Search Legislation

Rheoliadau Safonau Sootechnegol (Cymru) 2015

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer cydnabod sefydliadau sy’n cofnodi pedigrî gwartheg, defaid, geifr a moch ac yn nodi’r gofynion sy’n llywodraethu’r sefydliadau hyn o ran ffurf cofnodion pedigrî a’u cynnwys, ffurf tystysgrifau sootechnegol, a dulliau ar gyfer cofnodi perfformiad bridio ac asesu gwerth genetig er mwyn derbyn anifeiliaid at ddibenion bridio. Maent yn gymwys o ran Cymru ac maent yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Safonau Sootechnegol 1992 (O.S. 1992/2370).

Maent yn trosi offerynnau canlynol yr UE o ran gwartheg:

  • Cyfarwyddeb y Cyngor 2009/157/EC ynghylch anifeiliaid bridio o frid pur o’r rhywogaeth fuchol (OJ Rhif L 323, 10.12.2009, t1);

  • Penderfyniad y Comisiwn 2006/427/EC sy’n nodi dulliau monitro perfformiad a dulliau ar gyfer asesu gwerth genetig gwartheg i anifeiliaid bridio o frid pur o’r rhywogaeth fuchol (OJ Rhif L 169, 22.6.2006, t56);

  • Penderfyniad y Comisiwn 2005/379/EC ynghylch tystysgrifau pedigrî a manylion i anifeiliaid bridio o frid pur o’r rhywogaeth fuchol, eu semen, eu hofa a’u hembryonau (OJ Rhif L 125, 18.5.2005, t15);

  • Cyfarwyddeb y Cyngor 87/328/EEC ynghylch derbyn, at ddibenion bridio, anifeiliaid bridio o frid pur o’r rhywogaeth fuchol (OJ Rhif L 167, 26.6.1987, t54);

  • Penderfyniad y Comisiwn 84/247/EEC sy’n nodi’r meini prawf ynglŷn â chydnabod sefydliadau a chymdeithasau bridwyr sy’n cadw neu sy’n sefydlu llyfrau buches i anifeiliaid bridio o frid pur o’r rhywogaeth fuchol (OJ Rhif L 125, 12.5.1984, t58);

  • Penderfyniad y Comisiwn 84/419/EEC sy’n nodi’r meini prawf ynglŷn â chofnodi gwartheg mewn llyfrau buches (OJ Rhif L 237, 5.9.1984, t11).

Maent yn trosi offerynnau canlynol yr UE o ran moch:

  • Cyfarwyddeb y Cyngor 88/661/EEC ynghylch y safonau sootechnegol sy’n gymwys i anifeiliaid bridio o’r rhywogaeth fochaidd (OJ Rhif L 382, 31.12.1988, t36);

  • Penderfyniad y Comisiwn 89/501/EEC sy’n nodi’r meini prawf ynglŷn â chymeradwyo a goruchwylio cymdeithasau bridwyr a sefydliadau bridio sy’n sefydlu neu sy’n cadw llyfrau cenfaint i foch bridio o frid pur (OJ Rhif L 247, 23.8.1989, t19);

  • Penderfyniad y Comisiwn 89/504/EEC sy’n nodi’r meini prawf ynglŷn â chymeradwyo a goruchwylio cymdeithasau bridwyr, sefydliadau bridio ac ymgymeriadau preifat sy’n sefydlu neu sy’n cadw cofrestrau i foch bridio hybrid (OJ Rhif L 247, 23.08.1989, t31);

  • Penderfyniad y Comisiwn 89/502/EEC sy’n nodi’r meini prawf sy’n llywodraethu cofnodi moch bridio o frid pur mewn llyfrau cenfaint (OJ Rhif L 247, 23.8.1989, t21);

  • Penderfyniad y Comisiwn 89/505/EEC sy’n nodi’r meini prawf sy’n llywodraethu cofnodi moch bridio hybrid mewn cofrestrau (OJ Rhif L 247, 23.8.1989, t33);

  • Penderfyniad y Comisiwn 89/503/EEC sy’n nodi’r dystysgrif i foch bridio o frid pur, eu semen, eu hofa a’u hembryonau (OJ Rhif L 247, 23.8.1989, t22);

  • Penderfyniad y Comisiwn 89/506/EEC sy’n nodi’r dystysgrif i foch bridio hybrid, eu semen, eu hofa a’u hembryonau (OJ Rhif L 247, 23.8.1989, t34);

  • Penderfyniad y Comisiwn 89/507/EEC sy’n nodi dulliau monitro perfformiad a dulliau ar gyfer asesu gwerth genetig moch bridio o frid pur a moch bridio hybrid (OJ Rhif L 247, 23.8.1989, t43);

  • Cyfarwyddeb y Cyngor 90/118/EEC ynghylch derbyn moch bridio o frid pur at fridio (OJ Rhif L 71, 17.3.1990, t34);

  • Cyfarwyddeb y Cyngor 90/119/EEC ynghylch moch bridio hybrid at fridio (OJ Rhif L 71, 17.3.1990, t36).

Maent yn trosi offerynnau canlynol yr UE o ran defaid a geifr:

  • Cyfarwyddeb y Cyngor 89/361/EEC ynghylch defaid a geifr bridio o frid pur (OJ Rhif L 153, 6.6.1989, t30);

  • Penderfyniad y Comisiwn 90/254/EEC sy’n nodi’r meini prawf ynglŷn â chymeradwyo sefydliadau a chymdeithasau bridwyr sy’n sefydlu neu sy’n cadw llyfrau diadell i ddefaid a geifr bridio o frid pur (OJ Rhif L 145, 8.6.1990, t30);

  • Penderfyniad y Comisiwn 90/255/EEC sy’n nodi’r meini prawf sy’n llywodraethu cofnodi defaid a geifr bridio o frid pur mewn llyfrau diadell (OJ Rhif L 145, 8.6.1990, t32);

  • Penderfyniad y Comisiwn 90/258/EEC sy’n nodi’r tystysgrifau sootechnegol i ddefaid a geifr bridio o frid pur, eu semen, eu hofa a’u hembryonau (OJ Rhif L 145, 8.6.1990, t39);

  • Penderfyniad y Comisiwn 90/256/EEC sy’n nodi dulliau monitro perfformiad a dulliau ar gyfer asesu gwerth genetig defaid a geifr bridio o frid pur (OJ Rhif L 145, 8.6.1990, t35);

  • Penderfyniad y Comisiwn 90/257/EEC sy’n nodi’r meini prawf ynglŷn â derbyn, at ddibenion bridio, defaid a geifr bridio o frid pur a defnyddio’u semen, eu hofa neu eu hembryonau (OJ Rhif L 145, 8.6.1990, t38).

Maent hefyd yn trosi Erthygl 4 o Gyfarwyddeb y Cyngor 94/28/EC sy’n nodi’r egwyddorion sy’n ymwneud â’r amodau sootechnegol ac achyddol sy’n gymwys i fewnforio, o drydydd gwledydd, anifeiliaid, eu semen, eu hofa a’u hembryonau, ac sy’n diwygio Cyfarwyddeb 77/504/EEC ynghylch anifeiliaid bridio o frid pur o’r rhywogaeth fuchol (OJ Rhif L 178, 12.7.1994, t66).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, mae asesiad effaith rheoleiddiol wedi ei lunio ynglŷn â’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources