Search Legislation

Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynllun Datblygu Lleol) (Cymru) (Diwygio) 2015

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Diwygio Rheoliadau 2005

2.—(1Diwygir Rheoliadau 2005 fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(1) (dehongli)—

(a)hepgorer y diffiniad o “drwy hysbyseb leol” (“by local advertisement”);

(b)yn y diffiniad o “materion adneuo” (“deposit matters”)—

(i)yn is-baragraff (b), yn lle “rheoliad 16(2)(a)”, rhodder “rheoliad 18 neu 26C”; a

(ii)yn is-baragraff (c), yn lle “rheoliad 18”, rhodder “rheoliad 18 neu 26C, yn ôl y digwydd”;

(c)yn y diffiniad o “adroddiad ymgynghori cychwynnol” (“initial consultation report ”), yn lle “16”, rhodder “

16A neu reoliad 26A(4), pa un bynnag sy’n ofynnol;

(d)yn y diffiniad o “dogfennau CDLl” (“LDP documents”), ar ôl paragraff (ch), mewnosoder—

(d)unrhyw adroddiad adolygu perthnasol;

(dd)unrhyw gofrestr safleoedd ymgeisiol;

(e)yn y diffiniad o “dogfennau cynigion cyn-adneuo” (“pre-deposit proposals documents”), ar ôl “wedi’u hegluro”, mewnosoder “cofrestr y safleoedd ymgeisiol ac unrhyw adroddiad adolygu,”;

(f)hepgorer y diffiniadau o “polisi dyrannu safle” (“site allocation policy”) a “sylw ar ddyraniad safle” (“site allocation representation”);

(g)yn y diffiniad o “cyrff ymgynghori penodol” (“specific consultation bodies”)—

(i)yn lle “(i) i (viii)”, rhodder “(a) i (e)”; a

(ii)cyn paragraff (c) mewnosoder

(b)Network Rail Infrastructure Limited;;

(h)yn y mannau priodol yn nhrefn yr wyddor, rhodder—

(i) ystyr “cofrestr y safleoedd ymgeisiol” (“candidate sites register”) yw’r rhestr o safleoedd a baratowyd yn unol â rheoliad 14(4) neu 26A(8);

(ii) ystyr “CDLl sydd wrthi’n ymddangos” (“emerging LDP”) yw—

(a)

dogfen a gynigiwyd fel CDLl a roddwyd ar gael yn unol â rheoliadau 15, 17 neu 22(1);

(b)

dogfen a gynigiwyd fel adolygiad i CDLl a roddwyd ar gael yn unol â rheoliadau 15, 17, 22(1) neu 26B,

nad yw yn y naill achos a’r llall wedi ei fabwysiadu gan yr ACLl o dan adran 67, na’i gymeradwyo gan Weinidogion Cymru o dan adran 65 neu 71(4);

(iii) ystyr “adroddiad adolygu” (“review report”) yw adroddiad a baratowyd yn unol ag adran 69 neu reoliad 41(4).

(3Yn lle paragraff (1) o reoliad 3 (cwmpas y rheoliadau), rhodder—

(1) Mae’r Rheoliadau hyn yn cael effaith mewn perthynas ag adolygu CDLl i’r graddau y maent yn gymwys i baratoi CDLl, ac eithrio—

(a)rheoliadau 5 a 7 nad ydynt yn gymwys i adolygu CDLl;

(b)pan fo ACLl yn mynd rhagddo yn unol â Rhan 4A, nid yw Rhan 4 yn gymwys heblaw i’r graddau a bennir yn Rhan 4A;

(c)pan fo ACLl yn cynnig adolygu ei CDLl ac yn mynd ati yn unol â Rhan 4, nid yw Rhan 4A yn gymwys.

(4Yn rheoliad 5 (paratoi cynllun cynnwys cymunedau), yn lle “adran 63(3)(a)”, rhodder “adran 63(7)(a)”.

(5Yn rheoliad 9 (cytundebau cyflawni)—

(a)ym mharagraff (1), yn lle “ac, yn ychwanegol, rhaid iddo-” hyd at ddiwedd is-baragraff (b), rhodder “a rhaid iddo gael ei gymeradwyo trwy benderfyniad yr ACLl ac yna’i gyflwyno i Weinidogion Cymru ar gyfer eu cytundeb”;

(b)yn lle paragraff (4), rhodder “Hyd nes y bydd Gweinidogion Cymru yn cytuno i’r cytundeb cyflawni, rhaid i’r ACLl beidio â chymryd unrhyw gamau o dan reoliad 15 na 26A”;

(c)ar ôl paragraff 9(4), mewnosoder—

(4A) Rhaid i’r ACLl hysbysu—

(a)y cyrff ymgynghori penodol; a

(b)y cyrff ymgynghori cyffredinol hynny a ystyrir yn briodol gan yr ACLl,

cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol wedi i adolygiad i gytundeb cyflawni gael ei gytuno neu y bernir iddo gael ei gytuno o dan baragraff (3).; a

(d)ar ôl paragraff (5), mewnosoder—

(6) Nid oes angen i’r ACLl gydymffurfio â gofyniad penodol ei gynllun cynnwys cymunedau os oes ganddo achos rhesymol i gredu nad yw’n debygol o ragfarnu cyfle unrhyw berson i fod yn rhan o roi swyddogaethau’r ACLl ar waith o dan Ran 6 o’r Ddeddf os nad yw’n cydymffurfio â’r gofyniad hwnnw.

(6Yn rheoliad 10 (argaeledd cytundebau cyflawni), ym mharagraff (2), yn lle “CDLl”, rhodder “ACLl”.

(7Yn rheoliad 11 (ffurf a chynnwys cynllun datblygu lleol) ym mharagraff (b)—

(a)yn is-baragraff (i), hepgorer “a”; a

(b)yn lle is-baragraff (ii), rhodder—

(ii)dyddiad y daw’r cyfnod y paratowyd y CDLl gan yr ACLl ar ei gyfer i ben; a

(iii)pan fo’n CDLl sydd wrthi’n ymddangos, y cam o’r broses a gyrhaeddwyd a dyddiad ei gyhoeddi.

(8Yn rheoliad 13 (CDLl: materion ychwanegol y dylid rhoi sylw iddynt), yn lle paragraff (dd), rhodder “unrhyw gynllun morol a fabwysiadwyd ac a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru o dan Ran 3 o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009(1) sy’n effeithio ar unrhyw ran o ardal yr ACLl;”

(9Cyn “RHAN 4 Y WEITHDREFN AR GYFER CYNLLUN DATBLYGU LLEOL”, mewnosoder—

13A.  Pan fo ACLl yn cynnig adolygu ei CDLl a phan yr ymddengys iddo nad yw’r materion dan sylw yn ddigon arwyddocaol i gyfiawnhau ymgymryd â’r weithdrefn lawn ar gyfer paratoi fersiwn ddiwygiedig o CDLl fel a bennir yn rheoliadau 14 i 16, caiff fynd ati yn unol â Rhan 4A yn hytrach na Rhan 4.

(10Yn rheoliad 14—

(a)ail-rifer y paragraff presennol yn is-baragraff (1); a

(b)ar ôl is-baragraff (1), mewnosoder—

(2) Cyn bod ACLl yn cydymffurfio â rheoliad 15, rhaid iddo wneud cais am enwebiadau ar gyfer safleoedd y cynigir eu cynnwys yn y CDLl.

(3) Rhaid i’r ACLl—

(a)ddatgan y cais am enwebiadau ar ei wefan a thrwy gyfryw ddulliau eraill y mae’n eu hystyried yn briodol; a

(b)datgan yn ei gais y dyddiad erbyn pryd y mae’n rhaid i’r ACLl fod wedi cael y cyfryw enwebiadau.

(4) Rhaid i’r ACLl baratoi rhestr o’r holl safleoedd a enwebir.

(5) Rhaid i’r ACLl ystyried unrhyw safleoedd a enwebir cyn penderfynu ar gynnwys CDLl a adneuir yn unol â rheoliad 17.

(11Yn rheoliad 15 (ymgynghori â’r cyhoedd cyn adneuo)—

(a)hepgorer “ac” ar ôl paragraff (c)(iv); a

(b)hepgorer paragraff (ch).

(12Ar ôl rheoliad 16, mewnosoder—

Adroddiad ymgynghori cychwynnol

16A.  Rhaid i’r ACLl baratoi adroddiad y mae’n rhaid iddo ddatgan—

(a)pa gyrff y mae wedi ymgysylltu neu ymgynghori â hwy neu wedi eu hysbysu yn unol â rheoliadau 14 a 15;

(b)crynodeb o’r prif faterion a godwyd yn ystod yr ymgysylltiadau, ymgynghoriadau a hysbysiadau hynny, a’r ymatebion;

(c)mewn perthynas â’r CDLl i’w adneuo yn unol â rheoliad 17—

(i)sut yr aethpwyd i’r afael â’r prif faterion hynny; a

(ii)i ba raddau yr aethpwyd i’r afael â’r ymatebion hynny;

(ch)cyfanswm y sylwadau a ddaeth i law yn unol â rheoliad 16; ac

(d)unrhyw wyriad o’r cynllun cynnwys cymunedau.

