorïau o sylweddau peryglus, yn gymwys pan fo’n briodol.

Yn achos sefydliad pan na fo unrhyw sylwedd peryglus unigol yn bresennol o faintioli uwchlaw neu gyfwerth â’r maintioli sydd dan reolaeth perthnasol, rhaid cymhwyso’r rheol a ganlyn er mwyn penderfynu a yw gofynion perthnasol y Rheoliadau hyn yn cwmpasu’r sefydliad.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i sefydliadau os yw swm q1QL1+q2QL2+q3QL3+q4QL4+q5QL5+math
  • pan fo

  • qX = maintioli’r sylwedd peryglus X (neu gategori o sylweddau peryglus) sy’n dod o fewn Rhan 1 neu Ran 2 o’r Atodlen hon; a

  • QLX = y maintioli sydd dan reolaeth perthnasol ar gyfer sylwedd peryglus neu gategori X o Golofn 2 o Ran 1 neu o Golofn 2 o Ran 2 o’r Atodlen hon, ac eithrio fel a nodir yn y paragraff a ganlyn.

  • At ddibenion cyfrifo QLX yn unig, pan fo’r sylwedd peryglus yn un a bennir yng ngholofn 1 o’r tabl a ganlyn, mae’r maintioli sydd dan reolaeth perthnasol fel sydd wedi ei nodi yng ngholofn 2 o’r tabl A a ganlyn:

    Tabl A

    Colofn 1

    Rhif CAS

    Colofn 2

    15. Hydrogen

    1333-74-0

    5

    18. Nwyon fflamadwy hylifedig, Categori 1 neu 2 (gan gynnwys NPH) a nwy naturiol (gan gynnwys mwy naturiol hylifedig)

    -

    50

Rhaid defnyddio’r rheol hon i asesu’r peryglon i iechyd, y peryglon corfforol a’r peryglon amgylcheddol. Rhaid ei chymhwyso dair gwaith felly—

a

ar gyfer ychwanegu sylweddau peryglus a restrir yn Rhan 2 sy’n dod o fewn categori gwenwyndra acíwt 1, 2 neu 3 (llwybr anadlu) neu GPOD AU categori 1, ynghyd â sylweddau peryglus sy’n dod o fewn adran H, cofnodion H1 i H3 o Ran 1;

b

ar gyfer ychwanegu sylweddau peryglus a restrir yn Rhan 2 sy’n ffrwydron, nwyon fflamadwy, erosolau fflamadwy, nwyon sy’n ocsidio, hylifau fflamadwy, sylweddau a chymysgeddau hunanadweithiol, perocsidau organig, hylifau a solidau pyrofforig, hylifau a solidau sy’n ocsidio, ynghyd â sylweddau peryglus sy’n dod o fewn adran P, cofnodion P1 i P8 o Ran 1;

c

ar gyfer ychwanegu sylweddau peryglus a restrir yn Rhan 2 sy’n dod o fewn categori acíwt 1 peryglus i’r amgylchedd dyfrol, categori cronig 1 neu gategori cronig 2, ynghyd â sylweddau peryglus sy’n dod o fewn adran E, cofnodion E1 ac E2 o Ran 1.

Mae darpariaethau perthnasol y Rheoliadau hyn yn gymwys pan fo unrhyw un neu ragor o’r symiau a geir drwy (a), (b) neu (c) yn fwy nag 1 neu’n gyfwerth ag 1.

Annotations:
Commencement Information
I4

Atod. 1 para. 4 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

I55

Yn achos sylweddau peryglus nad yw’r Rheoliad DLPh yn eu cwmpasu, gan gynnwys gwastraff, ond sydd er hynny yn bresennol neu’n debygol o fod yn bresennol mewn sefydliad ac sy’n meddu ar neu’n debygol o feddu ar nodweddion cyfwerth o ran y potensial am ddamwain fawr, o dan yr amodau a geir yn y sefydliad, rhaid eu neilltuo dros dro i’r categori mwyaf cydweddol neu’r sylwedd peryglus a enwyd mwyaf cydweddol sy’n dod o fewn cwmpas y Rheoliadau hyn.

Annotations:
Commencement Information
I5

Atod. 1 para. 5 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

I66

Yn achos sylweddau peryglus sydd â nodweddion sy’n arwain at fwy nag un dosbarthiad, at ddibenion y Rheoliadau hyn mae’r maintioli isaf sydd dan reolaeth yn gymwys. Fodd bynnag, ar gyfer cymhwyso’r rheol yn Nodyn 4, rhaid defnyddio’r maintioli isaf sydd dan reolaeth ar gyfer pob grŵp o gategorïau yn Nodiadau 4(a), 4(b) a 4(c) sy’n cyfateb i’r dosbarthiad dan sylw.

Annotations:
Commencement Information
I6

Atod. 1 para. 6 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

I77

Mae sylweddau peryglus sy’n dod o fewn Categori 3 Gwenwynig Acíwt drwy lwybr y geg (H 301) yn dod o dan gofnod H2 GWENWYNIG ACÍWT yn yr achosion hynny pan na ellir cael dosbarthiad gwenwyndra anadlu acíwt na dosbarthiad gwenwyndra croenol acíwt, er enghraifft oherwydd diffyg data pendant ynghylch gwenwyndra’r llwybr anadlu a chroenol.

Annotations:
Commencement Information
I7

Atod. 1 para. 7 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

I88

Mae’r dosbarth perygl Ffrwydron yn cynnwys eitemau ffrwydrol (gweler Adran 2.1 o Atodiad I i’r Rheoliad DLPh). Os yw maintioli’r sylwedd neu’r cymysgedd ffrwydrol sydd wedi ei gynnwys yn yr eitem yn wybyddus, rhaid ystyried y maintioli hwnnw at ddibenion y Rheoliadau hyn. Os nad yw maintioli’r sylwedd neu’r cymysgedd ffrwydrol sydd wedi ei gynnwys yn yr eitem yn wybyddus, yna, at ddibenion y Rheoliadau hyn, rhaid trin yr eitem gyfan fel un ffrwydrol.

