2015 Rhif 1687 (Cy. 219) (C. 98)
Gorchymyn Deddf Cymwysterau Cymru 2015 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaethau Trosiannol ac Arbed) 2015
Gwnaed
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 60(2) a (3) o Ddeddf Cymwysterau Cymru 20151, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
RHAN 1Enwi a dehongli
Enwi a dehongli1
1
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cymwysterau Cymru 2015 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaethau Trosiannol ac Arbed) 2015.
2
Yn y Gorchymyn hwn—
mae i “cymhwyster perthnasol” yr un ystyr ag a roddir i “relevant qualification” yn adran 30 o Ddeddf 19972 fel y mae’r adran honno mewn grym yn union cyn 21 Medi 2015;
ystyr “Deddf 1997” (“the 1997 Act”) yw Deddf Addysg 19973;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Cymwysterau Cymru 2015;
ystyr “y Gronfa Ddata” (“the Database”) yw’r gronfa ddata a gyhoeddir ar-lein4 o’r enw “y Gronfa Ddata Cymwysterau Cymeradwy yng Nghymru” ac a elwir hefyd yn “DAQW”.
RHAN 2Cychwyn
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 21 Medi 20152
Mae darpariaethau’r Ddeddf, i’r graddau nad ydynt wedi eu cychwyn eto, yn dod i rym ar 21 Medi 2015.
RHAN 3Darpariaethau trosiannol
Parhad: cyffredinol3
1
Mae’r erthygl hon yn gymwys i’r graddau y mae swyddogaeth, sy’n arferadwy gan Gymwysterau Cymru o 21 Medi 2015 ymlaen (“y swyddogaeth newydd”) yn cyfateb i swyddogaeth a oedd yn arferadwy gan Weinidogion Cymru o dan Ran 5 o Ddeddf 1997 cyn y dyddiad hwnnw (“yr hen swyddogaeth”).
2
Mae unrhyw beth sydd wedi ei wneud, neu sydd heb ei wneud, cyn 21 Medi 2015 gan neu mewn perthynas â Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad â’r hen swyddogaeth i gael ei drin, o’r dyddiad hwnnw, fel pe bai wedi ei wneud, neu i gael ei barhau, neu heb ei wneud, gan neu mewn perthynas â Chymwysterau Cymru mewn cysylltiad â’r swyddogaeth newydd.
3
O 21 Medi 2015 ymlaen, caiff Cymwysterau Cymru gymryd camau mewn cysylltiad â’r swyddogaeth newydd sy’n ymwneud ag amgylchiadau sy’n digwydd cyn y dyddiad hwnnw fel pe bai’r swyddogaeth newydd wedi bod mewn grym pan ddigwyddodd yr amgylchiadau a arweiniodd at ei harfer ac felly, o’r dyddiad hwnnw ymlaen, ni chaiff Gweinidogion Cymru gymryd camau mewn cysylltiad â’r hen swyddogaeth.
4
Yn unol â hynny, i’r graddau y bo’n angenrheidiol i roi effaith i baragraffau (1) i (3), mae cyfeiriadau at Weinidogion Cymru neu Lywodraeth Cymru (ym mha fodd bynnag y’u disgrifir) a’r hen swyddogaeth mewn dogfen sy’n ymwneud â’r hen swyddogaeth, a chyfeiriadau sy’n cymryd effaith fel cyfeiriadau at Weinidogion Cymru neu Lywodraeth Cymru (ym mha fodd bynnag y’u disgrifir) a’r hen swyddogaeth mewn dogfen o’r fath i gael eu darllen, o 21 Medi 2015 ymlaen, fel cyfeiriadau at Gymwysterau Cymru a’r swyddogaeth newydd.
5
Mae paragraffau (1) i (4) yn cael effaith yn ddarostyngedig i’r darpariaethau a ganlyn yn y Gorchymyn hwn.
6
At ddibenion paragraff (1), nid yw gosod cosb ariannol o dan adran 38(1) neu (2) o’r Ddeddf yn swyddogaeth sy’n arferadwy gan Gymwysterau Cymru o 21 Medi 2015 ymlaen.
Personau sydd i gael eu trin fel rhai sydd wedi eu cydnabod o dan adran 84
1
Mae’r erthygl hon yn gymwys pan fo person, yn union cyn 21 Medi 2015, wedi ei gydnabod o dan adran 30(1)(e) o Ddeddf 19975 mewn cysylltiad â dyfarnu neu ddilysu cymhwyster perthnasol penodedig neu ddisgrifiad o gymhwyster perthnasol.
2
O 21 Medi 2015 ymlaen, mae’r person i gael ei drin fel un sydd wedi ei gydnabod o dan adran 8 (cydnabod corff dyfarnu yn gyffredinol) o’r Ddeddf.
3
Ond os yw’r person wedi hysbysu Gweinidogion Cymru yn ysgrifenedig cyn y dyddiad hwnnw nad yw’r person yn dymuno cael ei gydnabod o dan adran 8 mewn cysylltiad â chymhwyster neu ddisgrifiad o gymhwyster nad yw’r corff wedi ei gydnabod mewn cysylltiad ag ef o dan adran 30(1)(e) o Ddeddf 1997, mae’r person i gael ei drin fel pe bai wedi pennu’r cymhwyster hwnnw neu’r disgrifiad hwnnw o gymhwyster o dan adran 8(2) o’r Ddeddf.
Meini prawf cydnabod cyffredinol5
1
O 21 Medi 2015 ymlaen, mae’r meini prawf sydd wedi eu cynnwys yn y ddogfen a ddisgrifir ym mharagraff (2), yn ddarostyngedig i’r diwygiadau iddynt y darperir ar eu cyfer yn y ddogfen a ddisgrifir ym mharagraff (3), i gael eu trin fel y meini prawf cydnabod cyffredinol sydd wedi eu gosod a’u cyhoeddi gan Gymwysterau Cymru o dan adran 5 o’r Ddeddf.
2
Y ddogfen yw’r un â’r rhif ISBN 978 0 7504 7250 2, o’r enw “Criteria for Recognition March 2012” a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2012 ac a gyhoeddir ar-lein ym mis Medi 2015 a’i enw’n cynnwys y cyfeirnod QWRD00016.
3
Y ddogfen yw’r un o’r enw “Amendments to Criteria for Recognition” ac a gyhoeddir ar-lein ym mis Medi 2015 a’i enw’n cynnwys y cyfeirnod QWRD00027.
Ceisiadau am gydnabyddiaeth6
1
Mae’r erthygl hon yn gymwys pan fo person wedi gwneud cais i Weinidogion Cymru cyn 21 Medi 2015 am gydnabyddiaeth o dan adran 30(1)(e) o Ddeddf 1997 nad yw wedi ei dynnu’n ôl gan y person ac nad yw Gweinidogion Cymru wedi penderfynu yn ei gylch, cyn y dyddiad hwnnw.
2
O 21 Medi 2015 ymlaen, mae’r cais i gael ei drin fel cais i Gymwysterau Cymru gan y person am gydnabyddiaeth gyffredinol o dan adran 8 o’r Ddeddf.
3
Caiff y person, ar neu ar ôl 21 Medi 2015 ond cyn i Gymwysterau Cymru benderfynu pa un ai i gydnabod y person ai peidio, bennu’n ysgrifenedig i Gymwysterau Cymru gymhwyster neu ddisgrifiad o gymhwyster nad yw’r person yn dymuno cael ei gydnabod mewn cysylltiad â’i ddyfarnu ac mae’r person i gael ei drin fel pe bai wedi pennu’r cymhwyster neu’r disgrifiad o gymhwyster o dan adran 8(2) o’r Ddeddf.
Amodau cydnabod7
1
O 21 Medi 2015 ymlaen, mae’r amodau yn y ddogfen a ddisgrifir ym mharagraff (2), yn ddarostyngedig i’r diwygiadau iddynt y darperir ar eu cyfer yn y ddogfen a ddisgrifir ym mharagraff (3), i gael eu trin fel yr amodau cydnabod safonol a lunnir ac a gyhoeddir gan Gymwysterau Cymru o dan baragraff 2(1) o Atodlen 3 i’r Ddeddf.
2
3
Y ddogfen yw’r un o’r enw “Amendments to General Conditions of Recognition” ac a gyhoeddir ar-lein ym mis Medi 2015 a’i enw’n cynnwys y cyfeirnod QWRD000410.
4
O 21 Medi 2015 ymlaen, ystyr cyfeiriadau yn y dogfennau a ddisgrifir ym mharagraffau (2) a (3) at “regulatory documents” yw’r dogfennau a restrir yn y ddogfen o’r enw “Qualifications Wales Regulatory Documents List” ac a gyhoeddir ar-lein ym mis Medi 2015 a’i enw’n cynnwys y cyfeirnod QWRD000511.
5
O 21 Medi 2015 ymlaen, ystyr cyfeiriadau yn y ddogfen a ddisgrifir ym mharagraff (2) at “certificate requirements” yw’r gofynion a nodir yn y ddogfen o’r enw “Additional Certificate Requirements” ac a gyhoeddir ar-lein ym mis Medi 2015 a’i enw’n cynnwys y cyfeirnod QWRD000612.
Ceisiadau i ildio cydnabyddiaeth8
1
Mae’r erthygl hon yn gymwys—
a
pan fo person sydd wedi ei gydnabod o dan adran 30(1)(e) o Ddeddf 1997 wedi rhoi hysbysiad i Weinidogion Cymru o dan adran 32C(1) (ildio cydnabyddiaeth) o’r Ddeddf honno13 cyn 21 Medi 2015 ac nad yw’r hysbysiad hwnnw wedi ei dynnu’n ôl, a
b
pan na fo Gweinidogion Cymru wedi rhoi hysbysiad o dan adran 32C(2) cyn 21 Medi 2015 am y dyddiad y mae’r person hwnnw i beidio â chael ei gydnabod yn y cyswllt o dan sylw.
2
Os yw’r person hwnnw wedi rhoi hysbysiad sydd o fewn paragraff (4), mae’r person i gael ei drin fel pe bai wedi rhoi hysbysiad ildio o dan baragraff 17 o Atodlen 3 i’r Ddeddf—
a
a geir ar y dyddiad y mae Gweinidogion Cymru neu Gymwysterau Cymru yn cael yr hysbysiad o fewn paragraff (4),
b
sydd mewn cysylltiad â’r un cymwysterau â’r hysbysiad a roddir o dan adran 32C(1) o Ddeddf 1997, ac
c
sy’n pennu’r dyddiad a roddir yn yr hysbysiad o fewn paragraff (4) fel y dyddiad at ddibenion paragraff 17(2) o’r Atodlen honno.
3
Os nad yw’r person, cyn 21 Medi 2015, wedi rhoi hysbysiad sydd o fewn paragraff (4), rhaid i Gymwysterau Cymru, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, hysbysu’r person bod rhaid iddo roi hysbysiad i Gymwysterau Cymru sydd o fewn paragraff (4) cyn y gall Cymwysterau Cymru benderfynu pa bryd y mae’r gydnabyddiaeth yn y cyswllt o dan sylw i beidio â chael effaith.
4
Mae hysbysiad o fewn y paragraff hwn os yw’n hysbysiad ysgrifenedig oddi wrth y person sy’n datgan y dyddiad y mae’r person yn dymuno peidio â chael ei gydnabod pan ddaw’r dyddiad hwnnw i ben ac os rhoddir yr hysbysiad—
a
cyn 21 Medi 2015, fe’i rhoddir i Weinidogion Cymru, neu
b
ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw, fe’i rhoddir i Gymwysterau Cymru.
Cymeradwyo cymwysterau ac ildio cymeradwyaeth9
1
Mae’r erthygl hon yn gymwys mewn perthynas â’r ffurfiau ar gymhwyster a restrir yn yr Atodlen.
2
O 21 Medi 2015 ymlaen, mae’r ffurfiau ar gymhwyster i gael eu trin fel pe baent wedi eu cymeradwyo o dan adran 19 o’r Ddeddf i’w dyfarnu yng Nghymru gan y corff dyfarnu a nodir yn enw’r ffurf ar gymhwyster o dan sylw.
3
Mae pob cymeradwyaeth yn rhinwedd paragraff (2) i gael ei thrin fel pe bai Cymwysterau Cymru wedi, o dan adran 22(3) o’r Ddeddf, ddyrannu’r rhif yn y cofnod cyfatebol ar gyfer y ffurf ar gymhwyster yn y golofn “Rhif / Number”.
4
Ac eithrio mewn perthynas â’r cymhwyster y cyfeirir ato ym mharagraff (5), mae pob cymeradwyaeth yn rhinwedd paragraff (2) i gael ei thrin fel pe bai Cymwysterau Cymru wedi, o dan adran 23(2) o’r Ddeddf, bennu’r cyfnod o 21 Medi 2015 hyd ddiwedd 31 Awst 2020 fel y cyfnod y mae’r gymeradwyaeth yn cael effaith.
5
Mae’r gymeradwyaeth yn rhinwedd paragraff (2) i’r cymhwyster y dyrennir y rhif 601/7663/5 iddo (TGAU Lefel 1/2 CBAC mewn Daearyddiaeth) i gael ei thrin fel pe bai Cymwysterau Cymru wedi, o dan adran 23(2) o’r Ddeddf, bennu’r cyfnod o 1 Medi 2016 hyd ddiwedd 31 Awst 2021 fel y cyfnod y mae’r gymeradwyaeth yn cael effaith.
6
Mae unrhyw hysbysiad o fewn paragraff (7) a roddir cyn 21 Medi 2015 i Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â ffurf ar gymhwyster gan y corff dyfarnu o dan sylw ac nad yw wedi ei dynnu’n ôl cyn y dyddiad hwnnw, i gael ei drin, o’r dyddiad hwnnw, fel hysbysiad ildio o dan adran 25 o’r Ddeddf.Mae’r hysbysiad yn hysbysiad ynghylch y disgwyliad y bydd y corff dyfarnu yn tynnu’r ffurf ar gymhwyster yn ôl o dan amod D7.3 o’r amodau cydnabod a osodir gan Weinidogion Cymru o dan adran 32(3A) o Ddeddf 199714.
Dynodi cymwysterau10
1
Mae’r erthygl hon yn gymwys mewn cysylltiad â’r ffurfiau ar gymhwyster sydd, ar 21 Medi 2015, wedi eu rhestru yn y Gronfa Ddata fel “live” (yn y maes “Statws”) ac eithrio’r rhai sydd wedi eu rhestru yn yr Atodlen.
2
O 21 Medi 2015 ymlaen, mae’r ffurfiau ar gymhwyster i gael eu trin fel pe baent wedi eu dynodi gan Gymwysterau Cymru o dan adran 29 o’r Ddeddf.
3
Mae pob dynodiad adran 29 yn rhinwedd paragraff (2) i gael ei drin fel pe bai Cymwysterau Cymru o dan adran 30(1) wedi pennu—
a
21 Medi 2015 fel y dyddiad y mae’r dynodiad i gael effaith ohono, a
b
y cynharaf o’r dyddiadau a ganlyn fel y dyddiad y mae’r dynodiad yn peidio â chael effaith pan ddaw’r dyddiad i ben—
i
y dyddiad adolygu a nodir ar gyfer y ffurf ar gymhwyster ar y Gronfa Ddata ar 21 Medi 2015;
ii
31 Awst 2018.
Ceisiadau i ddynodi cymwysterau11
1
Mae’r erthygl hon yn gymwys—
a
pan fo person, cyn 21 Medi 2015, wedi cyflwyno ffurf ar gymhwyster perthnasol i Weinidogion Cymru, y mae’r person wedi ei gydnabod mewn cysylltiad â hi o dan adran 30(1)(e) o Ddeddf 1997, i gael ei hachredu o dan adran 30(1)(h) o’r Ddeddf honno ac nad yw wedi tynnu’r cyflwyno yn ôl,
b
pan nododd y person, wrth gyflwyno’r ffurf ar gymhwyster, cyn 21 Medi 2015, i gael ei hachredu, ddymuniad i’r ffurf ar gymhwyster gael ei chyllido yng Nghymru, ac
c
pan na fo Gweinidogion Cymru, cyn 21 Medi 2015, wedi penderfynu pa un ai i achredu’r ffurf ar gymhwyster ai peidio.
2
O 21 Medi 2015 ymlaen, mae cyflwyno’r ffurf ar gymhwyster i gael ei drin fel cais gan y person o dan adran 29(2) o’r Ddeddf i Gymwysterau Cymru i’r ffurf ar gymhwyster gael ei dynodi o dan yr adran honno.
Cwynion12
1
Mae’r erthygl hon yn gymwys pan fo cwyn wedi ei gwneud, cyn 21 Medi 2015, i Weinidogion Cymru mewn perthynas â mater a ddisgrifir ym mharagraff (2) ac nad yw Gweinidogion Cymru wedi cwblhau’r gwaith o’i hystyried.
2
Y materion yw fel a ganlyn—
a
dyfarnu neu ddilysu ffurf ar gymhwyster gan berson sydd wedi ei gydnabod mewn cysylltiad â hi o dan adran 30(1)(e) o Ddeddf 1997;
b
unrhyw weithgareddau eraill gan berson sydd wedi ei gydnabod o dan adran 30(1)(e) o Ddeddf 1997 sy’n berthnasol i’r gydnabyddiaeth honno.
3
O 21 Medi 2015 ymlaen, mae’r gŵyn i gael ei thrin at ddibenion adran 48 o’r Ddeddf fel cwyn a wneir i Gymwysterau Cymru.
RHAN 4Darpariaeth arbed
Cymwysterau sydd wedi eu hachredu at ddibenion Rheoliadau’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol 201513
Er gwaethaf diddymu adran 30 o Ddeddf 1997 gan y Ddeddf, mae cymhwyster sydd wedi ei achredu gan Weinidogion Cymru yn unol â’r adran honno i barhau i gael ei drin fel cymhwyster sydd wedi ei achredu at ddibenion y diffiniad o “further education course” yn rheoliad 3 o Reoliadau’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol 201515.
YR ATODLENFfurfiau ar gymhwyster sydd i gael eu trin fel rhai a gymeradwyir o dan adran 19 o’r Ddeddf
Enw | Title | Rhif / Number |
---|---|---|
TGAU Lefel 1/2 CBAC mewn Cymraeg Iaith | WJEC Level 1/2 GCSE in Cymraeg Iaith | 601/4944/9 |
TGAU Lefel 1/2 CBAC mewn Daearyddiaeth | WJEC Level 1/2 GCSE in Geography | 601/7663/5 |
TGAU Lefel 1/2 CBAC mewn Llenyddiaeth Gymraeg | WJEC Level 1/2 GCSE in Llenyddiaeth Gymraeg | 601/4914/0 |
TGAU Lefel 1/2 CBAC mewn Llenyddiaeth Saesneg | WJEC Level 1/2 GCSE in English Literature | 601/4942/5 |
TGAU Lefel 1/2 CBAC mewn Mathemateg | WJEC Level 1/2 GCSE in Mathematics | 601/4907/3 |
TGAU Lefel 1/2 CBAC mewn Mathemateg - Rhifedd | WJEC Level 1/2 GCSE in Mathematics – Numeracy | 601/4908/5 |
TGAU Lefel 1/2 CBAC mewn Saesneg Iaith | WJEC Level 1/2 GCSE in English Language | 601/4943/7 |
Enw | Title | Rhif / Number |
---|---|---|
TAG Uwch Gyfrannol Lefel 3 CBAC mewn Bioleg | WJEC Level 3 Advanced Subsidiary GCE in Biology | 601/5864/5 |
TAG Uwch Gyfrannol Lefel 3 CBAC mewn Busnes | WJEC Level 3 Advanced Subsidiary GCE in Business | 601/5260/6 |
TAG Uwch Gyfrannol Lefel 3 CBAC mewn Celf a Dylunio | WJEC Level 3 Advanced Subsidiary GCE in Art and Design | 601/5347/7 |
TAG Uwch Gyfrannol Lefel 3 CBAC mewn Cemeg | WJEC Level 3 Advanced Subsidiary GCE in Chemistry | 601/5866/9 |
TAG Uwch Gyfrannol Lefel 3 CBAC mewn Cyfrifiadureg | WJEC Level 3 Advanced Subsidiary GCE in Computer Science | 601/5391/X |
TAG Uwch Gyfrannol Lefel 3 CBAC mewn Cymdeithaseg | WJEC Level 3 Advanced Subsidiary GCE in Sociology | 601/5258/8 |
TAG Uwch Gyfrannol Lefel 3 CBAC mewn Cymraeg Iaith Gyntaf | WJEC Level 3 Advanced Subsidiary GCE in Cymraeg Iaith Gyntaf | 601/5403/2 |
TAG Uwch Gyfrannol Lefel 3 CBAC mewn Economeg | WJEC Level 3 Advanced Subsidiary GCE in Economics | 601/5228/X |
TAG Uwch Gyfrannol Lefel 3 CBAC mewn Ffiseg | WJEC Level 3 Advanced Subsidiary GCE in Physics | 601/5867/0 |
TAG Uwch Gyfrannol Lefel 3 CBAC mewn Hanes | WJEC Level 3 Advanced Subsidiary GCE in History | 601/5830/X |
TAG Uwch Gyfrannol Lefel 3 CBAC mewn Iaith a Llenyddiaeth Saesneg | WJEC Level 3 Advanced Subsidiary GCE in English Language and Literature | 601/5404/4 |
TAG Uwch Gyfrannol Lefel 3 CBAC mewn Llenyddiaeth Saesneg | WJEC Level 3 Advanced Subsidiary GCE in English Literature | 601/5405/6 |
TAG Uwch Gyfrannol Lefel 3 CBAC mewn Saesneg Iaith | WJEC Level 3 Advanced Subsidiary GCE in English Language | 601/5390/8 |
TAG Uwch Gyfrannol Lefel 3 CBAC mewn Seicoleg | WJEC Level 3 Advanced Subsidiary GCE in Psychology | 601/5759/8 |
Enw | Title | Rhif / Number |
---|---|---|
TAG Safon Uwch Lefel 3 CBAC mewn Bioleg | WJEC Level 3 Advanced GCE in Biology | 601/5846/3 |
TAG Safon Uwch Lefel 3 CBAC mewn Busnes | WJEC Level 3 Advanced GCE in Business | 601/5238/2 |
TAG Safon Uwch Lefel 3 CBAC mewn Celf a Dylunio | WJEC Level 3 Advanced GCE in Art and Design | 601/5290/4 |
TAG Safon Uwch Lefel 3 CBAC mewn Cemeg | WJEC Level 3 Advanced GCE in Chemistry | 601/5847/5 |
TAG Safon Uwch Lefel 3 CBAC mewn Cyfrifiadureg | WJEC Level 3 Advanced GCE in Computer Science | 601/5345/3 |
TAG Safon Uwch Lefel 3 CBAC mewn Cymdeithaseg | WJEC Level 3 Advanced GCE in Sociology | 601/5237/0 |
TAG Safon Uwch Lefel 3 CBAC mewn Cymraeg Iaith Gyntaf | WJEC Level 3 Advanced GCE in Cymraeg Iaith Gyntaf | 601/5392/1 |
TAG Safon Uwch Lefel 3 CBAC mewn Economeg | WJEC Level 3 Advanced GCE in Economics | 601/5034/8 |
TAG Safon Uwch Lefel 3 CBAC mewn Ffiseg | WJEC Level 3 Advanced GCE in Physics | 601/5848/7 |
TAG Safon Uwch Lefel 3 CBAC mewn Hanes | WJEC Level 3 Advanced GCE in History | 601/5817/7 |
TAG Safon Uwch Lefel 3 CBAC mewn Iaith a Llenyddiaeth Saesneg | WJEC Level 3 Advanced GCE in English Language and Literature | 601/5388/X |
TAG Safon Uwch Lefel 3 CBAC mewn Llenyddiaeth Saesneg | WJEC Level 3 Advanced GCE in English Literature | 601/5389/1 |
TAG Safon Uwch Lefel 3 CBAC mewn Saesneg Iaith | WJEC Level 3 Advanced GCE in English Language | 601/5346/5 |
TAG Safon Uwch Lefel 3 CBAC mewn Seicoleg | WJEC Level 3 Advanced GCE in Psychology | 601/5719/7 |
Enw | Title | Rhif / Number |
---|---|---|
Tystysgrif Her Sgiliau Genedlaethol / Sylfaen CBAC | WJEC National / Foundation Skills Challenge Certificate | 601/4915/2 |
Tystysgrif Her Sgiliau Sylfaen (ôl-16) CBAC | WJEC Foundation (post-16) Skills Challenge Certificate | 601/4941/3 |
Tystysgrif Her Sgiliau Genedlaethol (ôl-16) CBAC | WJEC National (post-16) Skills Challenge Certificate | 601/4916/4 |
Tystysgrif Her Sgiliau Uwch CBAC | WJEC Advanced Skills Challenge Certificate | 601/4917/6 |
Bagloriaeth Genedlaethol / Sylfaen Cymru CBAC | WJEC National / Foundation Welsh Baccalaureate | 601/4918/8 |
Bagloriaeth Sylfaen (ôl-16) Cymru CBAC | WJEC Foundation (post-16) Welsh Baccalaureate | 601/4920/6 |
Bagloriaeth Genedlaethol (ôl-16) Cymru CBAC | WJEC National (post-16) Welsh Baccalaureate | 601/4919/X |
Bagloriaeth Uwch Cymru CBAC | WJEC Advanced Welsh Baccalaureate | 601/4921/8 |
Enw | Title | Rhif / Number |
---|---|---|
Sgiliau Cyfathrebu Hanfodol Lefel 1 Agored Cymru | Agored Cymru Level 1 Essential Communication Skills | 601/6825/0 |
Sgiliau Cyfathrebu Hanfodol Lefel 2 Agored Cymru | Agored Cymru Level 2 Essential Communication Skills | 601/6828/6 |
Sgiliau Cyfathrebu Hanfodol Lefel 3 Agored Cymru | Agored Cymru Level 3 Essential Communication Skills | 601/6829/8 |
Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol Lefel Mynediad Agored Cymru (Mynediad 3) | Agored Cymru Entry Level Essential Employability Skills (Entry 3) | 601/6866/3 |
Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol Lefel 1 Agored Cymru | Agored Cymru Level 1 Essential Employability Skills | 601/6924/2 |
Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol Lefel 2 Agored Cymru | Agored Cymru Level 2 Essential Employability Skills | 601/6864/X |
Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol Lefel 3 Agored Cymru | Agored Cymru Level 3 Essential Employability Skills | 601/6865/1 |
Sgiliau Cymhwyso Rhif Hanfodol Lefel 1 Agored Cymru | Agored Cymru Level 1 Essential Application of Number Skills | 601/6846/8 |
Sgiliau Cymhwyso Rhif Hanfodol Lefel 2 Agored Cymru | Agored Cymru Level 2 Essential Application of Number Skills | 601/6847/X |
Sgiliau Cymhwyso Rhif Hanfodol Lefel 3 Agored Cymru | Agored Cymru Level 3 Essential Application of Number Skills | 601/6863/8 |
Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol Lefel Mynediad Agored Cymru (Mynediad 1) | Agored Cymru Entry Level Essential Digital Literacy Skills (Entry 1) | 601/6873/0 |
Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol Lefel Mynediad Agored Cymru (Mynediad 2) | Agored Cymru Entry Level Essential Digital Literacy Skills (Entry 2) | 601/6874/2 |
Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol Lefel Mynediad Agored Cymru (Mynediad 3) | Agored Cymru Entry Level Essential Digital Literacy Skills (Entry 3) | 601/6876/6 |
Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol Lefel 1 Agored Cymru | Agored Cymru Level 1 Essential Digital Literacy Skills | 601/6868/7 |
Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol Lefel 2 Agored Cymru | Agored Cymru Level 2 Essential Digital Literacy Skills | 601/6870/5 |
Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol Lefel 3 Agored Cymru | Agored Cymru Level 3 Essential Digital Literacy Skills | 601/6872/9 |
Sgiliau Cyfathrebu Hanfodol Lefel 1 CBAC | WJEC Level 1 Essential Communication Skills | 601/6859/6 |
Sgiliau Cyfathrebu Hanfodol Lefel 2 CBAC | WJEC Level 2 Essential Communication Skills | 601/6860/2 |
Sgiliau Cyfathrebu Hanfodol Lefel 3 CBAC | WJEC Level 3 Essential Communication Skills | 601/6861/4 |
Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol Lefel Mynediad CBAC (Mynediad 3) | WJEC Entry Level Essential Employability Skills (Entry 3) | 601/6867/5 |
Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol Lefel 1 CBAC | WJEC Level 1 Essential Employability Skills | 601/6869/9 |
Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol Lefel 2 CBAC | WJEC Level 2 Essential Employability Skills | 601/6871/7 |
Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol Lefel 3 CBAC | WJEC Level 3 Essential Employability Skills | 601/6875/4 |
Sgiliau Cymhwyso Rhif Hanfodol Lefel 1 CBAC | WJEC Level 1 Essential Application of Number Skills | 601/6852/3 |
Sgiliau Cymhwyso Rhif Hanfodol Lefel 2 CBAC | WJEC Level 2 Essential Application of Number Skills | 601/6857/2 |
Sgiliau Cymhwyso Rhif Hanfodol Lefel 3 CBAC | WJEC Level 3 Essential Application of Number Skills | 601/6858/4 |
Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol Lefel Mynediad CBAC (Mynediad 1) | WJEC Entry Level Essential Digital Literacy Skills (Entry 1) | 601/6797/X |
Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol Lefel Mynediad CBAC (Mynediad 2) | WJEC Entry Level Essential Digital Literacy Skills (Entry 2) | 601/6798/1 |
Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol Lefel Mynediad CBAC (Mynediad 3) | WJEC Entry Level Essential Digital Literacy Skills (Entry 3) | 601/6799/3 |
Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol Lefel 1 CBAC | WJEC Level 1 Essential Digital Literacy Skills | 601/6850/X |
Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol Lefel 2 CBAC | WJEC Level 2 Essential Digital Literacy Skills | 601/6851/1 |
Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol Lefel 3 CBAC | WJEC Level 3 Essential Digital Literacy Skills | 601/6862/6 |
Sgiliau Cyfathrebu Hanfodol Lefel 1 City and Guilds | City and Guilds Level 1 Essential Communication Skills | 601/6805/5 |
Sgiliau Cyfathrebu Hanfodol Lefel 2 City and Guilds | City and Guilds Level 2 Essential Communication Skills | 601/6809/2 |
Sgiliau Cyfathrebu Hanfodol Lefel 3 City and Guilds | City and Guilds Level 3 Essential Communication Skills | 601/6813/4 |
Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol Lefel Mynediad City and Guilds (Mynediad 3) | City and Guilds Entry Level Essential Employability Skills (Entry 3) | 601/6804/3 |
Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol Lefel 1 City and Guilds | City and Guilds Level 1 Essential Employability Skills | 601/6807/9 |
Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol Lefel 2 City and Guilds | City and Guilds Level 2 Essential Employability Skills | 601/6811/0 |
Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol Lefel 3 City and Guilds | City and Guilds Level 3 Essential Employability Skills | 601/6814/6 |
Sgiliau Cymhwyso Rhif Hanfodol Lefel 1 City and Guilds | City and Guilds Level 1 Essential Application of Number Skills | 601/6802/X |
Sgiliau Cymhwyso Rhif Hanfodol Lefel 2 City and Guilds | City and Guilds Level 2 Essential Application of Number Skills | 601/6808/0 |
Sgiliau Cymhwyso Rhif Hanfodol Lefel 3 City and Guilds | City and Guilds Level 3 Essential Application of Number Skills | 601/6812/2 |
Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol Lefel Mynediad City and Guilds (Mynediad 1) | City and Guilds Entry Level Essential Digital Literacy Skills (Entry 1) | 601/6800/6 |
Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol Lefel Mynediad City and Guilds (Mynediad 2) | City and Guilds Entry Level Essential Digital Literacy Skills (Entry 2) | 601/6803/1 |
Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol Lefel Mynediad City and Guilds (Mynediad 3) | City and Guilds Entry Level Essential Digital Literacy Skills (Entry 3) | 601/6801/8 |
Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol Lefel 1 City and Guilds | City and Guilds Level 1 Essential Digital Literacy Skills | 601/6806/7 |
Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol Lefel 2 City and Guilds | City and Guilds Level 2 Essential Digital Literacy Skills | 601/6810/9 |
Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol Lefel 3 City and Guilds | City and Guilds Level 3 Essential Digital Literacy Skills | 601/6820/1 |
Sgiliau Cyfathrebu Hanfodol Lefel 1 BTEC Pearson | Pearson BTEC Level 1 Essential Communication Skills | 601/6835/3 |
Sgiliau Cyfathrebu Hanfodol Lefel 2 BTEC Pearson | Pearson BTEC Level 2 Essential Communication Skills | 601/6839/0 |
Sgiliau Cyfathrebu Hanfodol Lefel 3 BTEC Pearson | Pearson BTEC Level 3 Essential Communication Skills | 601/6843/2 |
Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol Lefel Mynediad BTEC Pearson (Mynediad 3) | Pearson BTEC Entry Level Essential Employability Skills (Entry 3) | 601/6833/X |
Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol Lefel 1 BTEC Pearson | Pearson BTEC Level 1 Essential Employability Skills | 601/6837/7 |
Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol Lefel 2 BTEC Pearson | Pearson BTEC Level 2 Essential Employability Skills | 601/6841/9 |
Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol Lefel 3 BTEC Pearson | Pearson BTEC Level 3 Essential Employability Skills | 601/6845/6 |
Sgiliau Cymhwyso Rhif Hanfodol Lefel 1 BTEC Pearson | Pearson BTEC Level 1 Essential Application of Number Skills | 601/6834/1 |
Sgiliau Cymhwyso Rhif Hanfodol Lefel 2 BTEC Pearson | Pearson BTEC Level 2 Essential Application of Number Skills | 601/6838/9 |
Sgiliau Cymhwyso Rhif Hanfodol Lefel 3 BTEC Pearson | Pearson BTEC Level 3 Essential Application of Number Skills | 601/6842/0 |
Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol Lefel Mynediad BTEC Pearson (Mynediad 1) | Pearson BTEC Entry Level Essential Digital Literacy Skills (Entry 1) | 601/6830/4 |
Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol Lefel Mynediad BTEC Pearson (Mynediad 2) | Pearson BTEC Entry Level Essential Digital Literacy Skills (Entry 2) | 601/6831/6 |
Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol Lefel Mynediad BTEC Pearson (Mynediad 3) | Pearson BTEC Entry Level Essential Digital Literacy Skills (Entry 3) | 601/6832/8 |
Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol Lefel 1 BTEC Pearson | Pearson BTEC Level 1 Essential Digital Literacy Skills | 601/6836/5 |
Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol Lefel 2 BTEC Pearson | Pearson BTEC Level 2 Essential Digital Literacy Skills | 601/6840/7 |
Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol Lefel 3 BTEC Pearson | Pearson BTEC Level 3 Essential Digital Literacy Skills | 601/6844/4 |
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Y Ddarpariaeth | Y Dyddiad Cychwyn | Rhif O.S. |
---|---|---|
Adran 2(1) | 6 Awst 2015 | |
Adran 2(2) (yn rhannol) | 6 Awst 2015 | |
Atodlen 1, Rhan 1, (paragraffau 1 – 35) | 6 Awst 2015 | |
Atodlen 1, paragraff 37 | 6 Awst 2015 |