(13Yn rheoliad 17 (adneuo cynigion)—

(a)ym mharagraff (a), yn lle “materion CDLl”, rhodder “materion adneuo”;

(b)ym mharagraff (c)(vi), hepgorer “a”; ac

(c)hepgorer paragraff (ch).

(14Yn lle rheoliad 18 (sylwadau ar gynigion adneuo cynllun datblygu lleol), rhodder—

Caiff person gyflwyno sylwadau am CDLl drwy eu hanfon i’r cyfeiriad ac at y person (os oes un) a bennir yn y materion adneuo, o fewn y cyfnod o 6 wythnos, gan ddechrau ar y diwrnod y bydd yr ACLl yn cydymffurfio â rheoliadau 17(a) ac (c).

(15Yn rheoliad 19 (ymdrin â sylwadau: adneuo), hepgorer paragraff (1).

(16Hepgorer rheoliadau 20 (ymdrin â sylwadau: sylwadau ar ddyraniad safle) a 21 (sylwadau am sylw ar ddyraniad safle).

(17Yn rheoliad 22 (cyflwyno cynllun datblygu lleol i’r Cynulliad Cenedlaethol)—

(a)ym mharagraff (1), yn lle “rheoliadau 18 ac 21”, rhodder “rheoliad 18”;

(b)yn is-baragraff (2)(c)(i) yn lle “rheoliadau 14, 15, 17 ac 20”, rhodder “rheoliadau 14, 15 a 17”;

(c)ar ddechrau is-baragraff (2)(c)(iii), mewnosoder “mewn cysylltiad â’r prif faterion a godwyd o dan reoliad 16,”;

(d)yn is-baragraff (2)(c)(iv), yn lle “rheoliadau 16, 18 ac 21”, rhodder “rheoliad 16 a 18”;

(e)yn is-baragraffau (2)(c)(v) a (vi), yn lle “rheoliadau 18 a 21”, rhodder “rheoliad 18”;

(f)ym mharagraff (2), ar ôl is-baragraff (c), mewnosoder—

(ca)unrhyw adroddiad adolygu perthnasol;

(cb)unrhyw gofrestr safleoedd ymgeisiol;;

(g)ym mharagraff (ch), yn lle “rheoliadau 18 a 21”, rhodder “rheoliad 18”; ac

(h)hepgorer paragraff (5)(b).

(18Yn rheoliad 23 (archwiliad annibynnol)—

(a)ym mharagraff (1), yn lle “cyn dechrau cynnal archwiliad annibynnol o dan adran 64,”, rhodder “cyn dechrau’r gwrandawiad cyntaf o dan adran 64(6),”(2);

(b)yn is-baragraff (1)(b), yn lle “neu 21 o’r materion hynny; ac”, rhodder “o’r materion hynny.”;

(c)hepgorer is-baragraff (1)(c);

(d)yn is-baragraff (2)(a), yn lle “archwiliad”, rhodder “gwrandawiad”; ac

(e)ym mharagraff (3), yn lle “rheoliadau 18 ac 21”, rhodder “rheoliad 18”.

(19Yn rheoliad 25 (mabwysiadu CDLl)—

(a)ym mharagraff (2), yn lle “Pan fydd yr ACLl yn mabwysiadu CDLl, rhaid iddo yr un pryd-,” rhodder “Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i ACLl fabwysiadu CDLl, rhaid iddo—”;

(b)hepgorer is-baragraff (2)(c); ac

(c)ar ôl paragraff (2), mewnosoder—

(3) Pan fydd CDLl yn cael ei fabwysiadu drwy benderfyniad gan yr ACLl neu yn cael ei gymeradwyo gan Weinidogion Cymru o dan adrannau 65 neu 71, mae’n disodli unrhyw CDLl presennol a fydd yn peidio â chael effaith.

(20Ar ôl rheoliad 25, mewnosoder—

Mabwysiadu adolygiadau i gynllun datblygu lleol

25A.(1) Caiff yr ACLl fabwysiadu CDLl wedi ei adolygu, ag adolygiadau fel y’i paratowyd yn wreiddiol, os yw’r person a benodir i gynnal yr archwiliad annibynnol o dan adran 64(4) yn argymell hynny.

(2) Caiff yr ACLl fabwysiadu CDLl ag adolygiadau wedi’u haddasu os yw’r person a benodir i gynnal yr archwiliad annibynnol o dan adran 64(4) yn argymell hynny.

(21Yn rheoliad 26 (tynnu cynllun datblygu lleol yn ôl)—

(a)hepgorer paragraff (b);

(b)ym mharagraff (ch), hepgorer “, ac 20(2)(a) a (b)”; ac

(c)ym mharagraff (d), yn lle “rheoliad 18 neu 21”, rhodder “rheoliad 18”.

(22Ar ôl diwedd Rhan 4, mewnosoder y rhan a ganlyn—

RHAN 4AGweithdrefn ffurf fer ar gyfer adolygiadau nad ydynt yn ddigon arwyddocaol

Gofynion cyn-adneuo

26A.(1) Cyn i’r ACLl gydymffurfio â rheoliad 26B (adneuo adolygiad arfaethedig), at ddiben pennu cwmpas yr adolygiad arfaethedig a chynhyrchu opsiynau eraill, rhaid iddo—

(a)hysbysu pob un o’r cyrff neu bersonau a bennir ym mharagraff (2) o bwnc yr adolygiad y mae’r ACLl yn cynnig ei baratoi i’r CDLl ac o’r adroddiad adolygu; a

(b)gwahodd pob un ohonynt i gyflwyno sylwadau i’r ACLl ynglŷn â’r hyn y dylid ei gynnwys mewn adolygiad.

(2) Y cyrff neu bersonau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw—

(a)y cyrff ymgynghori penodol hynny yr ymddengys i’r ACLl bod ganddynt fuddiant yn yr adolygiad arfaethedig; a

(b)y cyrff ymgynghori cyffredinol hynny a ystyrir yn briodol gan yr ACLl.

(3) Rhaid i ACLl ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynir yn unol â pharagraff (1) cyn penderfynu’n derfynol ar gynnwys yr adolygiad arfaethedig sydd i’w ddarparu o dan reoliad 26B.

(4) Rhaid i’r ACLl baratoi adroddiad o’r hyn y mae wedi’i wneud yn unol â pharagraff (1).

(5) Mae rheoliad 16A yn gymwys i’r adroddiad hwnnw fel petai—

(a)cyfeiriadau at reoliadau 14, 15 neu 16 yn cyfeirio at y rheoliad hwn; a

(b)cyfeiriadau at y CDLl a adneuwyd yn unol â rheoliad 17, yn cyfeirio at yr adolygiad arfaethedig a adneuwyd yn unol â rheoliad 26B.

(6) Cyn i’r ACLl gydymffurfio â rheoliad 26B, os yw’r adolygiad arfaethedig yn cynnwys tir a nodwyd ar gyfer ei ddatblygu, rhaid gwneud cais am enwebiadau ar gyfer safleoedd arfaethedig i’w cynnwys yn y diwygiad arfaethedig.

(7) Rhaid i’r ACLl—

(a)gyhoeddi’r cais am enwebiadau ar ei wefan a thrwy gyfryw ddulliau eraill y mae’n eu hystyried yn briodol; a

(b)datgan yn ei gais erbyn pa ddyddiad y mae’n rhaid i’r enwebiadau ddod i law’r ACLl.

(8) Rhaid i’r ACLl baratoi rhestr o’r holl safleoedd a enwebwyd.

(9) Rhaid i’r ACLl ystyried unrhyw safleoedd a enwebir cyn penderfynu ar gynnwys y diwygiad a adneuwyd yn unol â rheoliad 26B.

Adneuo adolygiad arfaethedig

26B.  Rhaid i’r ACLl—

(a)rhoi copïau o ddogfennau’r CDLl, a datganiad o’r materion adneuo, ar gael i’w harchwilio yn ystod oriau swyddfa arferol yn—

(i)ei brif swyddfa; a

(ii)y lleoedd eraill hynny o fewn ei ardal a ystyrir yn briodol gan yr ACLl;

(b)cyhoeddi ar ei wefan—

(i)dogfennau’r CDLl;

(ii)y materion adneuo; a

(iii)datganiad o’r ffaith bod dogfennau’r CDLl ar gael i’w harchwilio ac o’r mannau lle y gellir eu harchwilio a’r amserau y gellir ei harchwilio; ac

(c)anfon i bob un o’r cyrff a nodir o dan reoliad 26A(2) gopïau o—

(i)yr adolygiad i’r CDLl sydd wedi ei adneuo;

(ii)yr adroddiad arfarnu cynaliadwyedd;

(iii)yr adroddiad ymgynghori cychwynnol;

(iv)rhestr o’r dogfennau ategol hynny sydd ym marn yr ACLl yn berthnasol i’r gwaith o baratoi’r adolygiad o’r CDLl;

(v)hysbysiad o’r materion adneuo; a

(vi)y datganiad y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (b)(iii).

Sylwadau ar gynigion sydd wedi eu hadneuo o adolygiadau i gynlluniau datblygu lleol

26C.  Caiff person wneud sylwadau am adolygiad arfaethedig i CDLl drwy eu hanfon—

(a)i’r cyfeiriad ac at y person (os oes un) a bennir yn y materion adneuo,

(b)o fewn y cyfnod o 6 wythnos, gan ddechrau ar y diwrnod y cydymffurfiodd yr ACLl â rheoliadau 26B(a) ac (c).

Ymdrin â sylwadau: adneuo adolygiad

26Ch.(1) Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i’r ACLl dderbyn sylw ynglŷn ag adolygiad arfaethedig i CDLl o dan reoliad 26C, mae’n rhaid iddo—

(a)rhoi copi o’r sylw ar gael yn y mannau lle y pennwyd bod y dogfennau CDLl ar gael o dan reoliad 26B(a);

(b)pan fo’n ymarferol, cyhoeddi ar ei wefan fanylion yr holl sylwadau a gafwyd, ynghyd â datganiad bod y sylwadau ar gael i’w harchwilio yn y mannau y cyfeiriwyd atynt yn rheoliad 26B(a).

(2) Nid oes angen i ACLl gydymffurfio â pharagraff (1) os cyflwynir y sylw ar ôl y cyfnod a bennwyd yn rheoliad 26C.

Cymhwyso rheoliadau 22 i 26 (Cyflwyno, archwilio annibynnol, cyhoeddi argymhellion, mabwysiadu a thynnu yn ôl)

26D.(1) Mae rheoliadau 22 i 26 yn gymwys i adolygiad sy’n mynd rhagddo yn unol â’r Rhan hon, yn yr un modd ag y byddent yn gymwys wrth baratoi CDLl, ond maent i gael eu darllen yn unol â’r darpariaethau canlynol.

(2) Mae cyfeiriadau—

(a)at reoliadau 14, 15 neu 16 i gael eu darllen fel cyfeiriadau at reoliad 26A;

(b)at reoliad 17 i gael eu darllen fel cyfeiriadau at reoliad 26B;

(c)at reoliad 18 i gael eu darllen fel cyfeiriadau at reoliad 26C; a

(ch)at y CDLl i gael eu darllen fel cyfeiriadau at adolygiad y CDLl, ac eithrio yn rheoliad 25;

(d)yn rheoliad 22(2)(c)(i), mae’r cyfeiriad at “wedi ymgynghori â hwy” i gael ei ddarllen fel “wedi eu hysbysu”;

(dd)yn rheoliadau 22(5)(c), 24(2)(a) a 25(2)(a) at y mannau lle y rhoddwyd y dogfennau cynigion cyn-adneuo ar gael o dan reoliad 15 i gael eu darllen fel cyfeiriadau at y mannau lle y rhoddwyd dogfennau’r CDLl ar gael o dan reoliad 26B(a); ac

(e)yn rheoliad 26 —

(i)at reoliad 15(c) i gael eu darllen fel cyfeiriad at reoliad 26A(1);

(ii)at reoliad 17(a) a (b) i gael eu darllen fel cyfeiriad at reoliad 26B(1)(a) a (b);

(iii)at reoliad 19(2)(a) a (b) i gael eu darllen fel cyfeiriadau at 26Ch(1)(a) a (b).

(23Yn—

(a)rheoliad 28 (cyfarwyddyd i beidio â mabwysiadu cynllun datblygu lleol) ym mharagraff (2)(a);

(b)rheoliad 29 (Cyfarwyddyd i addasu cynllun datblygu lleol) ym mharagraff (a);

(c)rheoliad 31 (Newidiadau a gynigir gan y Cynulliad Cenedlaethol i gynllun datblygu lleol (galw i mewn)) ym mharagraff (2)(a); a

(d)rheoliad 33 (cyhoeddi argymhellion y person a benodwyd i gyflawni’r archwiliad annibynnol (galw i mewn)) ym mharagraff (a),

ar ôl “ar gael o dan reoliad 15” ym mhob man y mae’n ymddangos, mewnosoder “neu 26B yn ôl y digwydd”.

(24Yn rheoliad 30 (cyfarwyddiadau adran 65(4) (galw i mewn)) yn lle paragraffau (2) i (4), rhodder—

(2) Os rhoddir y cyfarwyddyd cyn i’r ACLl gyflwyno’r CDLl o dan adran 64(1) rhaid i’r ACLl—

(a)cydymffurfio ag adran 62(6) os nad yw eisoes wedi gwneud hynny;

(b)sicrhau bod y cyfarwyddyd ar gael i’w archwilio yn ystod oriau swyddfa arferol yn y mannau lle y rhoddwyd y dogfennau cynigion cyn-adneuo ar gael o dan reoliad 15 neu lle y rhoddwyd dogfennau’r CDLl ar gael o dan reoliad 26B yn ôl y digwydd;

(c)cyhoeddi’r cyfarwyddyd ar ei wefan;

(ch)yn ddarostyngedig i unrhyw addasiadau angenrheidiol ac i baragraff (4), gydymffurfio â’r rheoliadau a enwyd ym mharagraff (3) fel pe bai’n paratoi CDLl.

(3) Y rheoliadau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (2)(ch) yw rheoliadau 15 i 19, neu 26A i 26Ch, yn ôl y digwydd.

(4) Nid oes dim ym mharagraff (2)(ch) yn ei gwneud yn ofynnol i ACLl ailadrodd unrhyw gam a gymerwyd cyn cael y cyfarwyddyd.

(25Yn rheoliad 31—

(a)ym mharagraff (2), yn syth ar ôl is-baragraff (b), mewnosoder “ac”;

(b)ym mharagraff (2)(c) hepgorer “a”; ac

(c)hepgorer is-baragraff (2)(ch).

(26Yn rheoliadau 33(a) a 34(a), yn lle “dogfennau cynigion cyn-adneuo”, rhodder “cynigion cyn-adneuo”.

(27Yn rheoliad 34—

(a)yn is-baragraff (a), ar ôl “ar gael o dan reoliad 15(a)”, mewnosoder “neu reoliad 26B yn ôl y digwydd;

(b)yn syth ar ôl is-baragraff (b), mewnosoder “ac”; ac

(c)hepgorer is-baragraff (c).

(28Yn rheoliad 39(5)—

(a)hepgorer “ac;” ar ôl is-baragraff (c); a

(b)hepgorer paragraff (ch).

(29Yn lle rheoliad 41, rhodder y canlynol.

(1) At ddibenion adran 69(1), rhaid i’r ACLl ddechrau adolygiad o’i CDLl ar gyfnodau o ddim hwy na phob pedair blynedd o’r diweddaraf o’r canlynol—

(a)dyddiad mabwysiadu’r CDLl cyntaf; neu

(b)dyddiad mabwysiadu’r CDLl diwethaf yn dilyn adolygiad o dan adran 69(1).

(2) Cyn iddo baratoi adolygiad o CDLl, rhaid i ACLl adolygu ei CDLl.

(3) At ddibenion paragraff (2), caiff y cyfryw adolygiad fod naill ai yn adolygiad o dan adran 69(1) neu yn adolygiad dethol.

(4) Rhaid i’r ACLl adrodd i Weinidogion Cymru am ganfyddiadau adolygiad dethol.

(5) Rhaid i ACLl gymeradwyo drwy benderfyniad adroddiad ar adolygiad a baratowyd yn unol ag adran 69(1) cyn iddo ei gyflwyno i Weinidogion Cymru yn unol ag adran 69(2).

(6) Rhaid i ACLl gymeradwyo drwy benderfyniad adroddiad ar adolygiad dethol a chyflwyno’r adroddiad wedi ei gymeradwyo i Weinidogion Cymru.

(7) Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cymeradwyo adroddiad adolygu drwy benderfyniad yr ACLl yn unol â pharagraffau (5) neu (6), rhaid i’r ACLl—

(a)gyhoeddi’r adroddiad adolygu ar ei wefan; a

(b)rhoi copïau ar gael yn ei brif swyddfa ac mewn mannau eraill a ystyrir yn briodol gan yr ACLl.

(8) At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “adolygiad dethol” yw adolygiad o ran neu rannau o CDLl.

(1)

p. 23

(2)

Am ystyr “adran” gweler rheoliad 1(3)(b).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources