RHAN 1Enwi a dehongli

Enwi a dehongli

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cymwysterau Cymru 2015 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaethau Trosiannol ac Arbed) 2015.

(2Yn y Gorchymyn hwn—

mae i “cymhwyster perthnasol” yr un ystyr ag a roddir i “relevant qualification” yn adran 30 o Ddeddf 1997(1) fel y mae’r adran honno mewn grym yn union cyn 21 Medi 2015;

ystyr “Deddf 1997” (“the 1997 Act”) yw Deddf Addysg 1997(2);

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Cymwysterau Cymru 2015;

ystyr “y Gronfa Ddata” (“the Database”) yw’r gronfa ddata a gyhoeddir ar-lein(3) o’r enw “y Gronfa Ddata Cymwysterau Cymeradwy yng Nghymru” ac a elwir hefyd yn “DAQW”.

RHAN 2Cychwyn

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 21 Medi 2015

2.  Mae darpariaethau’r Ddeddf, i’r graddau nad ydynt wedi eu cychwyn eto, yn dod i rym ar 21 Medi 2015.

RHAN 3Darpariaethau trosiannol

Parhad: cyffredinol

3.—(1Mae’r erthygl hon yn gymwys i’r graddau y mae swyddogaeth, sy’n arferadwy gan Gymwysterau Cymru o 21 Medi 2015 ymlaen (“y swyddogaeth newydd”) yn cyfateb i swyddogaeth a oedd yn arferadwy gan Weinidogion Cymru o dan Ran 5 o Ddeddf 1997 cyn y dyddiad hwnnw (“yr hen swyddogaeth”).

(2Mae unrhyw beth sydd wedi ei wneud, neu sydd heb ei wneud, cyn 21 Medi 2015 gan neu mewn perthynas â Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad â’r hen swyddogaeth i gael ei drin, o’r dyddiad hwnnw, fel pe bai wedi ei wneud, neu i gael ei barhau, neu heb ei wneud, gan neu mewn perthynas â Chymwysterau Cymru mewn cysylltiad â’r swyddogaeth newydd.

(3O 21 Medi 2015 ymlaen, caiff Cymwysterau Cymru gymryd camau mewn cysylltiad â’r swyddogaeth newydd sy’n ymwneud ag amgylchiadau sy’n digwydd cyn y dyddiad hwnnw fel pe bai’r swyddogaeth newydd wedi bod mewn grym pan ddigwyddodd yr amgylchiadau a arweiniodd at ei harfer ac felly, o’r dyddiad hwnnw ymlaen, ni chaiff Gweinidogion Cymru gymryd camau mewn cysylltiad â’r hen swyddogaeth.

(4Yn unol â hynny, i’r graddau y bo’n angenrheidiol i roi effaith i baragraffau (1) i (3), mae cyfeiriadau at Weinidogion Cymru neu Lywodraeth Cymru (ym mha fodd bynnag y’u disgrifir) a’r hen swyddogaeth mewn dogfen sy’n ymwneud â’r hen swyddogaeth, a chyfeiriadau sy’n cymryd effaith fel cyfeiriadau at Weinidogion Cymru neu Lywodraeth Cymru (ym mha fodd bynnag y’u disgrifir) a’r hen swyddogaeth mewn dogfen o’r fath i gael eu darllen, o 21 Medi 2015 ymlaen, fel cyfeiriadau at Gymwysterau Cymru a’r swyddogaeth newydd.

(5Mae paragraffau (1) i (4) yn cael effaith yn ddarostyngedig i’r darpariaethau a ganlyn yn y Gorchymyn hwn.

(6At ddibenion paragraff (1), nid yw gosod cosb ariannol o dan adran 38(1) neu (2) o’r Ddeddf yn swyddogaeth sy’n arferadwy gan Gymwysterau Cymru o 21 Medi 2015 ymlaen.

Personau sydd i gael eu trin fel rhai sydd wedi eu cydnabod o dan adran 8

4.—(1Mae’r erthygl hon yn gymwys pan fo person, yn union cyn 21 Medi 2015, wedi ei gydnabod o dan adran 30(1)(e) o Ddeddf 1997(4) mewn cysylltiad â dyfarnu neu ddilysu cymhwyster perthnasol penodedig neu ddisgrifiad o gymhwyster perthnasol.

(2O 21 Medi 2015 ymlaen, mae’r person i gael ei drin fel un sydd wedi ei gydnabod o dan adran 8 (cydnabod corff dyfarnu yn gyffredinol) o’r Ddeddf.

(3Ond os yw’r person wedi hysbysu Gweinidogion Cymru yn ysgrifenedig cyn y dyddiad hwnnw nad yw’r person yn dymuno cael ei gydnabod o dan adran 8 mewn cysylltiad â chymhwyster neu ddisgrifiad o gymhwyster nad yw’r corff wedi ei gydnabod mewn cysylltiad ag ef o dan adran 30(1)(e) o Ddeddf 1997, mae’r person i gael ei drin fel pe bai wedi pennu’r cymhwyster hwnnw neu’r disgrifiad hwnnw o gymhwyster o dan adran 8(2) o’r Ddeddf.

Meini prawf cydnabod cyffredinol

5.—(1O 21 Medi 2015 ymlaen, mae’r meini prawf sydd wedi eu cynnwys yn y ddogfen a ddisgrifir ym mharagraff (2), yn ddarostyngedig i’r diwygiadau iddynt y darperir ar eu cyfer yn y ddogfen a ddisgrifir ym mharagraff (3), i gael eu trin fel y meini prawf cydnabod cyffredinol sydd wedi eu gosod a’u cyhoeddi gan Gymwysterau Cymru o dan adran 5 o’r Ddeddf.

(2Y ddogfen yw’r un â’r rhif ISBN 978 0 7504 7250 2, o’r enw “Criteria for Recognition March 2012” a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2012 ac a gyhoeddir ar-lein ym mis Medi 2015 a’i enw’n cynnwys y cyfeirnod QWRD0001(5).

(3Y ddogfen yw’r un o’r enw “Amendments to Criteria for Recognition” ac a gyhoeddir ar-lein ym mis Medi 2015 a’i enw’n cynnwys y cyfeirnod QWRD0002(6).

Ceisiadau am gydnabyddiaeth

6.—(1Mae’r erthygl hon yn gymwys pan fo person wedi gwneud cais i Weinidogion Cymru cyn 21 Medi 2015 am gydnabyddiaeth o dan adran 30(1)(e) o Ddeddf 1997 nad yw wedi ei dynnu’n ôl gan y person ac nad yw Gweinidogion Cymru wedi penderfynu yn ei gylch, cyn y dyddiad hwnnw.

(2O 21 Medi 2015 ymlaen, mae’r cais i gael ei drin fel cais i Gymwysterau Cymru gan y person am gydnabyddiaeth gyffredinol o dan adran 8 o’r Ddeddf.

(3Caiff y person, ar neu ar ôl 21 Medi 2015 ond cyn i Gymwysterau Cymru benderfynu pa un ai i gydnabod y person ai peidio, bennu’n ysgrifenedig i Gymwysterau Cymru gymhwyster neu ddisgrifiad o gymhwyster nad yw’r person yn dymuno cael ei gydnabod mewn cysylltiad â’i ddyfarnu ac mae’r person i gael ei drin fel pe bai wedi pennu’r cymhwyster neu’r disgrifiad o gymhwyster o dan adran 8(2) o’r Ddeddf.

Amodau cydnabod

7.—(1O 21 Medi 2015 ymlaen, mae’r amodau yn y ddogfen a ddisgrifir ym mharagraff (2), yn ddarostyngedig i’r diwygiadau iddynt y darperir ar eu cyfer yn y ddogfen a ddisgrifir ym mharagraff (3), i gael eu trin fel yr amodau cydnabod safonol a lunnir ac a gyhoeddir gan Gymwysterau Cymru o dan baragraff 2(1) o Atodlen 3 i’r Ddeddf.

(2Y ddogfen yw’r un o’r enw “General conditions of Recognition March 2015” a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2015(7) ac a gyhoeddir ar-lein ym mis Medi 2015 a’i enw’n cynnwys y cyfeirnod QWRD0003(8).

(3Y ddogfen yw’r un o’r enw “Amendments to General Conditions of Recognition” ac a gyhoeddir ar-lein ym mis Medi 2015 a’i enw’n cynnwys y cyfeirnod QWRD0004(9).

(4O 21 Medi 2015 ymlaen, ystyr cyfeiriadau yn y dogfennau a ddisgrifir ym mharagraffau (2) a (3) at “regulatory documents” yw’r dogfennau a restrir yn y ddogfen o’r enw “Qualifications Wales Regulatory Documents List” ac a gyhoeddir ar-lein ym mis Medi 2015 a’i enw’n cynnwys y cyfeirnod QWRD0005(10).

(5O 21 Medi 2015 ymlaen, ystyr cyfeiriadau yn y ddogfen a ddisgrifir ym mharagraff (2) at “certificate requirements” yw’r gofynion a nodir yn y ddogfen o’r enw “Additional Certificate Requirements” ac a gyhoeddir ar-lein ym mis Medi 2015 a’i enw’n cynnwys y cyfeirnod QWRD0006(11).

Ceisiadau i ildio cydnabyddiaeth

8.—(1Mae’r erthygl hon yn gymwys—

(a)pan fo person sydd wedi ei gydnabod o dan adran 30(1)(e) o Ddeddf 1997 wedi rhoi hysbysiad i Weinidogion Cymru o dan adran 32C(1) (ildio cydnabyddiaeth) o’r Ddeddf honno(12) cyn 21 Medi 2015 ac nad yw’r hysbysiad hwnnw wedi ei dynnu’n ôl, a

(b)pan na fo Gweinidogion Cymru wedi rhoi hysbysiad o dan adran 32C(2) cyn 21 Medi 2015 am y dyddiad y mae’r person hwnnw i beidio â chael ei gydnabod yn y cyswllt o dan sylw.

(2Os yw’r person hwnnw wedi rhoi hysbysiad sydd o fewn paragraff (4), mae’r person i gael ei drin fel pe bai wedi rhoi hysbysiad ildio o dan baragraff 17 o Atodlen 3 i’r Ddeddf—

(a)a geir ar y dyddiad y mae Gweinidogion Cymru neu Gymwysterau Cymru yn cael yr hysbysiad o fewn paragraff (4),

(b)sydd mewn cysylltiad â’r un cymwysterau â’r hysbysiad a roddir o dan adran 32C(1) o Ddeddf 1997, ac

(c)sy’n pennu’r dyddiad a roddir yn yr hysbysiad o fewn paragraff (4) fel y dyddiad at ddibenion paragraff 17(2) o’r Atodlen honno.

(3Os nad yw’r person, cyn 21 Medi 2015, wedi rhoi hysbysiad sydd o fewn paragraff (4), rhaid i Gymwysterau Cymru, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, hysbysu’r person bod rhaid iddo roi hysbysiad i Gymwysterau Cymru sydd o fewn paragraff (4) cyn y gall Cymwysterau Cymru benderfynu pa bryd y mae’r gydnabyddiaeth yn y cyswllt o dan sylw i beidio â chael effaith.

(4Mae hysbysiad o fewn y paragraff hwn os yw’n hysbysiad ysgrifenedig oddi wrth y person sy’n datgan y dyddiad y mae’r person yn dymuno peidio â chael ei gydnabod pan ddaw’r dyddiad hwnnw i ben ac os rhoddir yr hysbysiad—

(a)cyn 21 Medi 2015, fe’i rhoddir i Weinidogion Cymru, neu

(b)ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw, fe’i rhoddir i Gymwysterau Cymru.

Cymeradwyo cymwysterau ac ildio cymeradwyaeth

9.—(1Mae’r erthygl hon yn gymwys mewn perthynas â’r ffurfiau ar gymhwyster a restrir yn yr Atodlen.

(2O 21 Medi 2015 ymlaen, mae’r ffurfiau ar gymhwyster i gael eu trin fel pe baent wedi eu cymeradwyo o dan adran 19 o’r Ddeddf i’w dyfarnu yng Nghymru gan y corff dyfarnu a nodir yn enw’r ffurf ar gymhwyster o dan sylw.

(3Mae pob cymeradwyaeth yn rhinwedd paragraff (2) i gael ei thrin fel pe bai Cymwysterau Cymru wedi, o dan adran 22(3) o’r Ddeddf, ddyrannu’r rhif yn y cofnod cyfatebol ar gyfer y ffurf ar gymhwyster yn y golofn “Rhif / Number”.

(4Ac eithrio mewn perthynas â’r cymhwyster y cyfeirir ato ym mharagraff (5), mae pob cymeradwyaeth yn rhinwedd paragraff (2) i gael ei thrin fel pe bai Cymwysterau Cymru wedi, o dan adran 23(2) o’r Ddeddf, bennu’r cyfnod o 21 Medi 2015 hyd ddiwedd 31 Awst 2020 fel y cyfnod y mae’r gymeradwyaeth yn cael effaith.

(5Mae’r gymeradwyaeth yn rhinwedd paragraff (2) i’r cymhwyster y dyrennir y rhif 601/7663/5 iddo (TGAU Lefel 1/2 CBAC mewn Daearyddiaeth) i gael ei thrin fel pe bai Cymwysterau Cymru wedi, o dan adran 23(2) o’r Ddeddf, bennu’r cyfnod o 1 Medi 2016 hyd ddiwedd 31 Awst 2021 fel y cyfnod y mae’r gymeradwyaeth yn cael effaith.

(6Mae unrhyw hysbysiad o fewn paragraff (7) a roddir cyn 21 Medi 2015 i Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â ffurf ar gymhwyster gan y corff dyfarnu o dan sylw ac nad yw wedi ei dynnu’n ôl cyn y dyddiad hwnnw, i gael ei drin, o’r dyddiad hwnnw, fel hysbysiad ildio o dan adran 25 o’r Ddeddf.Mae’r hysbysiad yn hysbysiad ynghylch y disgwyliad y bydd y corff dyfarnu yn tynnu’r ffurf ar gymhwyster yn ôl o dan amod D7.3 o’r amodau cydnabod a osodir gan Weinidogion Cymru o dan adran 32(3A) o Ddeddf 1997(13).

Dynodi cymwysterau

10.—(1Mae’r erthygl hon yn gymwys mewn cysylltiad â’r ffurfiau ar gymhwyster sydd, ar 21 Medi 2015, wedi eu rhestru yn y Gronfa Ddata fel “live” (yn y maes “Statws”) ac eithrio’r rhai sydd wedi eu rhestru yn yr Atodlen.

(2O 21 Medi 2015 ymlaen, mae’r ffurfiau ar gymhwyster i gael eu trin fel pe baent wedi eu dynodi gan Gymwysterau Cymru o dan adran 29 o’r Ddeddf.

(3Mae pob dynodiad adran 29 yn rhinwedd paragraff (2) i gael ei drin fel pe bai Cymwysterau Cymru o dan adran 30(1) wedi pennu—

(a)21 Medi 2015 fel y dyddiad y mae’r dynodiad i gael effaith ohono, a

(b)y cynharaf o’r dyddiadau a ganlyn fel y dyddiad y mae’r dynodiad yn peidio â chael effaith pan ddaw’r dyddiad i ben—

(i)y dyddiad adolygu a nodir ar gyfer y ffurf ar gymhwyster ar y Gronfa Ddata ar 21 Medi 2015;

(ii)31 Awst 2018.

Ceisiadau i ddynodi cymwysterau

11.—(1Mae’r erthygl hon yn gymwys—

(a)pan fo person, cyn 21 Medi 2015, wedi cyflwyno ffurf ar gymhwyster perthnasol i Weinidogion Cymru, y mae’r person wedi ei gydnabod mewn cysylltiad â hi o dan adran 30(1)(e) o Ddeddf 1997, i gael ei hachredu o dan adran 30(1)(h) o’r Ddeddf honno ac nad yw wedi tynnu’r cyflwyno yn ôl,

(b)pan nododd y person, wrth gyflwyno’r ffurf ar gymhwyster, cyn 21 Medi 2015, i gael ei hachredu, ddymuniad i’r ffurf ar gymhwyster gael ei chyllido yng Nghymru, ac

(c)pan na fo Gweinidogion Cymru, cyn 21 Medi 2015, wedi penderfynu pa un ai i achredu’r ffurf ar gymhwyster ai peidio.

(2O 21 Medi 2015 ymlaen, mae cyflwyno’r ffurf ar gymhwyster i gael ei drin fel cais gan y person o dan adran 29(2) o’r Ddeddf i Gymwysterau Cymru i’r ffurf ar gymhwyster gael ei dynodi o dan yr adran honno.

Cwynion

12.—(1Mae’r erthygl hon yn gymwys pan fo cwyn wedi ei gwneud, cyn 21 Medi 2015, i Weinidogion Cymru mewn perthynas â mater a ddisgrifir ym mharagraff (2) ac nad yw Gweinidogion Cymru wedi cwblhau’r gwaith o’i hystyried.

(2Y materion yw fel a ganlyn—

(a)dyfarnu neu ddilysu ffurf ar gymhwyster gan berson sydd wedi ei gydnabod mewn cysylltiad â hi o dan adran 30(1)(e) o Ddeddf 1997;

(b)unrhyw weithgareddau eraill gan berson sydd wedi ei gydnabod o dan adran 30(1)(e) o Ddeddf 1997 sy’n berthnasol i’r gydnabyddiaeth honno.

(3O 21 Medi 2015 ymlaen, mae’r gŵyn i gael ei thrin at ddibenion adran 48 o’r Ddeddf fel cwyn a wneir i Gymwysterau Cymru.