2015 Rhif 1680 (Cy. 217) (C. 97)
Gorchymyn Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 (Cychwyn Rhif 1) 2015
Made
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddwyd iddynt gan adran 25(3) o Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 20151.
Enwi1
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 (Cychwyn Rhif 1) 2015.
Diwrnod penodedig2
5 Hydref 2015 yw’r diwrnod penodedig ar gyfer dwyn i rym y darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015—
a
adran 2 (trais yn erbyn menywod a merched);
b
adran 3 (dyletswydd i baratoi, cyhoeddi ac adolygu strategaeth genedlaethol);
c
adran 4 (dyletswydd i weithredu’r strategaeth genedlaethol);
d
adran 9 (gwybodaeth am ddarpariaeth addysgol i hybu diben y Ddeddf hon);
e
adran 11 (dangosyddion cenedlaethol);
f
adran 12 (adroddiadau cynnydd blynyddol gan Weinidogion Cymru);
g
adran 22 (cynllun blynyddol ac adroddiadau blynyddol); ac
h
adran 23 (cyhoeddi adroddiadau).
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)