Annotations:
Commencement Information
I8

Atod. 1 para. 8 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

I99

Nid oes angen profi ar gyfer nodweddion ffrwydrol sylweddau a chymysgeddau onid yw’r weithdrefn sgrinio yn unol ag Atodiad 6, Rhan 3 o Argymhellion y Cenhedloedd Unedig ar Gludo Nwyddau Peryglus, y Llawlyfr Profion a Meini Prawf (Llawlyfr Profion a Meini Prawf y Cenhedloedd Unedig)33 yn nodi bod potensial bod y sylwedd neu’r cymysgedd yn meddu ar nodweddion ffrwydrol.

Annotations:
Commencement Information
I9

Atod. 1 para. 9 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

I1010

Os caiff Ffrwydron sy’n perthyn i Is-adran 1.4 eu dadbacio neu eu hailbacio, rhaid eu neilltuo i’r cofnod P1a, oni bai y dangosir bod y perygl yn dal i gyfateb i Is-adran 1.4, yn unol â’r Rheoliad DLPh.

Annotations:
Commencement Information
I10

Atod. 1 para. 10 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

I1111

1

Caiff erosolau fflamadwy eu dosbarthu yn unol â Chyfarwyddeb y Cyngor 75/324/EEC dyddiedig 20 Mai 1975 ar gyd-ddynesiad cyfreithiau’r Aelod-wladwriaethau yn ymwneud â chyflenwyr erosol34 (Y Gyfarwyddeb Cyflenwyr Erosol). Mae erosolau “Fflamadwy dros ben” a “Fflamadwy” o Gyfarwyddeb 75/324/EEC yn cyfateb i Erosolau Fflamadwy Categori 1 neu 2, yn y drefn honno, o’r Rheoliad DLPh.

2

Er mwyn defnyddio’r cofnod hwn, rhaid iddi gael ei dogfennu nad yw’r cyflenwr erosol yn cynnwys Nwy Fflamadwy Categori 1 na 2 na Hylif Fflamadwy Categori 1.

Annotations:
Commencement Information
I11

Atod. 1 para. 11 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

I1212

Yn ôl paragraff 2.6.4.5 yn Atodiad I i’r Rheoliad DLPh, nid oes angen dosbarthu hylifau sydd â fflachbwynt uwchlaw 35°C yng Nghategori 3 os cafwyd canlyniadau negyddol yn y prawf hylosgedd parhaus L.2, Rhan III, adran 32 o Lawlyfr Profion a Meini Prawf y Cenhedloedd Unedig. Nid yw hyn yn ddilys, fodd bynnag, o dan amodau uwch fel tymheredd neu wasgedd uchel, ac felly mae hylifau o’r fath wedi eu cynnwys yn y cofnod hwn.

Annotations:
Commencement Information
I12

Atod. 1 para. 12 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

I1313

Amoniwm nitrad (5,000/10,000): gwrteithiau sy’n gallu dadelfennu’n hunangynhaliol

Mae hyn yn gymwys i wrteithiau cyfansawdd/cyfun seiliedig ar amoniwm nitrad (mae gwrteithiau cyfansawdd/cyfun yn cynnwys amoniwm nitrad ynghyd â ffosffad a/neu botash) sy’n gallu dadelfennu’n hunangynhaliol yn ôl Prawf Cafn y Cenhedloedd Unedig (gweler Llawlyfr Profion a Meini Prawf y Cenhedloedd Unedig, Rhan III, is-adran 38.2), ac y mae’r nitrogen a gynhwysir ynddynt o ganlyniad i’r amoniwm nitrad—

a

rhwng 15.75%35 a 24.5%36 yn ôl pwysau, a naill ai â dim mwy na chyfanswm o 0.4% o ddeunyddiau hylosg/organig neu sy’n cyflawni gofynion Atodiad III-2 i Reoliad (EC) Rhif 2003/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 13 Hydref 2003 yn ymwneud â gwrteithiau37;

b

yn 15.75% neu lai yn ôl pwysau ac yn cynnwys deunyddiau hylosg digyfyngiad.

Annotations:
Commencement Information
I13

Atod. 1 para. 13 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

I1414

Amoniwm nitrad (1,250/5,000): gradd gwrtaith

Mae hyn yn gymwys i wrteithiau sengl seiliedig ar amoniwm nitrad ac i wrteithiau cyfansawdd/cyfun seiliedig ar amoniwm nitrad sy’n cyflawni gofynion Atodiad III-2 i Reoliad (EC) Rhif 2003/2003 ac y mae’r nitrogen a gynhwysir ynddynt o ganlyniad i’r amoniwm nitrad—

a

yn fwy na 24.5% yn ôl pwysau, ac eithrio ar gyfer cymysgeddau o wrteithiau sengl seiliedig ar amoniwm nitrad sy’n cynnwys dolomit, calchfaen a/neu galsiwm carbonad sydd â phurdeb o 90% o leiaf;

b

yn fwy na 15.75% yn ôl pwysau ar gyfer cymysgeddau o amoniwm nitrad ac amoniwm sylffad;

c

yn fwy na 28%38 yn ôl pwysau ar gyfer cymysgeddau o wrteithiau sengl seiliedig ar amoniwm nitrad sy’n cynnwys dolomit, calchfaen a/neu galsiwm carbonad sydd â phurdeb o 90% o leiaf.

Annotations:
Commencement Information
I14

Atod. 1 para. 14 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

I1515

Amoniwm nitrad (350/2,500): gradd dechnegol

Mae hyn yn gymwys i amoniwm nitrad a chymysgeddau o amoniwm nitrad pan fo’r nitrogen a gynhwysir ynddynt o ganlyniad i’r amoniwm nitrad—

a

rhwng 24.5% a 28% yn ôl pwysau, ac sy’n cynnwys dim mwy na 0.4% o sylweddau hylosg;

b

yn fwy na 28% yn ôl pwysau, ac sy’n cynnwys dim mwy na 0.2% o sylweddau hylosg.

Mae hefyd yn gymwys i hydoddiannau amoniwm nitrad dyfrllyd y mae eu crynodiad o amoniwm nitrad yn fwy nag 80% yn ôl pwysau.

Annotations:
Commencement Information
I15

Atod. 1 para. 15 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

I1616

Amoniwm nitrad (10/50): deunydd nad yw’n bodloni’r fanyleb a gwrteithiau nad ydynt yn bodloni’r prawf taniad

Mae hyn yn gymwys i—

a

deunydd a wrthodwyd yn ystod y broses weithgynhyrchu ac i amoniwm nitrad a chymysgeddau o amoniwm nitrad, gwrteithiau sengl seiliedig ar amoniwm nitrad a gwrteithiau cyfansawdd/cyfun seiliedig ar amoniwm nitrad y cyfeirir atynt yn Nodiadau 14 a 15, sy’n cael eu dychwelyd neu sydd wedi eu dychwelyd gan y defnyddiwr terfynol i weithgynhyrchwr, i storfa dros dro neu i safle ailbrosesu ar gyfer eu hailweithio, eu hailgylchu neu eu trin ar gyfer eu defnyddio’n ddiogel, oherwydd nad ydynt mwyach yn cydymffurfio â manylebau Nodiadau 14 a 15;

b

gwrteithiau y cyfeirir atynt yn Nodyn 13(a), a Nodyn 14 i’r Atodlen hon nad ydynt yn cyflawni gofynion Atodiad III-2 i Reoliad (EC) Rhif 2003/2003.

Annotations:
Commencement Information
I16

Atod. 1 para. 16 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

I1717

Potasiwm nitrad (5,000/10,000)

Mae hyn yn gymwys i’r gwrteithiau cyfun hynny sy’n seiliedig ar botasiwm-nitrad (ar ffurf peledau/gronynnau) sydd â’r un nodweddion peryglus â photasiwm nitrad pur.

Annotations:
Commencement Information
I17

Atod. 1 para. 17 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

I1818

Potasiwm nitrad (1,250/5,000)

Mae hyn yn gymwys i’r gwrteithiau cyfun hynny sy’n seiliedig ar botasiwm-nitrad (ar ffurf grisialau) sydd â’r un nodweddion peryglus â photasiwm nitrad pur.

Annotations:
Commencement Information
I18

Atod. 1 para. 18 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

I1919

Bio-nwy wedi ei uwchraddio

At ddibenion gweithredu’r Rheoliadau hyn, caniateir dosbarthu bio-nwy wedi ei uwchraddio o dan gofnod 18 o Ran 2 o Atodlen 1 pan fo wedi ei brosesu yn unol â safonau cymwys ar gyfer bio-nwy puredig ac uwchraddedig gan sicrhau ansawdd sy’n cyfateb i ansawdd nwy naturiol, gan gynnwys y Methan a gynhwysir ynddo, ac sydd ag uchafswm o 1% o Ocsigen.

Annotations:
Commencement Information
I19

Atod. 1 para. 19 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

I2020

Polyclorodeubensoffwranau a pholyclorodeubensodeuocsinau

Cyfrifir y maintioli o bolyclorodeubensoffwranau a pholyclorodeubensodeuocsinau gan ddefnyddio’r ffactorau yn Nhabl 1—

Tabl 1Ffactorau Cyfwerthedd Gwenwyndra ar gyfer Deuocsinau a Chyfansoddion tebyg i Ddeuocsin 2005 Sefydliad Iechyd y Byd*

2,3,7,8-TCDD

1

2,3,7,8-TCDF

0.1

1,2,3,7,8-PeCDD

1

2,3,4,7,8-PeCDF

0.3

1,2,3,7,8-PeCDF

0.03

1,2,3,4,7,8-HxCDD

0.1

1,2,3,6,7,8-HxCDD

0.1

1,2,3,4,7,8-HxCDF

0.1

1,2,3,7,8,9-HxCDD

0.1

1,2,3,7,8,9-HxCDF

0.1

1,2,3,6,7,8-HxCDF

0.1

1,2,3,4,6,7,8-HpCDD

0.01

2,3,4,6,7,8-HxCDF

0.1

OCDD

0.0003

1,2,3,4,6,7,8-HpCDF

0.01

1,2,3,4,7,8,9-HpCDF

0.01

OCDF

0.0003

(T = tetra, P = penta, Hx = hecsa, Hp = hepta, O = octa)

*Cyfeiriad — Van den Berg et al: “The 2005 World Health Organisation Re-evaluation of Human and Mammalian Toxic Equivalency Factors for Dioxins and Dioxin-like Compounds”.

Annotations:
Commencement Information
I20

Atod. 1 para. 20 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

I2121

Mewn achosion pan fo’r sylwedd peryglus hwn yn dod o fewn categori Hylifau fflamadwy P5a neu Hylifau fflamadwy P5b, yna at ddibenion y Rheoliadau hyn mae’r maintioli is sydd dan reolaeth yn gymwys.

Annotations:
Commencement Information
I21

Atod. 1 para. 21 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

I2222

Pan fo Rhan 1 o’r Atodlen hon yn cwmpasu sylwedd peryglus a’i fod hefyd wedi ei restru yn Rhan 2, mae’r maintioli sydd dan reolaeth a nodir yng Ngholofn 2 o Ran 2 yn gymwys.

Annotations:
Commencement Information
I22

Atod. 1 para. 22 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

I2323

Mewn perthynas â Rhan 3—

a

pan fo S hefyd yn dod o fewn Rhan 1 neu Ran 2, y dosbarthiad sydd â’r maintioli isaf sydd dan reolaeth sy’n gymwys; a

b

pan fo S hefyd yn dod o fewn Rhan 1 a Rhan 2, y maintioli sydd dan reolaeth sydd isaf wrth gymharu’r maintioli sydd dan reolaeth o dan Ran 2 a Rhan 3 sy’n gymwys.

Annotations:
Commencement Information
I23

Atod. 1 para. 23 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

I2424

Mae i ymadroddion sy’n ymddangos yn yr Atodlen hon ac yn y Gyfarwyddeb yr un ystyr at ddibenion yr Atodlen hon ag a roddir iddynt at ddibenion y Gyfarwyddeb.

Annotations:
Commencement Information
I24

Atod. 1 para. 24 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

ATODLEN 2ESEMPTIADAU

Rheoliad 4

Llwytho, dadlwytho a storio dros droI251

Nid yw cydsyniad sylweddau peryglus yn ofynnol ar gyfer presenoldeb dros dro sylwedd peryglus ar, uwchben neu oddi tan dir pan fo’r presenoldeb hwnnw yn ymwneud yn uniongyrchol â chludo sylweddau peryglus ar y ffordd, ar drên, ar ddyfrffyrdd mewnol, ar y môr neu yn yr awyr, y tu allan i sefydliadau sy’n dod o fewn cwmpas y Rheoliadau hyn, gan gynnwys llwytho a dadlwytho a chludo rhwng un cyfrwng cludo i’r llall mewn dociau, ceioedd neu ierdydd trefnu.

Annotations:
Commencement Information
I25

Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

PiblinellauI262

Nid yw cydsyniad sylweddau peryglus yn ofynnol ar gyfer presenoldeb sylwedd peryglus sy’n cael ei gludo mewn piblinell, gan gynnwys gorsaf bwmpio, y tu allan i unrhyw dir—

a

y mae cydsyniad sylweddau peryglus ar gyfer unrhyw sylwedd yn bodoli mewn cysylltiad ag ef;

b

(heb ystyried maintioli’r sylwedd yn y biblinell neu’r orsaf bwmpio) y mae cydsyniad o’r fath yn ofynnol ar gyfer unrhyw sylwedd mewn cysylltiad â’r tir hwnnw.

Annotations:
Commencement Information
I26

Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

Dadlwytho oddi ar longau mewn argyfwng

I273

Nid yw cydsyniad sylweddau peryglus yn ofynnol ar gyfer presenoldeb sylwedd peryglus sydd wedi ei ddadlwytho oddi ar long neu fad môr arall mewn argyfwng hyd nes bod y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y cafodd ei ddadlwytho yn dod i ben.

Annotations:
Commencement Information
I27

Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

I284

At ddiben paragraff 3, mae sylwedd i’w drin fel petai wedi ei ddadlwytho oddi ar fad mewn argyfwng—

a

os cafodd ei ddadlwytho oddi ar fad yr oedd cyfarwyddyd o dan adran 3(1) o Ddeddf Llestrau Peryglus 198539 (cyfarwyddiadau gan yr Ysgrifennydd Gwladol i harbwrfeistr) yn gymwys iddo; neu

b

os cafodd ei ddadlwytho oddi ar fad ar ôl iddo ddod i mewn i harbwr neu ardal harbwr, o fewn ystyr “harbour” neu “harbour area” yn rheoliad 2 o Reoliadau Sylweddau Peryglus mewn Ardaloedd Harbwr 198740, heb fod hysbysiad yn ofynnol o dan baragraff (1) o reoliad 6 o’r Rheoliadau hynny yn rhinwedd esemptiad o dan baragraff (5) o’r rheoliad hwnnw.

Annotations:
Commencement Information
I28

Atod. 2 para. 4 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

Safleoedd tirlenwi

I295

Yn ddarostyngedig i baragraff 7, nid yw cydsyniad sylweddau peryglus yn ofynnol ar gyfer presenoldeb sylwedd peryglus ar, uwchben neu oddi tan dir safle tirlenwi gwastraff, gan gynnwys safle storio gwastraff tanddaearol.

Annotations:
Commencement Information
I29

Atod. 2 para. 5 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

I306

Nid yw paragraff 5 yn gymwys i—

a

safle a ddefnyddir ar gyfer storio mercwri metelaidd yn unol ag Erthygl 3(1)(b) o Reoliad (EC) Rhif 1102/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar wahardd allforio mercwri metelaidd a chyfansoddion a chymysgeddau penodol mercwri a storio mercwri metelaidd yn ddiogel41;

b

storfeydd nwy tanddaearol yn y tir mewn strata naturiol, dyfrhaenau, ceudodau halen a mwyngloddiau segur;

c

gweithrediadau prosesu cemegol a thermol a storfeydd sy’n ymwneud â’r gweithrediadau hynny; neu

d

cyfleusterau gwaredu sorod gweithredol, gan gynnwys pyllau neu argaeau sorod, sy’n cynnwys sylwedd peryglus.

Annotations:
Commencement Information
I30

Atod. 2 para. 6 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

Safleoedd niwclearI317

Nid yw cydsyniad sylweddau peryglus yn ofynnol ar gyfer presenoldeb sylwedd peryglus sy’n creu perygl o ymbelydredd ïoneiddio os yw’n bresennol ar, uwchben neu oddi tan dir y mae trwydded safle niwclear wedi ei rhoi neu’n ofynnol at ddibenion adran 1 o Ddeddf Safleoedd Niwclear 196542 mewn cysylltiad ag ef.

Annotations:
Commencement Information
I31

Atod. 2 para. 7 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

Mwynau

I328

Nid yw cydsyniad sylweddau peryglus yn ofynnol ar gyfer presenoldeb sylwedd peryglus at ddibenion elwa ar fwynau mewn mwyngloddiau a chwareli, sef chwilio amdanynt, eu hechdynnu a’u prosesu, gan gynnwys drwy gyfrwng tyllau turio, ac eithrio pan fônt yn bresennol mewn cysylltiad â’r materion y cyfeirir atynt ym mharagraff 6(b) i (d) o’r Atodlen hon.

Annotations:
Commencement Information
I32

Atod. 2 para. 8 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

I339

Nid yw cydsyniad sylweddau peryglus yn ofynnol ar gyfer presenoldeb sylwedd peryglus at ddibenion—

a

chwilio am fwynau yn y môr ac elwa arnynt, gan gynnwys hydrocarbonau; neu

b

storio nwy mewn safleoedd tanddaearol yn y môr gan gynnwys safleoedd storio dynodedig a safleoedd lle y bydd chwilio ac elwa ar fwynau, gan gynnwys hydrocarbonau.

Annotations:
Commencement Information
I33

Atod. 2 para. 9 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

Ffrwydron

I3410

Nid yw cydsyniad sylweddau peryglus yn ofynnol ar gyfer presenoldeb ffrwydryn o fewn ystyr “explosive” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Ffrwydron 201443

a

y mae trwydded yn ofynnol ar ei gyfer ac wedi ei rhoi ar ei gyfer o dan y Rheoliadau hynny gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch os yr Awdurdod hwnnw yw’r awdurdod trwyddedu yn rhinwedd—

i

paragraff 1(b) o Atodlen 1 i’r Rheoliadau hynny mewn achosion pan oedd cydsyniad awdurdod lleol yn ofynnol yn unol â rheoliad 13(3) o’r Rheoliadau hynny neu pan fyddai wedi bod yn ofynnol oni bai am reoliad 13(4)(b), (c), (d), (e), (f) neu (g) o’r Rheoliadau hynny, neu

ii

paragraff 1(d) o Atodlen 1 i’r Rheoliadau hynny; neu

b

y mae trwydded yn ofynnol ar ei gyfer ac wedi ei rhoi ar ei gyfer o dan y Rheoliadau hynny gan y Swyddfa dros Reoli Niwclear mewn achosion pan oedd cydsyniad awdurdod lleol yn ofynnol yn unol â rheoliad 13(3) o’r Rheoliadau hynny neu pan fyddai wedi bod yn ofynnol oni bai am reoliad 13(4)(b), (c), (d), (e), (f) neu (g) o’r Rheoliadau hynny.

Annotations:
Commencement Information
I34

Atod. 2 para. 10 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

I3511

Nid yw cydsyniad sylweddau peryglus yn ofynnol pan fo trwydded ar gyfer ffrwydryn o fewn ystyr “explosive” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Sylweddau Peryglus mewn Ardaloedd Harbwr 198744 wedi ei dyroddi.

Annotations:
Commencement Information
I35

Atod. 2 para. 11 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

Presenoldeb sylweddau sefydledig

I3612

Nid yw cydsyniad sylweddau peryglus yn ofynnol mewn perthynas â sylwedd peryglus sydd ar, uwchben neu oddi tan unrhyw dir (“y sylwedd perthnasol”)—

a

os oedd y sylwedd perthnasol yn bresennol ar, uwchben neu oddi tan y tir ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod sefydlu;

b

os nad oedd cydsyniad sylweddau peryglus yn ofynnol ar gyfer presenoldeb y sylwedd perthnasol ar yr adeg yr oedd yn bresennol yn ystod y cyfnod sefydlu; ac

c

pe byddai cydsyniad sylweddau peryglus wedi bod yn ofynnol ar gyfer presenoldeb y sylwedd perthnasol petai’r Rheoliadau hyn wedi bod mewn grym ar yr adeg honno.

Annotations:
Commencement Information
I36

Atod. 2 para. 12 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

I3713

Nid yw paragraff 12 yn gymwys pan fo maintioli’r sylwedd perthnasol yn fwy nag uchafswm maintioli’r sylwedd perthnasol a oedd yn bresennol ar, uwchben neu oddi tan y tir ar unrhyw un adeg yn ystod y cyfnod sefydlu.

Annotations:
Commencement Information
I37

Atod. 2 para. 13 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

Presenoldeb sylweddau sydd wedi eu hesemptioI3814

Nid yw presenoldeb sylwedd y mae esemptiad wedi ei ddarparu ar ei gyfer o dan baragraffau 1 i 13 i’w ystyried wrth gyfrifo maintioli’r sylwedd peryglus sy’n bresennol ar, uwchben neu oddi tan dir at unrhyw ddiben o’r DCSP neu’r Rheoliadau hyn.

Annotations:
Commencement Information
I38

Atod. 2 para. 14 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

Presenoldeb maintioli bach o sylweddauI3915

Nid yw presenoldeb maintioli o sylwedd peryglus—

a

mewn lleoliad lle nad yw’n gallu achosi damwain fawr mewn man arall ar y safle perthnasol, a

b

sy’n gyfwerth â dau y cant neu lai o’r maintioli perthnasol sydd dan reolaeth ar gyfer y sylwedd hwnnw,

i’w ystyried wrth gyfrifo maintioli’r sylwedd peryglus sy’n bresennol ar, uwchben neu oddi tan dir at unrhyw ddiben o’r DCSP neu’r Rheoliadau hyn.

Annotations:
Commencement Information
I39

Atod. 2 para. 15 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

Mân newidiadau i fathau a maintioli o sylweddau

I4016

Pan fo’r amodau ym mharagraff 17 wedi eu bodloni, nid yw cydsyniad sylweddau peryglus yn ofynnol ar gyfer mân newid perthnasol.

Annotations:
Commencement Information
I40

Atod. 2 para. 16 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

I4117

Yr amodau yw—

a

cyn bod y mân newid perthnasol yn digwydd, bod yr awdurdod sylweddau peryglus yn cael oddi wrth yr awdurdod COMAH cymwys hysbysiad ysgrifenedig y mae’n rhaid i’r awdurdod COMAH cymwys wneud copi ohono ar gyfer y person sy’n rheoli’r tir y mae’r cydsyniad sylweddau peryglus dan sylw yn ymwneud ag ef, yn cadarnhau—

i

manylion y mân newid perthnasol, gan gynnwys manylion am sut i gadw a defnyddio sylweddau;

ii

na fydd y mân newid perthnasol yn arwain at newid o ran perygl diogelwch; a

iii

na fydd y mân newid perthnasol yn arwain at sefydliad haen is yn dod yn sefydliad haen uwch neu i’r gwrthwyneb; a

b

bod unrhyw sylweddau peryglus a gedwir heb gydsyniad sylweddau peryglus gan ddibynnu ar yr esemptiad hwn yn cael eu cadw a’u defnyddio yn unol â’r manylion a nodir yn yr hysbysiad oddi wrth yr awdurdod COMAH cymwys.

Annotations:
Commencement Information
I41

Atod. 2 para. 17 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

Dehongli’r Atodlen hon

I4218

Yn yr Atodlen hon—

  • ystyr “cyfnod sefydlu” (“establishment period”) yw’r cyfnod o 12 wythnos sy’n dod i ben ar—

    1. a

      4 Medi 2015; neu

    2. b

      (os yw’n hwyrach) y dyddiad yr oedd y cydsyniad sylweddau peryglus yn ofynnol yn gyntaf ar gyfer y sylwedd perthnasol;

  • ystyr “mân newid perthnasol” (“relevant minor change”) yw newid i’r maintioli neu’r math o sylweddau peryglus sy’n bresennol mewn, ar neu oddi tan dir y mae cydsyniad sylweddau peryglus yn bodoli mewn perthynas ag ef, pan fyddai cydsyniad sylweddau peryglus yn ofynnol ar gyfer y newid hwnnw oni bai am yr Atodlen hon;

  • ystyr “newid o ran perygl diogelwch” (“safety hazard change”) yw newid i ardal y mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch neu’r Swyddfa dros Reoli Niwclear wedi hysbysu awdurdod cynllunio lleol amdano at ddibenion paragraffau (c) neu (ca) o’r Tabl yn Atodlen 4 i Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 201245 pan fo’r newid hwnnw yn arwain at—

    1. a

      yr ardal honno yn cwmpasu tir nad oedd yn ei gwmpasu yn flaenorol; neu

    2. b

      pan fo’r hysbysiad am yr ardal honno wedi nodi parthau o fewn yr ardal honno sy’n cyfateb i lefelau risg, ehangu unrhyw barth o’r fath.

Annotations:
Commencement Information
I42

Atod. 2 para. 18 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

I4319

Mae i ymadroddion sy’n ymddangos yn yr Atodlen hon ac yn y Gyfarwyddeb yr un ystyr at ddibenion yr Atodlen hon ag a roddir iddynt at ddibenion y Gyfarwyddeb.

Annotations:
Commencement Information
I43

Atod. 2 para. 19 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

I60ATODLEN 3FFURFLENNI, HYSBYSIADAU A THYSTYSGRIFAU RHAGNODEDIG

Rheoliadau 6(4), 7, 13(4) a 13(5)

Annotations:
Commencement Information
I60

Atod. 3 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

Image_r00002

Image_r00003

Image_r00004

Image_r00005

Image_r00006

Image_r00007

ATODLEN 4GORFODI – ADDASIADAU PENODEDIG O’R DCGTh

Rheoliadau 16, 18 ac 20(1)

RHAN 1Apelau yn erbyn hysbysiadau tramgwydd sylweddau peryglus

I441

Yn adrannau 174, 175, 176 a 177 o’r DCGTh fel y’u cymhwysir gan reoliad 16—

a

mae pob cyfeiriad at hysbysiad gorfodi i’w ddarllen fel petai’n gyfeiriad at hysbysiad tramgwydd sylweddau peryglus; a

b

mae pob cyfeiriad at awdurdod cynllunio lleol i’w ddarllen fel petai’n gyfeiriad at awdurdod sylweddau peryglus.

Annotations:
Commencement Information
I44

Atod. 4 para. 1 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

I452

Mae adran 174 o’r DCGTh (apelau yn erbyn hysbysiad gorfodi), wrth ei chymhwyso mewn perthynas â hysbysiad tramgwydd sylweddau peryglus, i’w darllen—

a

fel petai is-adran (2) yn darllen fel a ganlyn—

2

An appeal may be brought on any of the following grounds—

a

that, in respect of any contravention of hazardous substances control specified in the notice, hazardous substances consent ought to be granted for the quantity of the hazardous substance present on, over or under the land or, as the case may be, the condition concerned ought to be discharged;

b

that the matters alleged to constitute a contravention of hazardous substances control have not occurred;

c

that those matters (if they occurred) do not constitute a contravention of hazardous substances control;

d

that copies of the hazardous substances contravention notice were not served as required by or under section 24(4) of the Planning (Hazardous Substances) Act 1990;

e

that the steps required by the notice to be taken exceed what is necessary to remedy any contravention of hazardous substances control;

f

that any period specified in the notice in accordance with section 24(5)(b) of that Act falls short of what should reasonably be allowed.

b

fel petai is-adran (4) yn darllen fel a ganlyn—

4

A notice under subsection (3) must be accompanied by a copy of the hazardous substances contravention notice, together with a statement—-

a

specifying the grounds on which the appeal is being made against the hazardous substances contravention notice; and

b

setting out the appellant’s submissions in relation to each ground of appeal.

c

fel petai yn is-adran (5)—

i

y geiriau “in that statement” wedi eu mewnosod yn union ar ôl “does not”;

ii

y geiriau “in that statement” wedi eu mewnosod yn union ar ôl “failed”; a

iii

y geiriau “within the prescribed time” ac “within that time” wedi eu hepgor.

Annotations:
Commencement Information
I45

Atod. 4 para. 2 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

I463

Mae adran 175 o’r DCGTh (apelau: darpariaethau atodol), wrth ei chymhwyso mewn perthynas â hysbysiad tramgwydd sylweddau peryglus, i’w darllen fel petai, yn is-adran (6), y geiriau “section 25(1) of the Planning (Hazardous Substances) Act 1990” wedi eu rhoi yn lle “any other provisions of this Act”.

Annotations:
Commencement Information
I46

Atod. 4 para. 3 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

I474

Mae adran 176 o’r DCGTh (darpariaethau cyffredinol sy’n ymwneud â phenderfynu apelau), wrth ei chymhwyso mewn perthynas â hysbysiad tramgwydd sylweddau peryglus, i’w darllen yn is-adran (3)—

i

fel petai’r geiriau ym mharagraff (a) “within the prescribed time” wedi eu hepgor; a

ii

fel petai paragraff (b) yn darllen fel a ganlyn—

b

may allow an appeal and quash the hazardous substances contravention notice if the hazardous substances authority fail to comply with regulation 17(2) of the Planning (Hazardous Substances) (Wales) Regulations 2015.

Annotations:
Commencement Information
I47

Atod. 4 para. 4 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

I485

Mae adran 177 o’r DCGTh (rhoi neu addasu caniatâd cynllunio yn dilyn apêl yn erbyn hysbysiad gorfodi), wrth ei chymhwyso mewn perthynas â hysbysiad tramgwydd sylweddau peryglus, i’w darllen—

a

fel pe rhoddid yn lle paragraffau (a) a (b)—

a

grant hazardous substances consent for the presence of the hazardous substance on, over or under the land or on, over or under part of that land to which the hazardous substances contravention notice relates;

b

discharge any condition subject to which hazardous substances consent was granted.

b

fel petai is-adrannau (1A) i (1C) wedi eu hepgor;

c

yn is-adran (2)—

i

fel petai’r geiriau “hazardous substances consent” wedi eu rhoi yn lle “planning permission”; a

ii

fel petai’r geiriau “to any considerations which a hazardous substances authority would have to have regard to under section 9(2) of the Planning (Hazardous Substances) Act 1990 when dealing with an application for hazardous substances consent.” wedi eu rhoi yn lle’r geiriau ar ôl “regard”;

d

yn is-adran (3)—

i

fel petai’r geiriau “hazardous substances consent” wedi eu rhoi yn lle “planning permission” yn y ddau le y mae’n digwydd; a

ii

fel petai’r cyfeiriad at “Part III” yn gyfeiriad at “the Planning (Hazardous Substances) Act 1990”;

e

fel petai’r ddau gyfeiriad at “or limitation” yn is-adran (4) wedi eu hepgor;

f

yn is-adran (5)—

i

fel petai paragraff (b) wedi ei hepgor; a

ii

fel petai’r geiriau “hazardous substances consent in respect of the matters specified in the hazardous substances contravention notice as constituting a contravention of hazardous substances control.” wedi eu rhoi yn lle’r geiriau o “planning permission” hyd y diwedd;

g

fel petai, yn is-adran (5A) y geiriau “section 26A of the Planning (Hazardous Substances) Act 1990” wedi eu rhoi yn lle “section 303”;

h

fel petai, yn is-adrannau (6) a (7), y geiriau “hazardous substances consent” wedi eu rhoi yn lle “planning permission”; ac

i

yn is-adran (8)—

i

fel petai’r geiriau “section 28 of the Planning (Hazardous Substances) Act 1990” wedi eu rhoi yn lle “section 69”; a

ii

fel petai’r geiriau “hazardous substances consent” wedi eu rhoi yn lle “planning permission”.

Annotations:
Commencement Information
I48

Atod. 4 para. 5 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

RHAN 2Effaith hysbysiadau tramgwydd sylweddau peryglus, etc.

I496

Yn adrannau 178, 179, 180 a 181 o DCGTh, fel y’u cymhwysir gan reoliad 18—

a

mae pob cyfeiriad at hysbysiad gorfodi i’w ddarllen fel petai’n gyfeiriad at hysbysiad tramgwydd sylweddau peryglus; a

b

mae pob cyfeiriad at awdurdod cynllunio lleol i’w ddarllen fel petai’n gyfeiriad at awdurdod sylweddau peryglus.

Annotations:
Commencement Information
I49

Atod. 4 para. 6 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

I507

Mae adran 178 o’r DCGTh (gweithredu a chostau gwaith sy’n ofynnol gan hysbysiadau gorfodi) fel y mae’n cael effaith mewn perthynas â hysbysiad tramgwydd sylweddau peryglus, i’w ddarllen—

a

fel petai yn is-adran (2), yn y ddau le y mae’r geiriau “breach of planning control” yn digwydd, yn darllen “contravention of hazardous substances control”;

b

fel petai is-adrannau (3) i (5) wedi eu hepgor; ac

c

fel petai’r is-adran a ganlyn wedi ei mewnosod ar ôl is-adran (6)—

7

Where different periods are specified for different steps in a hazardous substances contravention notice by virtue of section 24(5)(b) of the PHSA, references in this section and in section 179 to the period for compliance with a hazardous substances contravention notice, in relation to a step, are to the period by the end of which the step is required to have been taken.

Annotations:
Commencement Information
I50

Atod. 4 para. 7 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

I518

Mae adran 179 (trosedd pan na chydymffurfir â hysbysiad gorfodi), fel y mae’n cael effaith mewn perthynas â hysbysiad tramgwydd sylweddau peryglus i’w darllen—

a

fel petai is-adran (1) yn darllen fel a ganlyn—

1

Where, at any time after the end of the period for compliance with a hazardous substances contravention notice, any steps required by the notice to be taken before the end of that period have not been taken, any person other than the owner who is in control of the land and the owner of the land at the time is in breach of the notice.

b

fel petai’r geiriau “the owner of the land” yn is-adran (2) yn darllen “a person”;

c

fel petai is-adrannau (4) a (5) wedi eu hepgor;

d

fel petai’r geiriau “or (5)” yn is-adran (6) wedi eu hepgor;

e

fel petai’r geiriau “section 188” yn is-adran (7)(b) yn darllen “regulation 19 of the Planning (Hazardous Substances) (Wales) Regulations 2015”.

Annotations:
Commencement Information
I51

Atod. 4 para. 8 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

I529

Mae adran 180 (effaith caniatâd cynllunio etc. ar hysbysiad gorfodi neu hysbysiad torri amod) fel y mae’n cael effaith mewn perthynas â hysbysiad tramgwydd sylweddau peryglus, i’w darllen—

a

fel petai is-adran (1) yn darllen fel a ganlyn—

1

Where, after the service of a copy of a hazardous substances contravention notice, hazardous substances consent is granted for the presence of a hazardous substance on, over or under the land to which the notice relates or any part of that land, the notice ceases to have effect so far as inconsistent with that consent.

b

fel petai is-adran (2) wedi ei hepgor; ac

c

fel petai’r geiriau “or breach of condition notice” yn is-adran (3) wedi eu hepgor”.

Annotations:
Commencement Information
I52

Atod. 4 para. 9 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

I5310

Mae adran 181 (hysbysiad gorfodi i gael effaith yn erbyn datblygiad dilynol) fel y mae’n cael effaith mewn perthynas â hysbysiad tramgwydd sylweddau peryglus, i’w darllen fel pe rhoddid y geiriau canlynol yn lle is-adrannau (1) i (5) o’r adran honno—

1

Compliance with a hazardous substances contravention notice does not discharge that notice.

2

Without prejudice to subsection (1), where a provision of a hazardous substances contravention notice requires a hazardous substance to be removed from the land to which the notice relates, the presence on, over or under that land of a quantity of that substance equal to or exceeding its controlled quantity at any time after the substance has been removed in compliance with the hazardous substances contravention notice is in contravention of that notice.

3

Without prejudice to subsection (1), where a provision of a hazardous substances contravention notice requires the quantity of a hazardous substance on, over or under the land to which the notice relates to be reduced below a specified quantity (being greater than the controlled quantity), the presence on, over or under that land of a quantity of that substance equal to or in excess of the specified quantity at any time after the quantity of that substance has been reduced below the specified quantity in compliance with the hazardous substances contravention notice, is in contravention of that notice.

4

Without prejudice to subsection (1), where a provision of a hazardous substances contravention notice requires steps to be taken to remedy a failure to comply with a condition subject to which a hazardous substances consent was granted, after those steps have been taken no further steps may be taken which would constitute a breach of that condition, and the taking of such further steps is in contravention of that notice.

5

Sections 178 and 179 apply to the contravention of a hazardous substances contravention notice to which this section applies as if the period for compliance with the notice had expired on the date the contravention took place, but the hazardous substances authority must not enter the land under section 178(1) without, at least 28 days before their entry, serving on the owner or occupier of the land a notice of their intention to do so.

Annotations:
Commencement Information
I53

Atod. 4 para. 10 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

RHAN 3Dilysrwydd

I5411

1

Mae adran 285 o’r DCGTh (dilysrwydd hysbysiadau gorfodi a hysbysiadau tebyg), fel y’i cymhwysir gan reoliad 20(1), i’w darllen—

a

fel petai pob cyfeiriad at hysbysiad gorfodi yn gyfeiriad at hysbysiad tramgwydd sylweddau peryglus; a

b

fel petai is-adrannau (3) a (4) wedi eu hepgor.

2

Mae adran 289 o’r DCGTh (apelau i’r Uchel Lys sy’n ymwneud â hysbysiadau gorfodi etc.), fel y’i cymhwysir gan reoliad 20(1), i’w darllen—

a

fel petai pob cyfeiriad at hysbysiad gorfodi yn gyfeiriad at hysbysiad tramgwydd sylwedd peryglus; a

b

fel petai pob cyfeiriad at awdurdod cynllunio lleol yn is-adrannau (1) a (4A) yn gyfeiriad at awdurdod sylweddau peryglus.

Annotations:
Commencement Information
I54

Atod. 4 para. 11 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

ATODLEN 5DIWYGIADAU I DDEDDFWRIAETH

Rheoliad 35

Diwygio Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynlluniau Datblygu Lleol) (Cymru) 2005I551

1

Mae Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynlluniau Datblygu Lleol) (Cymru) 200546 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

2

Yn rheoliad 13 (cynllun datblygu lleol: materion ychwanegol y dylid rhoi sylw iddynt)—

a

yn lle paragraff (1)(c) rhodder—

c

amcanion atal damweiniau mawr a chyfyngu ar ganlyniadau damweiniau o’r fath ar iechyd dynol a’r amgylchedd drwy fynd ar drywydd yr amcanion hynny drwy’r rheolaethau a ddisgrifir yn Erthygl 13 o Gyfarwyddeb 2012/18/EU;

b

yn lle paragraff (ch) rhodder—

ch

yr angen, yn y tymor hir—

i

i gadw pellteroedd diogelwch priodol rhwng sefydliadau ac ardaloedd preswyl, adeiladau ac ardaloedd a ddefnyddir gan y cyhoedd, ardaloedd hamdden, a, chyn belled â phosibl, lwybrau trafnidiaeth pwysig;

ii

i warchod ardaloedd o sensitifrwydd naturiol penodol neu o ddiddordeb penodol yng nghyffiniau’r sefydliadau, pan fo hynny’n briodol drwy bellteroedd diogelwch priodol neu fesurau perthnasol eraill;

iii

yn achos sefydliadau sy’n bodoli eisoes, i gymryd mesurau technegol ychwanegol yn unol ag Erthygl 5 o Gyfarwyddeb 2012/18/EU er mwyn peidio â chynyddu’r risgiau i iechyd dynol a’r amgylchedd.

c

ym mharagraff (2), yn lle “yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 96/82/EC (fel y’i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2003/105/EC)” rhodder “yng Nghyfarwyddeb 2012/18/EU”.

Annotations:
Commencement Information
I55

Atod. 5 para. 1 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

Diwygio Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012I562

1

Mae Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 201247 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

2

Yn y Tabl yn Atodlen 4 (ymgyngoriadau cyn rhoi caniatâd cynllunio), ym mharagraff (s)—

a

yn lle’r geiriau yn yr ail golofn (disgrifiad o’r datblygiad) rhodder—

Datblygiad—

i

sy’n cynnwys lleoli sefydliadau newydd;

ii

sy’n cynnwys addasiadau i sefydliadau presennol y mae Erthygl 11 o Gyfarwyddeb 2012/18/EU yn eu cwmpasu; neu

iii

sy’n newydd, gan gynnwys llwybrau trafnidiaeth, lleoliadau a ddefnyddir gan y cyhoedd ac ardaloedd preswyl yng nghyffiniau sefydliadau presennol, lle gallai’r lleoliad neu’r datblygiad fod yn ffynhonnell y risg o ddamwain fawr, neu gynyddu’r risg neu ganlyniadau damwain fawr.

b

yn lle’r geiriau yn y drydedd golofn (ymgynghorai) rhodder—

“Awdurdod COMAH cymwys, ac mewn perthynas â datblygiad sy’n dod o fewn paragraff (iii), unrhyw berson sydd, yn ôl y gofrestr a gedwir gan yr awdurdod sylweddau peryglus o dan reoliad 22 o Reoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Cymru) 2015, y person sy’n rheoli’r tir y mae unrhyw sefydliad presennol dan sylw wedi ei leoli arno”;

c

yn Atodlen 4 yn y paragraff sy’n delio â Dehongli’r Tabl, yn lle paragraff (ng) rhodder—

ng

ym mharagraff (s)—

i

mae i’r ymadroddion a ddefnyddir yn y paragraff hwnnw ac yng Nghyfarwyddeb 2012/18/EU yr un ystyr ag a roddir i’r ymadroddion Saesneg cyfatebol yn y Gyfarwyddeb honno; a

ii

ystyr “awdurdod COMAH cymwys” (“COMAH competent authority”) yw—

aa

mewn perthynas â safle niwclear perthnasol, y Swyddfa dros Reoli Niwclear a Chorff Adnoddau Naturiol Cymru yn gweithredu ar y cyd;

bb

fel arall, yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a Chorff Adnoddau Naturiol Cymru yn gweithredu ar y cyd.