Offerynnau Statudol Cymru
2015 Rhif 1679 (Cy. 216) (C. 96)
Meinweoedd Dynol, Cymru
Gorchymyn Deddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013 (Cychwyn) 2015
Gwnaed
9 Medi 2015
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau yn adran 21(1), (2) a (5) o Ddeddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013(1).
Enwi a dehongli
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013 (Cychwyn) 2015.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013.
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 12 Medi 2015
2. Y diwrnod penodedig i’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf ddod i rym yw 12 Medi 2015—
(a)adrannau 7 i 9 at ddiben gwneud rheoliadau;
(b)adran 15, ac eithrio paragraff (e) o is-adran (4); ac
(c)adran 20.
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Rhagfyr 2015
3. Y diwrnod penodedig i’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf ddod i rym yw 1 Rhagfyr 2015—
(a)adrannau 3 i 6;
(b)adrannau 7 i 9 (i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym);
(c)adrannau 10 i 13;
(d)adran 14, ac eithrio paragraff (b) o is-adran (3); ac
(e)adrannau 16 i 19.
Mark Drakeford
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
9 Medi 2015
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn, a wnaed gan Weinidogion Cymru, yn dwyn i rym ddarpariaethau Deddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013 (“y Ddeddf”).
Mae erthygl 2 yn dwyn i rym ddarpariaethau penodol o’r Ddeddf ar 12 Medi 2015 at ddibenion gwneud rheoliadau.
Mae erthygl 3 yn dwyn i rym bob darpariaeth arall yn y Ddeddf ar 1 Rhagfyr 2015 ac eithrio—
(a)is-adran 14(3)(b) (sy’n ei gwneud yn ofynnol cael cydsyniad y crwner o dan amgylchiadau penodol cyn gweithredu yn ôl awdurdod o dan adran 13 i breserfio rhan o gorff at ei thrawsblannu);
(b)is-adran 15(4)(e); ac
(c)adrannau 1, 2, 21 a 22, a ddaeth i rym ar 10 Medi 2013, pan gafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol.