Argraffwyd yr Offeryn Statudol hwn yn lle’r OS sy’n dwyn yr un rhif ac fe’i dyroddir yn rhad ac am ddim i bawb y gwyddys iddynt gael yr Offeryn Statudol hwnnw.
Offerynnau Statudol Cymru
2015 Rhif 1598 (Cy. 197)
Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru
Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynllun Datblygu Lleol) (Cymru) (Diwygio) 2015
Gwnaed
3 Awst 2015
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
7 Awst 2015
Yn dod i rym
28 Awst 2015
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 62, 63, 69, 77 a 122 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004(1).
2004 p.5; rhoddwyd adran 62(5)(d) yn lle paragraffau (d) ac (e) gan adran 51(2) o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009, a pharagraffau 4 a 5 o Atodlen 2 i’r Mesur hwnnw; rhoddwyd adran 51(2) o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009, a pharagraffau 4 a 6 o Atodlen 2 i’r Mesur hwnnw yn lle adran 62(7).