2015 Rhif 1600 (Cy. 199)
Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2015
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 71, 76(9) 128, 129 a 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 20061, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli1
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2015.
2
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Awst 2015 ond mae’r diwygiadau a nodir yn rheoliad 2 yn cael effaith o 1 Ebrill 2015 ymlaen.
3
Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
4
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “y Rheoliadau Optegol” (“the Optical Regulations”) yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 19972.
Diwygio rheoliad 1 o’r Rheoliadau Optegol2
Yn rheoliad 1(2) o’r Rheoliadau Optegol (enwi, cychwyn a dehongli), yn y diffiniad o “NHS sight test fee”—
a
yn lle “£58.29”, rhodder “£58.87”; a
b
yn lle “£21.10”, rhodder “£21.31”.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)